Neidio i'r prif gynnwy

Rhagfward y Gweinidog

Rhagair gan Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Image removed.

Mae gweithgynhyrchu, gyda’i hanes hir yng Nghymru, yn rhan o’n stori genedlaethol.  Gweithgynhyrchu yw’r cyfrannwr mwyaf o ran Gwerth Ychwanegol Gros i economi Cymru, ac mae’n darparu swyddi o ansawdd uchel i filoedd o unigolion a dwsinau o gymunedau ar hyd a lled Cymru.  

Mae gweithgynhyrchu’n bwysicach i Gymru nag i unrhyw ran arall o’r DU, a hynny heb ystyried yr holl weithgareddau rheoli, cynnal a chadw a gwasanaethu tymor hir sy’n digwydd o ganlyniad iddo. Gellir diffinio gweithgynhyrchu fel sector ynddo'i hun ond, mewn gwirionedd, mae wedi’i rannu’n is-sectorau sy’n cynnwys bwyd a diod, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, cemegion, electroneg, gwyddorau bywyd, adeiladu, metelau, papur a mwydion, ynni, symudedd gan gynnwys moduron, rheilffyrdd, awyrofod ac amddiffyn a diogelwch. Mae hwn yn ddisgrifiad eang iawn o lawer o’r gweithgareddau sy’n cyfrannu at les economi Cymru, ac yn gysylltiedig â hyn mae’r gweithgareddau cynnal a chadw a gwasanaethu sy’n digwydd yn eu sgil, sy’n cyfrannu at ein heconomi sylfaenol.

Wedi dweud hynny, mae newid mawr yn digwydd yn y maes gweithgynhyrchu.  Gyda phandemig COVID-19, Ymadael â’r UE, y newid i’r hinsawdd, y ffrwydrad o dechnolegau newydd sy’n effeithio ar ddewisiadau a dymuniadau cwsmeriaid a globaleiddio fwyfwy cyflym – mae gweithgynhyrchu’n mynd drwy un o’r cyfnodau o newid mwyaf yn ei hanes. Yn 2020, bu’n rhaid i’r sector wynebu her digynsail ar ffurf COVID-19, ac ymatebodd drwy helpu i gadw pobl Cymru’n ddiogel. Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) wedi bod yn allweddol o ran cefnogi busnesau pan oedd y pandemig ar ei anterth. Cafodd yr ERF ei chyflwyno i roi cymorth wedi’i dargedu i gwmnïau o bob maint yng Nghymru (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) nad oeddent eisoes wedi cael elwa ar gynllun y DU.

Y cynllun gweithgynhyrchu hwn yw’r fframwaith ar gyfer ein hymateb i'r pandemig ac effaith gadael yr UE. Mae hefyd yn diogelu dyfodol ein gweithgareddau gweithgynhyrchu ac yn sicrhau bod eu cyfraniad at les Cymru yn parhau. Drwy'r cynllun hwn rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau economi sy’n rhoi’r pwyslais ar lesiant pobl, gan sbarduno ffyniant, bod yn amgylcheddol gadarn, yn gydnerth, lleihau anghydraddoldeb a helpu pawb i wireddu eu potensial. 

Byddwn yn defnyddio’r cynllun gweithgynhyrchu i ategu ffordd wahanol o weithredu, un sy’n ategu cydbwysedd mwy effeithiol rhwng yr economi fasnachol – a’r economi sylfaenol sy’n darparu’r sgiliau a’r gwasanaethau hanfodol sy’n sail i fywyd bob dydd yn ein cymunedau.

Bydd y cynllun yn seiliedig ar flaenoriaethau yn ein ‘Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi’ a’i wreiddiau yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd, Ffyniant i Bawb, gyda'u hamcanion blaengar o leihau anghydraddoldeb a lledaenu cyfoeth a lles ledled Cymru.  

