Pryd a sut i ddefnyddio'r elfen lansio ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w ddefnyddio
Cyn ei ddefnyddio, dylech wneud yn siŵr a yw'r elfen hon yn briodol ar gyfer y math o gynnwys LLYW.CYMRU rydych yn ystyried ei ddefnyddio arno.
Dylech ddefnyddio'r botymau lansio i wneud y canlynol:
- llywio i wasanaeth neu teclynnau o dudalen gychwynnol LLYW.CYMRU
- llywio i dudalen mewngofnodi i wasanaeth o dudalen fewngofnodi LLYW.CYMRU
Tudalen ganllaw yw'r dudalen gychwynnol sydd wedi'i hadeiladu i strwythur penodol, er mwyn darparu pwynt cychwynnol i wasanaeth LLYW.CYMRU neu teclynnau LLYW.CYMRU. Gall y dudalen gychwynnol fod yn un dudalen ar ei phen ei hun neu’n dudalen o fewn canllaw aml-dudalen. Ystyriwch ganllaw aml-dudalen os oes angen mwy o gyd-destun ar ddefnyddwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth neu teclynnau. Er enghraifft, cyn i ddefnyddiwr wneud cais am y Cynnig Gofal Plant mae angen iddynt ddeall:
- y mathau o ofal plant y gallant gael help gyda nhw
- sut y gall gwneud cais effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y maent yn eu derbyn
- a oes angen talu am fwyd, trafnidiaeth a gweithgareddau
Tudalen ganllaw yw'r dudalen fewngofnodi sydd wedi'i hadeiladu i strwythur penodol, er mwyn darparu pwynt cychwynnol i fewngofnodi i wasanaeth LLYW.CYMRU.
Sut i'w ddefnyddio
Ymgorffori botymau lansio
Pan fyddwch yn ymgorffori botymau lansio, dylech:
- ddim ond ychwanegu un lansiwr fesul tudalen gychwyn neu dudalen fewngofnodi
- gosod y lansiwr ar ôl darn byr yn egluro'r pethau y bydd angen i ddefnyddwyr eu gwybod, er enghraifft beth yw diben y gwasanaeth
- gosod y lansiwr cyn yr adran ddewisol 'Before you start', yn egluro'r pethau y bydd eu hangen ar ddefnyddwyr i gwblhau'r cam hwn
- defnyddio'r label 'Start now' bob tro ar fotwm lansio ar y dudalen gychwyn
- defnyddio'r label 'Sign in' bob tro ar fotwm lansio ar y dudalen gychwyn
- dylech ddim ond creu dolenni i wefannau eraill lle y bo'n briodol
- ar gyfer lansiwyr sy'n llywio i wefannau eraill, gwnewch yn glir bod defnyddwyr yn gadael LLYW.CYMRU drwy ychwanegu 'ar wefan [enw cwmni]' at y disgrifiad