Ffoaduriaid a gofal plant a chwarae
Cyngor i ddarparwyr gofal plant ac awdurdodau lleol ar ofal plant i ffoaduriaid.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Canllawiau ar gyfer darparwyr
Rwy’n ddarparwr gofal plant ac yn awyddus i helpu ffoaduriaid, fel y bobl sy'n dod o Wcráin
Deallwn fod pobl yn awyddus i helpu pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n dod o Wcráin, mae hynny’n sicr yn rhan o ysbryd cymdogol pob un ohonom i sicrhau bod Cymru yn "genedl noddfa” i bob ffoadur. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru yn wlad y gall pobl sy'n ceisio noddfa fynd iddi a chael eu croesawu a’u deall, a bod eu cyfraniad unigryw i fywyd Cymru yn cael ei glodfori. Os gymryd rhan, ewch i Cymru: Cenedl Noddfa.
Y peth pwysicaf o hyd yw anghenion unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd eisoes yn byw yn eich cartref a'r plant yr ydych yn darparu gofal plant cofrestredig ar eu cyfer. Ni ddylid edrych heibio i les na phrofiad y plant hynny a dylid eu hystyried mewn unrhyw benderfyniadau a wneir. Dylai pawb sy'n byw yn y cartref fod yn rhan o benderfyniadau ynghylch dod yn deulu sy’n noddi.
Rhaid i ni hefyd ystyried diogelwch y ffoadur. Caethwasiaeth fodern yw'r ecsbloetio anghyfreithlon ar bobl er budd personol neu fasnachol. Mae ffoaduriaid a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli yn arbennig o agored i gael eu dal mewn arferion caethwasiaeth fodern.
Gall dioddefwyr caethwasiaeth fodern fod yn unrhyw oed, rhyw, cenedligrwydd, neu ethnigrwydd. Maen nhw'n cael eu twyllo neu eu bygwth i'r gwaith ac efallai na fyddant yn gallu gadael neu roi gwybod am y drosedd drwy ofn neu fygwth. Efallai na fyddant yn adnabod eu hunain fel dioddefwr.
Mae rhagor o wybodaeth, a dolenni i adnoddau pellach ynghylch adnabod caethwasiaeth fodern a beth i'w wneud ar GOV.UK a Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio ar wefan Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
A gaf i groesawu ffoadur i fy nghartref a pharhau i ddarparu gofal plant cofrestredig? Beth sydd angen i mi ei wybod o ran gwiriadau diogelwch?
Gallwch gartrefu ffoadur ond bydd angen i chi sicrhau eu bod wedi mynd drwy broses fetio sy’n cydymffurfio â'r gofynion rheoleiddio fel y byddech gydag unrhyw aelod arall o’r aelwyd.
Yn achos y rhai o Wcráin, rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin fodloni rhai gwiriadau diogelwch sylfaenol cyn ymadael. Y Swyddfa Gartref fydd yn arwain y gwiriadau hyn. Bydd pawb sy’n llwyddiannus yn cael fisa cychwynnol sy'n rhoi caniatâd iddynt fyw a gweithio yn y DU am chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw bydd angen iddynt gyflwyno manylion biometrig mewn canolfan fisa yn y DU. Ar ôl i ymgeiswyr wneud hyn, caiff eu fisa ei estyn i dair blynedd.
Y Swyddfa Gartref fydd hefyd yn arwain ar wiriadau cefndir mewn perthynas â’r prif noddwr a phob oedolyn yn y cartref lle bydd yr unigolyn (neu’r bobl) sy'n cyrraedd o Wcráin yn aros. Bydd hyn yn helpu i gadw pawb yn ddiogel. Bydd angen i’r prif noddwr mewn cartref ofyn am gydsyniad pob oedolyn yn y cartref er mwyn rhoi eu manylion ar y ffurflen gais ar gyfer y gwiriadau hyn.