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r cynllun hwn dros y flwyddyn ddiwethaf; drwy'r uwchgynadleddau gweithgynhyrchu a'r gweithdai diwydiant yr ydym wedi'u cynnal, yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd a'r sgyrsiau niferus yr ydym wedi'u cael gyda busnesau, y byd academaidd, yr undebau llafur ac eraill.  Gyda'n gilydd, gallwn wireddu’n hymrwymiad cyffredin i ddiogelu dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Cyflwyniad

Cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu yng nghyd-destun sut i droi’n gweledigaeth ar gyfer economi lesiant yn realiti.  Fel sail i hynny, byddwn yn gweithio i sicrhau tri chanlyniad:

  1. Economi ffyniannus sy'n canolbwyntio drwy’r amser ar fod yn gydnerth ac ar allu newid. Rhaid cryfhau sylfeini'r economi trwy greu sylfaen amrywiol ond cydgysylltiedig o gwmnïau sy'n edrych tuag allan, yn arloesi, yn gynhyrchiol ac sy’n cyflogi gweithlu sy’n meddu ar sgiliau addas ar gyfer byd sy'n newid.
  2. Economi werdd – y bydd gofyn iddi fod yn gylchol iawn, lle mae adnoddau yn cael eu cadw o fewn yr economi, gan ychwanegu at werth yr economi a chan osgoi gwastraff. Mae'r math hwn o economi yn annatod i gymdeithas carbon isel, felly mae angen i ni fuddsoddi mewn seilwaith carbon isel all wrthsefyll effeithiau hinsawdd sy’n newid, prosiectau ynni adnewyddadwy, meddwl/dylunio ar lefel system gyfan a chartrefi cynaliadwy.
  3. Economi gyfartal sy'n golygu buddsoddi ym mhotensial cynhyrchiol pawb mewn cymunedau. Mae angen i ni feithrin uchelgais, annog dysgu am oes, deall ymddygiadau ac agweddau yn well a chefnogi pobl i wneud y gorau o'u potensial. Bydd ein dull rhanbarthol o weithio yn cefnogi dosbarthiad teg o gyfleoedd a byddwn yn parhau i fynnu a hyrwyddo gwaith teg.
Image

 

Rydym wedi trafod gyda rhanddeiliaid bwysigrwydd y gymuned gweithgynhyrchu i Gymru, ei lle yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, ei phwysigrwydd o ran ymadfer ar ôl pandemig COVID-19 a’i chyfraniad at gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nod y cynllun hwn yw meithrin cymunedau trwy weithgareddau gweithgynhyrchu cydnerth, sy’n cyfrannu at economi iachach a chadarnach.  Bydd y cynllun yn cefnogi'r uchelgeisiau hyn drwy nodi cyfleoedd yn ein cadwyni cyflenwi, dod â rhai gweithgareddau yn ôl i Gymru a threfniadau caffael cyhoeddus, gan roi cyfleoedd i'r economi sylfaenol ffynnu.

Bydd y cyfnod hwn o newid yn un anodd i weithgynhyrchu yng Nghymru, ond mae hefyd yn gyfle.  Drwy groesawu tueddiadau newydd, fel defnyddio deunyddiau amgen sydd â lefel carbon corfforedig is a mwy o awtomeiddio a digideiddio, gallwn greu dyfodol newydd i weithgynhyrchu yng Nghymru.  Bydd hyn yn golygu newid diwylliant, gan sicrhau ein bod ni fel cenedl yn arloesi mwy, yn gwella ein cynhyrchiant, yn dod yn fwy cystadleuol, yn datblygu ein sgiliau ac yn canolbwyntio ar sut i fynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. 

Mae cynhyrchiant yn ganolog i'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.  Mae'r cynllun gweithredu hwn yn ymdrin â sbardunau cynhyrchiant megis sgiliau, arloesedd a bod yn gystadleuol ac mae angen i ni chwilio am gyfleoedd yng Nghymru ac mewn gwledydd a rhanbarthau tebyg i rannu arfer gorau a meincnodi ein perfformiad.

Yn gryno, rhaid i ni droi ein cymuned weithgynhyrchu - gan gynnwys ei chadwyni cyflenwi – yn un sy’n ymwneud fwyfwy â gweithgarwch ‘sy’n ychwanegu gwerth’.  Mae arnom angen cymuned o gwmnïau gweithgynhyrchu sy’n ariannol gryf, sy’n cynnal gweithgareddau strategol bwysig ac sy’n cael effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gadarnhaol ar eu cymunedau lleol, eu rhanbarthau a’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.  Dyma sut rydym yn diffinio Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth yng Nghymru – nid yn ôl y sector, ei gymhlethdod na'i ddefnydd o dechnoleg – ond o ran ei effaith ar les pobl Cymru.

