Ffi, amodau, terfynau dalfeydd drwyddedau cregyn moch blynyddol a misol 2025 i 2026
Rydym am gael eich barn ar amodau arfaethedig trwydded cregyn moch 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Ffi, amodau, terfynau dalfeydd drwyddedau cregyn moch blynyddol a misol 2025 i 2026 arfaethedig.
Gorchymyn Trwyddedau Pysgota am Gregyn y Moch (Cymru) 2021
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn ar gynigion ar gyfer pysgodfa cregyn moch Cymru drwy ymgynghoriad pythefnos rhwng 22 Tachwedd a 6 Rhagfyr 2024. Mae hyn wedi cael ei drafod â Grŵp Cynghori ar Gregyn Moch Cymru Mae hyn yn ymwneud â chyfnod trwyddedau cregyn moch 2025 i 2026 sy'n dechrau ar 1 Mawrth 2025. Mae hyn yn cynnwys:
- ffi'r drwydded, a fydd yn cynyddu gyda chostau chwyddiant i £309
- bydd y Terfyn Dalfa Blynyddol yn lleihau 5% o 4,768 tunnell i 4,529
- ni fydd unrhyw newid i'r Terfyn Dalfa Misol cychwynnol sef 50 tunnell
- ni fydd unrhyw newid i amodau’r trwydded
Mae manylion sut i ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwedd y llythyr hwn a byddem yn croesawu ymatebion e-bost i'w hanfon at Fisheries.Management@llyw.cymru.
Ffi'r drwydded cregyn moch
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei bwriad i godi'r ffi am drwyddedau cregyn moch. Mae hyn yn adlewyrchu costau gweinyddu a rheoli'r bysgodfa, gan gynnwys arolygon asesu stoc, ond heb gynnwys gorfodaeth.
Mae adennill costau a ysgwyddir gan Lywodraeth Cymru wrth reoli'r bysgodfa cregyn moch yn unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru 2016. Bydd gwneud hyn yn sicrhau ein bod yn gwella'r data sy'n helpu'r bysgodfa.
Y fethodoleg i bennu ffi Trwyddedau Cregyn Moch
O gyfnod trwydded 2024 i 2025 bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y costau'n cael eu cyfrifo'n gywir a'u bod yn gymesur. Ein nod fydd gweithio tuag at adennill costau llawn o fewn pum mlynedd, wrth hefyd geisio sicrhau effeithlonrwydd a lleihau costau i bysgotwyr.
Byddai codi'r ffi yn unol â chwyddiant yn arwain at ffi o £309 am y drwydded. Bydd hyn yn mynd â'r costau a adenillir i 23% o gost arolygon ac mae'n cyfateb i 23% o bris cyfartalog tunnell o gregyn moch.
Y ffi ar gyfer cyfnod trwydded 2025 i 2026
Cynigir cost o £309 am y drwydded. Bydd amodau'r drwydded yn cael eu cyhoeddi ar ganllawiau Pysgota am Gregyn Moch 2025 i 2026 ar Pysgota am gregyn moch: canllawiau a thrwyddedau.
Ystyriwyd opsiynau ffioedd eraill yn amrywio o £400 i £677 ond roedd o fudd gorau i pysgotwyr i argymell £309 ar adeg pan fu chwyddiant sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Terfyn Dalfa Blynyddol
Y Terfyn Dal Blynyddol yw'r cyfanswm cyfunol o gregyn moch y gellir ei gymryd gan yr holl cychod trwyddedig yn ystod cyfnod trwydded. Pwrpas y Terfyn Dal Blynyddol yw gwarchod y stoc cregyn moch a sicrhau bod y bysgodfa yn gynaliadwy.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Bangor i ddatblygu methodoleg ar gyfer cyfrifo'r Terfyn Dalfa Blynyddol. Yng nghyfnod trwydded 2024 i 2025 y llinell sylfaen Terfyn Dalfa Blynyddol oedd 4,768.
Y Terfyn Dalfa Blynyddol ar gyfer Cyfnod Trwydded 2025 i 26
Er mwyn llywio'r Terfyn Dalfa Blynyddol a'r Terfyn Dalfa Misol ar gyfer 2025 i 2026, cwblhaodd Prifysgol Bangor arolwg asesu stoc cregyn moch ym mis Medi 2024. Yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg, fydd lleihad o 5% i'r Terfyn Dalfa Blynyddol o 4,768 tunnell i 4,529 tunnell.
Y Terfyn Dalfa Misol Hyblyg
Y Terfyn Dalfa Misol yw'r uchafswm o gregyn moch y gall pob cwch trwyddedig ei gymryd â photiau o barth Cymru bob mis. Bydd yr un terfyn yn berthnasol i bob cwch Unwaith y bydd y Terfyn Dalfa Blynyddol wedi'i osod ar gyfer y fflyd drwyddedig, mae'n bwysig nad yw'n cael ei dorri.