Yn fuan ar ôl i'r unigolyn neu'r teulu gyrraedd o Wcráin, bydd eich awdurdod lleol yn cwblhau rhai gwiriadau sylfaenol ar y llety a'r trefniadau byw. Os ydych yn lletya yn eich cartref eich hun, bydd eich awdurdod lleol yn gofyn ichi sicrhau bod gwiriadau priodol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'u cwblhau ar gyfer pob aelod o'ch cartref sy'n 16 oed neu hŷn.
Os ydych yn warchodwr plant cofrestredig, bydd rhai camau pwysig eraill y mae rhaid ichi eu cymryd i sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw risg o niwed i'r plant yn eich gofal.
Os yw'r bobl rydych chi'n eu noddi yn 16 oed neu hŷn a'ch bod yn eu lletya yn eich cartref eich hun, rhaid i chi:
- ymgyfarwyddo â Cartrefi i Wcráin: canllawiau i noddwyr Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran sut y gallwch gefnogi unigolion sydd wedi profi digwyddiadau gofidus
- parhau i wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y bobl o Wcráin ac unrhyw ffoadur arall a rhoi cadarnhad ysgrifenedig i AGC bod hyn wedi'i wneud. Efallai na fydd hyn yn syml yn y tymor byr a gall AGC helpu gyda'r broses hon fel y bo'n briodol. Ceir cyngor ar wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yma: Archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd | Arolygiaeth Gofal Cymru
Gwiriadau DBS
- Wrth wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, mae canllawiau adnabod y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ei gwneud yn bosibl i ddogfennaeth fewnfudo a 'dogfennau gan lywodraeth leol neu ganolog sy'n dangos hawl i fudd-dal' gael eu cyflwyno at ddibenion adnabod. Dylai'r dogfennau hyn, ochr yn ochr â'r ID a ddarperir gan y Swyddfa Gartref, fodloni meini prawf y gwiriad: DBS ID checking guidelines - GOV.UK (www.gov.uk).
- Os yw'r person yn wladolyn Wcreinaidd yn y DU a bod angen cymorth arno, gall gysylltu ag UKVI ar +44 (0)808 164 8810 – dewiswch opsiwn 2. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun tan ddydd Iau (ac eithrio gwyliau banc), 9am i 4:45pm a dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc), rhwng 9am a 4:30pm. Rhif ffôn am ddim yw hwn, ond efallai y bydd taliadau rhwydwaith yn dal i fod yn berthnasol.
- Mae gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn edrych ar gofnodion yn y DU a fyddai'n berthnasol i'r bobl hynny a allai fod wedi treulio amser yn y DU o'r blaen. Er bod gan system y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd rai cytundebau rhannu gwybodaeth gyda rhai gwledydd, mae hyn yn gyfyngedig.
Caiff gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd eu cynnal yn y DU yn unig, felly a oes unrhyw wiriadau eraill y gallwn ofyn i ffoadur rwy’n ei groesawu i’m cartref eu cael i’m galluogi i barhau i ddarparu gofal plant cofrestredig?
- Gofynnwch i’r person wneud cais am wiriad cofnodion troseddol. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol neu 'Dystysgrifau Cymeriad Da' ar gyfer rhywun o dramor yn amrywio o wlad i wlad. Gall unigolion wneud cais yn y wlad neu i'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU. Ceir canllawiau ar wneud cais am wiriadau cofnodion troseddol yma: Gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor - GOV.UK (www.gov.uk).
- Yn achos Wcráin, gall yr unigolyn o Wcráin wneud cais am wiriad cofnod troseddol drwy Lysgenhadaeth Wcráin. Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld yma: Gwledydd Q i Z: gwneud cais am wiriad cofnodion troseddol ar gyfer rhywun o dramor - GOV.UK (www.gov.uk). Bydd angen llofnod electronig ar yr unigolyn er mwyn gwneud ei gais. Bydd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei hanfon drwy e-bost atynt yn Wcreineg. Ar ôl cael neges yn yr Wcreineg, bydd angen iddynt wneud cais am lythyr cadarnhad gan Lysgenhadaeth Wcráin, gall y dogfennau hyn gael eu cyfieithu gan drydydd parti.