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd ni allwn ddibynnu ar wneud pethau fel rydyn ni wastad wedi’u gwneud; yn hytrach, rhaid i'r llywodraeth, y sector cyhoeddus ehangach, diwydiant, undebau llafur, y byd academaidd a rhanddeiliaid eraill chwilio am ffyrdd newydd o gydweithio i ddatblygu cymuned sy'n:

  • gwarchod a hyrwyddo twf lle ceir galluoedd gweithgynhyrchu uchel eu gwerth, yn enwedig drwy Fusnesau Bach a Chanolig, drwy rannu arferion gorau a chydweithredu;
  • manteisio, er lles cenedlaethau'r dyfodol, ar asedau a manteision Cymru mewn ffyrdd arloesol i sefydlu pwyntiau gwerthu unigryw a mantais gystadleuol gan eu diogelu yr un pryd;
  • ei lleoli ei hun i gynnal a gwella ei chyfraniad at economi, cymunedau, amgylchedd a diwylliant Cymru;
  • sicrhau bod ymchwil, datblygu ac arloesi yn ganolog i unrhyw drawsnewid fel y gall cwmnïau fasnacheiddio syniadau sy'n cyd-fynd ag amcanion y llywodraeth ar gyfer llesiant Cymru;
  • rhoi arweiniad i gadwyni cyflenwi allweddol gweithgynhyrchu, a helpu i drawsnewid i gyfleoedd a meysydd newydd; ac
  • gwneud cydnerthedd, defnyddio adnoddau’n effeithiol;, yr economi gylchol  a datgarboneiddio’n hanfodol i’r gadwyn gwerth, bob cam o gyflenwi a defnyddio’r deunyddiau crai a'r cydrannau a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru i’r cwsmer terfynol.

Bydd Llywodraeth Cymru, gyda’i hanes balch o weithio’n agos gyda diwydiant ac undebau llafur, yn cefnogi ein cymuned weithgynhyrchu drwy’r cyfnod hwn o newid, gan ei helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar Weithgynhyrchu sy'n seiliedig ar yr egwyddorion yn ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi, yn cefnogi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ac mae'n ddatganiad o fwriad sy'n nodi fframwaith ar gyfer gweithredu, a fydd, drwy gydweithio'n agos â phartneriaid cymdeithasol, yn helpu i ddiogelu gweithgynhyrchu yng Nghymru at y dyfodol. 

Barn diwydiant yng Nghymru

Cafodd y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn ei dywys gan arbenigedd partner Llywodraeth Cymru mewn diwydiant, Diwydiant Cymru a'i fforymau awyrofod, modurol ac electroneg, meddalwedd a thechnoleg arbenigol. Cylch gwaith Diwydiant Cymru yw dweud wrth y llywodraeth sut orau i dyfu busnesau technoleg a gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Mae ein gweledigaeth o ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru yn seiliedig ar y sector yn symud tuag at fwy o weithgareddau gwerth ychwanegol – mae "Gweithgynhyrchu Uwch ei Werth" fel yr ydym yn ei alw, yn ymwneud â gweithgareddau gweithgynhyrchu sy'n cael effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gadarnhaol ar les pobl Cymru.  Mae'n ymwneud â chreu swyddi sy'n talu'n dda, cymunedau diogel, diwydiannau carbon niwtral a diwylliant Cymreig ffyniannus. Agwedd bwysig ar hynny yw bod Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth wedi’i gadarnhau’n thema ym Margen Dwf Gogledd Cymru, Bargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac mae’n cael ei chynnig fel thema ar gyfer Bargen Twf y Canolbarth, gan sicrhau bod y sector yn flaenoriaeth uchel i bob rhanbarth yng Nghymru. Mae'n hanfodol bod enghreifftiau galluog, cystadleuol a chynaliadwy o’r rheini sy’n gwneud ein hanghenion dyddiol wedi’u dosbarthu ledled cymunedau gan sicrhau ffyniant a swyddi da ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Bydd effeithiau’r hyn a wnawn yn cael eu teimlo ar draws Cymru gyfan, gan adeiladu ar gryfderau rhanbarthau a helpu i ledaenu ffyniant.

