Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio
Cylch gorchwyl Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio.
Cynnwys
Cefndir: polisi pobl hŷn
Mae gan Gymru draddodiad o gefnogi pobl hŷn yng Nghymru; o gyflwyno'r Strategaeth gyntaf ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn 2003, i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf y byd yn 2008.
Roedd cyflwyno deddfwriaeth newydd yng Nghymru megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2014 yn golygu nad oedd polisïau blaenorol bellach yn gyfoes. Roedd y newid hwn yn y dirwedd ddeddfwriaethol, ynghyd â'r wybodaeth bod poblogaethau ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru, yn byw'n hirach nag erioed o'r blaen, yn golygu bod angen polisi newydd er mwyn i Gymru ymateb i'r her fyd-eang hon.
Charaeodd Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio (MAFA) ran ganolog yn y gwaith o ddatblygu'r Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Cafodd y strategaeth ei lansio yn 2021, ac mae'n mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar draws amrywiaeth o feysydd polisi, gan sicrhau bod llais pobl hŷn wrth wraidd proses Llywodraeth Cymru o lunio polisïau.
Ein gweledigaeth ni yw creu Cymru oed-gyfeillgar sy'n dathlu oed, ac yn unol ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, sydd yn wlad sy'n cefnogi annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, bodlondeb, ac urddas pobl hŷn bob amser.
Ym mis Ebrill 2022, cafodd Cynllun Cyflawni ei gyhoeddi i gyd-fynd â'r strategaeth, ac mae'r cael ei ddiweddaru yn ôl y cynnydd a wneir bob blwyddyn.
Mae MAFA yn parhau i fonitro'r gwaith o weithredu'r strategaeth. Mae'r fforwm hefyd yn rhoi cyngor i Weinidogion, a gall hynny arwain at welliannau ym mywydau pobl hŷn yng Nghymru.
Rôl Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio
Bydd MAFA yn adrodd i'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant sy'n gyfrifol am bobl hŷn fel rhan o'i phortffolio.
Bydd MAFA yn darparu cyngor arbenigol a chytbwys i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru o ran y canlynol:
- hynt y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio, a'i heffeithiau
- meysydd lle mae'n rhaid cymryd camau ychwanegol er mwyn gwella llesiant pobl hŷn
- materion newydd neu faterion sy'n dod i'r amlwg a allai effeithio'n negyddol ar bobl hŷn, sef materion na chyfeirir atynt yn y strategaeth
Strwythur Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio
Bydd pedwar cyfarfod "rhithwir" o grŵp "craidd" MAFA yn cael eu cynnal bob blwyddyn, gan gynnwys un cyfarfod hybrid a fydd yn caniatáu i aelodau gwrdd wyneb yn wyneb, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn, nad ydynt yn cymryd rhan yn strwythur ffurfiol MAFA, hefyd yn cael eu clywed, rhoddir swm bach o gyllid i Age Cymru i gynnal digwyddiadau ymgysylltu mewn lleoliadau cymunedol lleol ledled Cymru.
Bydd Cadeirydd, a benodir gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, yn gyrru gwaith y Fforwm ac yn darparu craffu ychwanegol. Bydd y Cadeirydd yn gwasanaethu am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd, ond gall barhau yn y swydd yn amodol ar gytundeb gan aelodau MAFA. Gall y Cadeirydd wneud y penderfyniad i gamu i lawr ar unrhyw adeg.
Nid yw'r aelodau na'r Cadeirydd yn benodiadau cyhoeddus.
Bydd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru statws arsylwi.
Grŵp ‘craidd’ Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio
Bydd gan y grŵp craidd aelodaeth sefydlog o oddeutu 30 o unigolion. Bydd 50% o aelodaeth y grŵp craidd hwn yn cynnwys pobl hŷn. Bydd y 50% arall yn cynnwys gweithwyr proffesiynol. Bydd yr aelodaeth yn cynnwys cynrychiolaeth gan unigolion â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft menywod hŷn, grwpiau Du ac ethnig leiafrifol, ac aelodau LHDTC+ hŷn. Disgwylir i holl aelodau'r grŵp craidd wneud y canlynol:
- cynrychioli eu sefydliadau neu grwpiau cynrychiadol mewn cyfarfodydd, gan defnyddio hyn fel sail ar gyfer darparu cyngor cytbwys
- rhoi adborth i'w sefydliadau neu grwpiau cynrychiadol ar ôl cyfarfodydd;
- dylanwadu ar ddiwylliant cadarnhaol yn eu sefydliadau eu hunain er mwyn annog gweithredu i gefnogi poblogaeth sy'n heneiddio
- darparu ffocws ac ysgogiad ar gyfer trafod a chefnogi'r gwaith o ddatblygu polisïau effeithiol er budd pobl hŷn
- rhannu arferion da oddi wrth eu sefydliadau/grŵp cynrychiadol
- herio a thrafod syniadau a pholisïau mewn modd parchus
Efallai y bydd aelodau'n dymuno gwahodd sefydliadau eraill i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu agweddau penodol ar y rhaglen waith yn ôl yr angen; bydd hyn yn cynnwys sefydlu is-grwpiau ar gyfer ymgymryd â darnau penodol o waith.
Teithio a chynhaliaeth
Bydd costau teithio a chynhaliaeth yn cael eu talu i aelodau hŷn yn unig, sef rhai sy'n mynychu cyfarfodydd yn wirfoddol. Gall y gost o aros dros nos fod ar gael ar gais gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol neu'r pellter a deithiwyd.