- Ar gyfer Wcreiniaid heb lofnod electronig, rhaid i geisiadau gael eu gwneud wyneb yn wyneb yn Adran Gonsylaidd Llysgenhadaeth Wcráin yn Llundain. Rhaid cael pasbort dilys fel prawf o ID a dylid cyflwyno hwnnw ar y diwrnod. Mae disgwyl i ymgeiswyr gyflwyno ei gyfeiriad(au) blaenorol yn Wcráin yn yr Adran Gonsylaidd. Gellir gwneud ymholiadau drwy consul_gb@mfa.gov.ua.
Beth sydd angen i mi ei ddweud wrth AGC?
- tra eich bod yn aros am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cofnodion troseddol ar gyfer unrhyw aelod newydd o’ch aelwyd, dylech eich sicrhau eich hun ynghylch addasrwydd pob aelod o’r cartref heb wiriadau o’r fath sy'n byw, yn gweithio neu'n dod i gyswllt rheolaidd â phlant sy'n cael eu gwarchod
- darparu ymrwymiad ysgrifenedig i AGC y byddwch yn sicrhau:
- eich bod yn gwneud ymholiadau rhesymol gyda’r unigolyn/unigolion i gadarnhau nad oes unrhyw beth yn eu hanes troseddol sy’n berthnasol i gartref lle mae plant yn cael eu gwarchod
- nad yw'r person yn cael ei adael heb oruchwyliaeth gyda phlant sy'n cael eu gwarchod
- bod rhieni plant sy'n cael eu gwarchod yn cael gwybod ymlaen llaw am bresenoldeb unrhyw aelod/aelodau newydd o'r cartref ac am gyfyngiadau'r trefniadau gwirio cofnodion
- bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni o ran y nifer mwyaf a ganiateir o blant a warchodir yn y cartref ar unrhyw un adeg, e.e. ystyried unrhyw blant newydd yn y cartref
- hysbysu AGC am gynlluniau i ddarparu cartref i rywun o Wcráin trwy eich cyfrif ar-lein, fel y byddai’n wir am unrhyw aelodau newydd eraill o’r aelwyd gan gynnwys ffoaduriaid
Gallwch ddarparu cartref i unrhyw un dan 16 oed heb i hyn effeithio ar eich busnes gwarchod plant, heblaw am y gofyniad dan (4) uchod.
Os ydych yn ddarparwr gofal dydd cofrestredig sy'n darparu gofal i blant ar safle sy'n wahanol i'r safle lle rydych chi'n bwriadu lletya’r bobl rydych yn eu noddi o Wcráin neu unrhyw ffoaduriaid eraill, rhaid i chi:
- yn achos y ffoaduriaid o Wcráin, ymgyfarwyddo â Cartrefi i Wcráin: canllawiau i noddwyr Llywodraeth Cymru
- hysbysu AGC am gynlluniau i ddarparu cartref i ffoadur
- gwneud ymholiadau rhesymol gyda’r unigolyn/unigolion i gadarnhau nad oes unrhyw beth yn eu hanes troseddol sy’n berthnasol i gartref person sy’n darparu gwasanaethau gwarchod plant neu ofal dydd
A oes unrhyw gymorth ariannol i helpu gyda gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?
Nid oes cymorth ariannol i helpu gyda gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os oes person newydd yn mynd i fod yn eich cartref, chi fydd yn gyfrifol am wneud cais am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a thalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r gwiriadau hynny.
Rwy'n warchodwr plant cofrestredig ac yn awyddus i gael fy ariannu i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant i blentyn o Wcráin sydd bellach yn byw yn yr un cyfeiriad â mi.