Fodd bynnag, mae'r cynllun hwn hefyd yn ymwneud ag adeiladu ar lwyddiant ein cwmnïau allforio.  Mae allforion yn bwysig i greu economi gref, gan helpu i wneud iawn am ddirywiad yn y farchnad ddomestig ac arwain at fusnesau mwy cynhyrchiol.  Yn y blynyddoedd diweddar, mae ein perfformiad wedi bod yn gadarnhaol gyda gwerth y nwyddau a gafodd eu hallforio o Gymru yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2019 yn cyrraedd £17.7bn, cynnydd o 34% ers 2015.  Mae pandemig COVID-19 eisoes wedi cael effaith sylweddol ar werth allforion o Gymru ac er bod ansicrwydd ynglŷn â'r effaith economaidd hirdymor ac amserlen a graddau'r adferiad,  gwyddom y bydd gan allforion ran bwysig i'w chwarae yn yr adferiad hwn.

Fel rhan allweddol o’n hymdrechion cyffredinol i gefnogi adferiad yr economi yng Nghymru, byddwn yn helpu busnesau i adennill ac ailadeiladu eu hallforion ac i addasu i unrhyw brosesau a chytundebau masnach newydd.  Bydd cymorth ar gael i helpu cwmnïau o bob maint ledled Cymru ar y camau allweddol ar eu taith – o ysbrydoli busnesau i ddatblygu rhagoriaeth yng Nghymru ac yng nghadwyni cyflenwi'r DU a'u hangori ymhellach drwy allforio'r rhagoriaeth honno; i fagu capasiti, dod o hyd i gwsmeriaid a chipio marchnadoedd tramor – gyda'r uchelgais o greu sector allforio cryf, bywiog a chynaliadwy i helpu i ddiogelu swyddi a chreu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn defnyddio’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau y bydd yr hyn a wnawn yn:

  • Diogelu dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru drwy feithrin cymuned arloesol carbon isel sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon;
  • Cefnogi'r broses o drawsnewid i ffyrdd newydd o weithio i atal dirywiad  gweithgynhyrchu a chanolbwyntio ar gydnerthedd drwy arallgyfeirio gweithgarwch y gadwyn gyflenwi o ran caffael sector cyhoeddus a'r sector preifat;
  • Integreiddio â’r hyn y bydd cyrff eraill yn y sector cyhoeddus fel y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol; Bargeinion Dinesig / Twf, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff Sgiliau, yn ei wneud;
  • Hwyluso cydweithio o fewn a rhwng y llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd ac undebau llafur, lle y bo'n briodol; a defnyddio'r model partneriaeth gymdeithasol a ddatblygwyd yng Nghymru; a
  • Cynnwys pobl Cymru, gan adlewyrchu’r gymdeithas y mae gweithgynhyrchu’n gweithredu ynddi a sicrhau cyfle cyfartal.

Mae'r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal yn ein cymuned weithgynhyrchu a sicrhau bod ein hiaith a'n diwylliant yn ffynnu ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn hanfodol i'r cynllun hwn.  I'r perwyl hwnnw byddwn yn sicrhau y bydd monitro cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn cynnwys agweddau pwysig ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb ac amrywiaeth a'n strategaeth Cymraeg 2050.

Roedd y broses ymgynghori'n cynnwys trafodaethau anffurfiol i ddechrau, gweithdai a phroses ymgynghori ffurfiol, a gynhyrchodd fewnbwn o ansawdd uchel er lles y cynllun hwn.  Mae'r themâu sy'n dilyn yn y cynllun hwn yn seiliedig ar yr ymgynghoriad ac mae’r hyn a gynigiwn yn adeiladu ar y themâu hynny.

Y Cynllun Gweithredu ar Weithgynhyrchu

Er mwyn sicrhau bod ein cymuned weithgynhyrchu yn ateb y gofyn ar gyfer y dyfodol, y Cynllun Gweithredu hwn wedi nodi chwe phwnc cyffredin y mae angen mynd i'r afael â nhw a deg thema arall sydd wedi deillio o'r broses ymgynghori. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru’n "berchennog" arno, a bydd yn cydlynu'r bartneriaeth sydd ei hangen i gyflawni ein nodau. 

Rhoddwyd yr hyn sydd angen ei wneud yn nhrefn blaenoriaeth o ran amser: tymor byr (y 12 mis nesaf), canolig (hyd at 5 mlynedd) a thymor hir (hyd at 10 mlynedd a thu hwnt).

Y chwe phwnc cyffredin

1. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

Mae gweithgynhyrchu yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa i bob aelod o'n cymuned ac mae cyfle gwirioneddol i wneud swyddi mewn gweithgynhyrchu yn fwy amrywiol.  Mae hynny’n golygu mwy na chyflawni rhwymedigaethau statudol yn unig a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol i'w helpu i gydnabod manteision gweithlu amrywiol i bawb.  Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, gweithredu i annog mwy o fenywod, mwy o bobl o dras ethnig gwahanol a mwy o bobl ag anableddau i yrfaoedd gweithgynhyrchu.    