Ein nod yw sicrhau bod buddion y bysgodfa'n cael eu rhannu ar draws cyfnod y drwydded yn unol â'r patrymau pysgota hanesyddol. Ar hyn o bryd y Terfyn Dalfa Misol ar 1 Mawrth fydd 50 tunnell gychwynnol oni bai bod tystiolaeth i awgrymu terfyn gwahanol. Yn ystod y misoedd canlynol, bydd ffurflenni dalfa misol oddi wrth ddeiliaid trwyddedau yn cael eu defnyddio i asesu cyfradd y cynnydd tuag at y Terfyn Dalfa Blynyddol. Cynigir i'r Terfyn Dalfa Misol ar gyfer 2025 i 2026 aros yr un fath.
Amodau’r trwydded
Fydd amodau’r trwydded yn aros yr un fath.
- Rhaid i'r gweithgareddau a ganiateir gan y drwydded hon gael eu cyflawni yn unol â darpariaethau Gorchymyn Trwyddedau Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021.
- Mae'r drwydded hon ond yn rhoi'r hawl i ddeiliad y drwydded (y person awdurdodedig) a/neu gapten/meistr cychod ar ran y perchennog/perchnogion neu siarterydd/siarterwyr a enwir yn y drwydded hon i gymryd cregyn moch (Buccinum undatum) â photiau gan ddefnyddio'r cwch a enwir yn y drwydded hon.
- Ni ellir trosglwyddo'r drwydded hon.
- Mae deiliad y drwydded yn gyfrifol am wirio a throsglwyddo i gapten/meistr y llong a chriw y Terfyn Dal Misol hyblyg (MCL) pan fydd ar gael ar llyw.cymru bob mis.
- Ni ddylid dal mwy na’r Terfyn Dal Misol (MCL).
- Rhaid i ddeiliad y drwydded wneud adroddiad llawn a chywir ('Manylion Dalfeydd') o'r holl Gregyn Moch (Buccinum undatum) wedi'u pysgota a'u cymryd â photiau o barth Cymru erbyn 23:59 ar ddiwrnod olaf pob mis, hyd yn oed os nad yw wedi pysgota.
- Rhaid cwblhau'r Manylion Dalfeydd ar gyfer pob diwrnod, rhaid i hyn gynnwys: pwysau'r ddalfa a gedwir (Kg), nifer y potiau a godwyd, amser socian (diwrnodau) a lleoliad y gweithgareddau pysgota (Is-Betryal ICES).
- Os bydd cwch yn pysgota y tu mewn i barth Cymru a'r tu allan i barth Cymru yn ystod un daith bysgota, rhaid cynnwys yr holl gregyn moch a gymerwyd ar y daith honno yn y Manylion Dalfeydd, a chaiff hyn ei dynnu o Derfyn Dal Misol (MCL) y cwch.
- Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw a glanio dim ond cregyn moch cyfan yn eu cregyn.
- Rhaid i gopi o'r drwydded hon (papur neu electronig) fod ar gael i'w harchwilio gan Swyddogion Gorfodi Morol ar y cwch a enwir.
- Rhaid i ddeiliad y drwydded hysbysu Gweinidogion Cymru gan ddefnyddio'r ffurflen 'Trwydded Cregyn Moch – Newid Cwch' gan ddefnyddio'r ddolen a ddarperir ar llyw.cymru os bydd y manylion sy'n ymwneud â'r cwch a enwir a nodir yn y drwydded yn newid ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y drwydded.
- Rhaid i ddeiliad y drwydded gydymffurfio ag unrhyw atal dros dro o hysbysiadau pysgota ym mharth Cymru a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.
Amodau sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a
Rhywogaethau 2017 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel 'Rheoliadau HRA' fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019/579).
- Ni chaniateir dal cregyn moch mewn ardal lle mae maerl a nodweddir gan y gwymon coch Phymatolithon calcareum, a ddisgrifir yn Atodiad 1.1.
- Ni chaniateir defnyddio offer potio sy'n cael ei gadw'n sownd ag angor, a ddyluniwyd i ymdreiddio i waddodion, i ddal cregyn moch yn yr ardaloedd lle mae morwellt (Zostera marina), a ddisgrifir yn Atodiad 2.1.1 a 2.1.2.
- Ni chaniateir defnyddio offer potio sy'n cael ei gadw'n sownd ag angor, a ddyluniwyd i ymdreiddio i waddodion, i ddal cregyn moch mewn a ardaloedd lle mae cwiliau môr(Virgularia mirabilis) a megafauna sy'n turio biotop, a ddisgrifir yn Atodiad 2.2.1 a 2.2.2.
- Ni chaniateir defnyddio offer potio sy'n cael ei gadw'n sownd ag angor, a ddyluniwyd i ymdreiddio i waddodion, i ddal cregyn moch mewn ardaloedd lle mae riffiau marchfisglod(Modiolus modilous), a ddisgrifir yn Atodiad 2.3.
Sut i ymateb
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon ymatebion trwy e-bost at Fisheries.Management@llyw.cymru
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Manylion cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch at:
Is-adran Pysgodfeydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Whelk permit fee, conditions, annual and monthly catch limits 2025 to 2026
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/