Gallwch gael eich ariannu i ddarparu gofal i blentyn o Wcráin neu blentyn unrhyw ffoadur arall nad yw'n perthyn ichi:
- os ydych wedi cofrestru gydag AGC fel gwarchodwr plant
- os ydych wedi cofrestru gyda'ch awdurdod lleol i gyflwyno'r Cynnig
- os yw’r plentyn a'r rhiant/rhieni yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynnig
Os ydych yn perthyn i'r plentyn mewn unrhyw ffordd, gallwch gael eich ariannu o hyd i ddarparu gofal i'r plentyn o dan y Cynnig Gofal Plant cyhyd â bod yr amodau uchod yn cael eu bodloni ac nad oes gennych gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
Ym mhob achos, rhaid ichi sicrhau y gallwch barhau i fodloni'r gofynion o ran y gymhareb oedolion:plant yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. Mae'r gymhareb yn cynnwys unrhyw blant o dan 12 oed ar y safle gan gynnwys eich plant eich hun ac unrhyw blant eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt.
Rwy’n gweithio fel nani, beth sydd angen i mi wneud?
Os ydych yn gweithio i deulu sy’n noddi rhywun o’r Wcráin neu’n lletya unrhyw deulu arall sy’n ffoaduriaid ac maen nhw’n byw yn yr un tŷ â’r plant rydych chi’n gofalu amdanynt, dylech drafod hyn gyda’ch cyflogwr/rhieni’r plant i weld a oes angen ichi gymryd camau ychwanegol i ddiogelu’r plant yn eich gofal.
Canllaw i awdurdodau lleol
A fydd teuluoedd sy'n dod i'r DU yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant?
Gan fod Cymru yn Genedl Noddfa, gall unrhyw berson sy'n byw ac yn gweithio yma gael mynediad at y gofal plant a ariennir ac a ddarperir o dan y Cynnig Gofal Plant os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ehangach. Mae hyn yn cynnwys y rhai o wledydd eraill sy'n byw yng Nghymru pan fo ganddynt hawl i aros a hawl i weithio.
Bydd teuluoedd sy'n dod i Gymru o Wcráin yn cael fisa Llywodraeth y DU, gan roi caniatâd iddynt weithio yn y DU. Byddant yn gallu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant cyhyd â bod y ddau riant mewn teulu dau riant, neu un rhiant mewn teulu un rhiant, yn gweithio neu wedi cofrestru ar gwrs Addysg Uwch neu Addysg Bellach, a’u bod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra ehangach.
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cael ceisiadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant gan ddau deulu gwahanol sy'n byw yn yr un cyfeiriad?
Mae'n bosibl y bydd cartrefi yng Nghymru sy’n cynnwys teulu sy’n noddi a theulu o Wcráin am gael mynediad at y Cynnig. Yn yr achosion hyn, bydd y teuluoedd yn cael eu hystyried yn ddau gartref ar wahân.
Mae hyn yn golygu na fydd noddi teulu o Wcráin yn effeithio ar gymhwysedd teulu sy’n noddi pan fyddant eisoes yn manteisio ar y Cynnig. Pan fydd teulu sy’n noddi yn gwneud cais am y Cynnig, ni ddylid ystyried y ffaith eu bod yn noddi teulu o Wcráin wrth asesu eu cais.
Pan fo teulu o Wcráin sy'n cael ei noddi yn gwneud cais am y Cynnig, ni ddylid ystyried y ffaith eu bod yn byw gyda theulu arall wrth asesu eu cais.
A fydd teuluoedd sy'n dod i'r DU yn gymwys i gael y Grant Cymorth Ychwanegol?
Pan fo plentyn o deulu o Wcráin neu unrhyw deulu arall sy’n ffoaduriaid angen cymorth ychwanegol i allu cael mynediad at y Cynnig, cyhyd â bod y teulu yn gymwys i gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant, byddent hefyd yn gallu cael mynediad at y Grant Cymorth Ychwanegol.