Mae cael dewis y cymwysterau cywir a’u hennill drwy gyrsiau, cymwysterau a phrentisiaethau modern  STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn gam pwysig tuag at gynyddu amrywiaeth.  Byddwn yn ymroi ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid cymdeithasol ac eraill i sicrhau bod buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant yn y dyfodol mewn pynciau gweithgynhyrchu yn ystyried sut i gynyddu cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn mynd i'r afael â materion fel oedran, anabledd, rhyw, beichiogrwydd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, credoau crefyddol, incwm aelwydydd a hawliau plant. Edrychir ar y materion hyn fel rhan o'n hymrwymiad i waith teg a gwella sgiliau arwain a rheoli yn ogystal ag amlygu cyfle i lenwi bylchau sgiliau.

Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud a byddwn, felly, yn herio arferion ac yn agored i'n herio fel y gallwn wireddu manteision gweithlu mwy cyfartal ac amrywiol ym maes gweithgynhyrchu. Credwn y gallwn drwy hyn sicrhau bod cyfle cyfartal yn rhan annatod o bopeth a wnawn.

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Parhau i fonitro effaith y cynllun hwn ar gyfle cyfartal a'i ymgorffori ym mhob agwedd ar y gwaith.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

2. Ein hiaith a'n diwylliant

Ein polisi ar yr iaith Gymraeg yw calon ein gweledigaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein strategaeth Cymraeg 2050 yn disgrifio’r camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd i daro ein dau brif darged erbyn 2050:

  • 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg; a
  • dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Mae arweiniad Llywodraeth Cymru wrth roi’r strategaeth ar waith yn gofyn am weithredu ar draws meysydd polisi allweddol i greu amodau economaidd-gymdeithasol ffafriol i hwyluso nodau'r strategaeth. 

Credwn y bydd y camau a gymerwn yn cefnogi ein polisi ar iaith a diwylliant Cymru drwy ddiogelu dyfodol hirdymor y sector ledled Cymru a darparu cyfleoedd gwaith lleol mewn cymunedau ledled Cymru.

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Parhau i fonitro effaith y cynllun hwn ar iaith a diwylliant Cymru a newid y camau yn y cynllun i ymateb i anghenion sy'n newid.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol / Is-adran y Gymraeg.

3. Ymchwil, datblygu ac arloesi

Un mater sylfaenol wrth ddiogelu dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yw ymgorffori swyddogaethau allweddol megis ymchwil, datblygu ac arloesi yn ein cyfleusterau a'n gweithrediadau.

Ar y cyd â'r byd academaidd a chyda chymorth gwahanol rannau o'r llywodraeth gan gynnwys ein rhaglenni cymorth arloesi, mae gan gwmnïau sector gweithgynhyrchu Cymru record gref o gynnal ymchwil, datblygu ac arloesi ond mae'n amlwg y gellir ac mae'n rhaid gwneud mwy er mwyn sicrhau bod cwmnïau'n teimlo eu bod wedi'u "hangori" yng Nghymru. 

Mae Cymru'n gartref i nifer o weithgareddau ymchwil arloesol a deinamig, y mae nifer ohonynt o safon byd.  Yn eu plith: peirianneg awyrofod; technolegau ynni, gan gynnwys niwclear a llanw; arloesi â metelau blaengar, megis dur; technoleg forol; arwain yr ymchwil i ddementia; cynhyrchu modurol; lled-ddargludyddion cyfansawdd; cynhyrchu bwyd; gweithgynhyrchu a deunyddiau uwch; bio-wyddorau; gwyddor data a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

Wrth symud o economi ddiwydiannol sy'n seiliedig ar adnoddau naturiol i economi weithgynhyrchu a gwasanaethu sy’n seiliedig ar wybodaeth, mae Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf wedi tyfu'n economi dechnolegol flaengar ac agored.  Mae ganddi broffil ymchwil sydd yn ôl y safonau meincnodi rhyngwladol yn cael mwy na’i gwerth o incwm ymchwil - hynny o safbwynt allbynnau, effeithiolrwydd ac effaith.

Mae gan Gymru weithlu medrus ag ystod eang o arbenigeddau gweithgynhyrchu ac mae gan ei diwydiant, llywodraeth a sefydliadau academaidd ffocws ar arloesi a chydweithredu.  Yn ôl data ONS Medi 2020, mae gan Gymru weithlu medrus a chryf o 145,000 yn y maes hwn, gyda phrifysgolion Cymru yn cynhyrchu dros 2,000 o raddedigion peirianneg bob blwyddyn ac mae gan y 160 o gwmnïau awyrofod ac amddiffyn, sy'n cyflogi 20,000 o bobl, drosiant o fwy na £5 biliwn.  Mae cynhyrchiant Cymru yn y sector gweithgynhyrchu yn uwch na chyfartaledd y DU ac mae'n cyfrif am 10 y cant o holl swyddi'r gweithlu yng Nghymru, o'i gymharu â 7.7 y cant ledled y DU. Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon ac rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud.

Mae gan Gymru nifer o ddiwydiannau Gweithgynhyrchu Uchel eu Gwerth sy’n bwysig i’r DU, gan gynnwys moduron, opto-electroneg, gofod ac awyrofod, dyfeisiau meddygol, deunyddiau a metelau uwch ac mae niwclear yn ddiwydiant sy’n tyfu.  Mae Llywodraethau Cymru a’r DU wedi buddsoddi ynddyn nhw’n ddiweddar.  Mae Cymru hefyd yn arweinydd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy’n ganolog i Ddiwydiant 4.0 ac yn dechnoleg sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru.  Mae’n parhau i fod yn dechnoleg sylfaenol sy’n hanfodol i lawer o gynhyrchion o fri rhyngwladol, gan gynnwys ffonau clyfar; Wi-Fi; systemau cyfathrebu lloeren; roboteg a deuodau golau effeithlon (LEDs). Yng Nghymru, mae diwydiant, y byd academaidd a'r llywodraeth yn gweithio i ddatblygu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd o'r radd flaenaf, gan gynnwys IQE, prif wneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion blaengar y byd, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.

Fodd bynnag, fel llawer o ranbarthau Lloegr a'r gwledydd datganoledig eraill, mae Cymru wedi dioddef o ddiffyg talent wrth i ymchwilwyr blaenllaw fudo i chwilio am well cyfleoedd yn y "triongl euraid" ac ardaloedd eraill lle mae’r sector preifat yn gryf.  Felly, mae angen inni gryfhau meysydd rhanbarthol nodedig lle ceir mantais gystadleuol gref nawr neu yn y dyfodol neu gyfle diwydiannol technolegol cryf, er enghraifft lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiber, amddiffyn, pŵer gwynt ar y tir neu dechnolegau pŵer niwclear.

Rhaid i gyllid ymchwil, datblygu ac arloesi yn y dyfodol ganolbwyntio'n gryf ar feithrin capasiti a galluoedd Cymru, yn enwedig lle bu diffyg hir.  Bydd angen mecanweithiau newydd sy'n cydnabod, annog a gwobrwyo 'gweledigaeth' a 'hyrwyddwyr' ymchwil, datblygu, arloesi a defnydd cymhwysol.  Mae angen i ni gydnabod defnyddwyr ymchwil yn ogystal â chynhyrchwyr ymchwil.  Labordai cenedlaethol newydd, sefydliadau ymchwil newydd yn y sector cyhoeddus a phartneriaethau cyhoeddus/preifat newydd yw rhai o'r strwythurau a mecanweithiau y gallai’r 'gweledyddion’ a'r 'hyrwyddwyr' hyn eu sbarduno yn y dyfodol.  Mae partneriaethau ar draws sectorau ac economïau yn cynnig cyfleoedd i fanteisio ar farchnadoedd newydd, ysgogi cyllid newydd a lleihau dyblygu ymdrechion.  Mae prosiectau cydweithio yn parhau’n gatalydd allweddol ar gyfer gwireddu diwylliant newydd o arloesi.

Mae rhaglenni arloesi – Arloesedd SMART, SMART Cymru ac Arbenigedd SMART, Partneriaethau SMART a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) - yn rhan o wasanaeth  Busnes Cymru ac yn cynnwys cymorth i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu, cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu asedau drwy hawliau eiddo deallusol a chael defnyddio cyfleusterau ac arbenigeddau mewn prifysgolion a cholegau.  Bydd y gefnogaeth hon yn allweddol, yn ein barn ni, i ddenu a chadw busnesau yng Nghymru.  Ar hyn o bryd, bydd yn canolbwyntio ar agendâu digidol a chynhyrchiant Diwydiant 4.0, ynghyd â defnyddio adnoddau’n effeithiol, datgarboneiddio a chryfhau cadwyni cyflenwi Cymru.