Mae'n bosibl y gall materion eraill gymhlethu anghenion y plentyn, megis rhwystrau ieithyddol neu drawma. Wrth ystyried cais o dan y Grant Cymorth Ychwanegol, mae awdurdodau lleol yn ystyried yr anghenion ehangach hyn a dylent sicrhau bod yr holl raglenni cymorth perthnasol sydd ar gael i blant a theuluoedd, ac yn benodol ar gyfer teuluoedd sy’n ffoaduriaid gan gynnwys y rheini o Wcráin, yn cael eu cydgysylltu.
Wrth wneud cais am y Cynnig Gofal Plant, pa wybodaeth fydd angen i deulu sy’n ffoaduriaid ei darparu?
Bydd angen i deuluoedd sy’n ffoaduriaid ddarparu tystiolaeth i ddangos eu bod yn gymwys ar gyfer y Cynnig. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ble maent yn byw, oedran eu plentyn a'u statws cyflogaeth. Fodd bynnag, mae'n debygol na fydd rhywfaint o'r wybodaeth hon ar gael yn rhwydd iddynt, er enghraifft tystysgrif geni eu plant.
Mae'r rhestr isod yn nodi’r dystiolaeth a fyddai'n ddigonol. Er hynny, dylai awdurdodau lleol ddefnyddio disgresiwn pan na fo’r dystiolaeth sy'n ofynnol ar gael yn rhwydd a dylid ystyried ystod ehangach o wybodaeth.
Tystiolaeth i'w darparu, lle bo hynny'n bosibl:
- Prawf o oedran y plentyn – yn ddelfrydol dylid darparu’r dystysgrif geni, ond pan na fo hyn yn bosibl gellid defnyddio dogfennau ffurfiol eraill sy’n dangos oedran y plentyn, er enghraifft pasbort neu fisa
- Tystiolaeth o gyfrifoldeb rhiant – yn ddelfrydol dylid darparu un o'r canlynol - llythyr Budd-dal Plant; llythyr Credydau Treth; llythyr Derbyniadau Meithrin; neu gofnod meddygol/llyfr coch y plentyn
- Prawf o gyfeiriad – yn ddelfrydol dylid darparu bil cyfleustodau diweddar, datganiad treth gyngor neu ddatganiad banc wedi’i ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf. Pan na fo hyn yn bosibl, gellir darparu unrhyw ohebiaeth swyddogol yn lle hynny
- Prawf o incwm – i gyflogai, yn ddelfrydol dylid darparu 3 mis o slipiau cyflog, ond pan na fo hyn yn bosibl, gellid darparu llythyr gan y cyflogwr yn lle hynny
- Prawf o gofrestru ar gwrs Addysg Uwch neu Addysg Bellach – bydd y rhan fwyaf o brifysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach yn darparu llythyr cadarnhau neu e-bost cofrestru sy'n cadarnhau'r manylion y cwrs. Wedyn, unwaith y bydd y cwrs wedi dechrau, dylid gofyn am gadarnhad o bresenoldeb o'r brifysgol neu’r Sefydliad Addysg Bellach
- Prawf o enillion hunangyflogedig – yn ddelfrydol dylid darparu copi o gyfrifon, llythyr gan eu cyfrifydd neu eu Ffurflen Dreth Hunanasesu ddiweddaraf gan gynnwys rhif cyfeirnod treth unigryw (UTR). Os ydynt wedi bod yn hunangyflogedig am lai na 12 mis, mae llythyr gan CThEM sy'n dangos y rhif UTR a'r dyddiad cofrestru yn dderbyniol
- Prawf o eithriad – yn ddelfrydol darperir copi o ddatganiad budd-dal neu lythyr gan y cyflogwr yn cadarnhau absenoldeb o'r gwaith e.e. ar gyfer absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant neu absenoldeb salwch statudol