Drwy gydol argyfwng COVID-19, rydym wedi defnyddio systemau sydd wedi hen ennill eu plwyf i sicrhau canlyniadau cyflym.  Mae Innovate UK yn ein cydnabod erbyn hyn fel un o ddefnyddwyr gorau tendrau SBRI a GovTech y sector cyhoeddus, sy’n ysgogi atebion newydd gan y sector gweithgynhyrchu i heriau mawr.

Mae Cymru wedi bod yn rhagweithiol wrth ddatblygu gweithgareddau cydweithredol rhyngwladol gydag amrywiaeth o bartneriaid.  Mae Cymru'n aelod gweithgar o rwydwaith arloesi Menter Vanguard, sy'n cynnwys 38 o ranbarthau diwydiannol yn Ewrop.  Rydym hefyd yn cymryd rhan lawn mewn dwy raglen weithgynhyrchu Interreg – Manumix & Cohesion, ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn prosiectau Diwydiant 4.0 ar y cyd â rhanbarthau fel Baden-Württemberg a Gwlad y Basg.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

Hyrwyddo manteision allweddol arloesi prosesau, trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil, datblygu ac arloesi.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Arloesedd / Swyddfa'r Prif Swyddog Gwyddonol.

Cam gweithredu

Hyrwyddo manteision ymchwil, datblygu ac arloesi cydweithredol masnachol a wneir yng Nghymru drwy ddefnyddio rhwydwaith o  lwybrau ariannu Cymreig, y DU a rhyngwladol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Arloesedd / Swyddfa'r Prif Swyddog Gwyddonol.

Cam gweithredu

Cydweithio i adeiladu ar bartneriaethau a chreu partneriaethau newydd er mwyn sefydlu ecosystem sy'n cynnwys: cyllidwyr cenedlaethol a rhyngwladol; diwydiant; sefydliadau ymchwil; GIG Cymru; y sector addysg a hyfforddiant; ac asiantaethau eraill y llywodraeth fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Arloesedd / Swyddfa'r Prif Swyddog Gwyddonol.

Cam gweithredu

Mynd i'r afael â cholli talent drwy ariannu ymdrechion ar y cyd rhwng nifer o wahanol bartneriaid, gan gynnwys labordai cenedlaethol, sefydliadau ymchwil y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus mawr fel GIG Cymru.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Arloesedd / Swyddfa'r Prif Swyddog Gwyddonol.

Cam gweithredu

Adolygu a chwyldroi buddsoddi mewn gyrfaoedd ymchwil ar gyfer diwydianwyr, clinigwyr ac academyddion clinigol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mewn cynlluniau grantiau  doethurol, ôl-ddoethurol ac i wyddonwyr gyrfa.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Swyddfa'r Prif Gynghorydd Gwyddonol.

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Gweithio i sicrhau arian ychwanegol ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Arloesedd / Swyddfa'r Prif Swyddog Gwyddonol.

Cam gweithredu

Sefydlu mecanweithiau newydd sy'n cydnabod, annog a gwobrwyo 'gweledyddion' a 'hyrwyddwyr' ymchwil, datblygu, arloesi a chamfanteisio cymhwysol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Swyddfa'r Prif Gynghorydd Gwyddonol.

Cam gweithredu

Sefydlu labordai cenedlaethol newydd, sefydliadau ymchwil newydd yn y sector cyhoeddus a phartneriaethau cyhoeddus/preifat newydd i gefnogi'r 'gweledyddion' a'r 'hyrwyddwyr' hyn yn y dyfodol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Swyddfa'r Prif Gynghorydd Gwyddonol.

4. Data a gwybodaeth

Rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni weithredu ar sail tystiolaeth a data, felly mae'n bwysig inni adolygu'r wybodaeth sy’n bodoli am wahanol rannau ein sector gweithgynhyrchu.  Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi, dehongli a chymhathu'r data a'r wybodaeth sydd ar gael.

Byddwn yn comisiynu arolwg mapio ac o’r gallu gweithgynhyrchu yng Nghymru i lywio dadansoddiad PESTLE (Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol) a dadansoddiad SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau) o'r sector.  Bydd hyn, ynghyd â dadansoddiad o’r bylchau o ran deunyddiau crai a'r cynhyrchion a gynhyrchir yng Nghymru, a'r rhai y gellid eu cynhyrchu yng Nghymru o bosibl, yn ein helpu i nodi meysydd lle mae dyfodol gweithgynhyrchu Cymru.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

Comisiynu arolwg mapio ac o’r gallu gweithgynhyrchu yng Nghymru ar gyfer dadansoddiadau PESTLE a SWOT o'r gymuned.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

Cam gweithredu

Cynnal dadansoddiad o’r bylchau o ran cynhyrchion penodol y mae galw mawr amdanynt yng Nghymru ac y gellid eu cynhyrchu yng Nghymru o bosibl.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

5. Caffael yn y sector cyhoeddus

Mae rhai o'r cyfleoedd ar gyfer helpu ein sector gweithgynhyrchu yn bodoli ym maes caffael y sector cyhoeddus gan gynnwys cyrff hyd braich, cyfleustodau ac adrannau llywodraeth y DU sy'n gweithredu yng Nghymru.  Mae cyrff sector cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gwario £6.3 biliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau allanol.  Mae’r dadansoddiad ystadegol a wnawn yn awgrymu bod 52% o’r gwariant hwnnw gyda chwmnïau yng Nghymru.  Fodd bynnag, nid yw'r dadansoddiad yn dangos faint o'r gwariant sydd ar gynnyrch a weithgynhyrchwyd yng Nghymru, ac nid yw chwaith yn ystyried y gwariant drwy gyrff hyd braich, cyfleustodau neu sefydliadau trydydd sector sy'n cael symiau sylweddol o arian cyhoeddus.

Yn ogystal, mae nifer o asiantaethau llywodraeth y DU yn gweithredu yng Nghymru nad yw eu gwariant yng Nghymru wedi bod yn hawdd ei asesu.  Mae hyn yn awgrymu bod angen dadansoddiad manylach o faint o gynnyrch sy’n cael ei gaffael gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae'n bwysig  wrth ystyried cyfleoedd yn y dyfodol nid yn unig i ganolbwyntio ar wariant hanesyddol ond hefyd i ystyried yr hyn sydd yn yr arfaeth.  Bydd hynny’n cynnwys y bargeinion twf dinesig a rhanbarthol, adeiladu tai cymdeithasol a'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP), y gellir eu defnyddio fel offeryn i gynorthwyo'r sector adeiladu i ddeall bwriadau'r sector cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae dadansoddiad o wariant y sector cyhoeddus o ran yr economi sylfaenol a rhaglenni gwaith y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES), yn parhau ac mae angen i ni ddeall sut mae hyn yn cysylltu â chryfderau rhanbarthol yng Nghymru.  Mae angen i ni hefyd ddeall sut y gallai gadael yr UE effeithio ar reoliadau caffael cyhoeddus a'r gwaith ar werth cymdeithasol o dan TOMS (Themâu, Canlyniadau a Mesurau).

Bydd dealltwriaeth well o wariant caffael cyhoeddus, a'r gwersi a ddysgwyd o brosiectau Cronfa Her yr Economi Sylfaenol, yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu pecynnau cymorth busnes yn y dyfodol sy'n cynyddu gallu busnesau lleol, gan gynnwys y rhai yn yr economi sylfaenol,

Mae’r sector bwyd (a’r sector iechyd a llesiant) yng Nghymru yn sector â blaenoriaeth. Fodd bynnag, mae dadansoddi sylfaenol yn dangos bod tua hanner gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd yn mynd y tu allan i Gymru. Mae archwiliad manylach yn dangos bod cyfanwerthwyr mawr sy’n cyflenwi’r sector cyhoeddus yn caffael llai na 10% o'r cynnyrch yng Nghymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn prynu rhagor o fwyd yn lleol, a gellir alinio hyn â'r cynllun gweithgynhyrchu i gynyddu'r gallu i becynnu a phrosesu cynhyrchion bwyd gwerth uchel.

Mae gwaith hefyd wedi dechrau mewn perthynas â chadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus a chyfleoedd i weithgynhyrchwyr Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) lleol. Mae'r gwaith hwn wedi helpu i nodi rhwystrau, gan gynnwys achredu a diffyg  cyfleoedd clir ar gyfer contractau hirdymor, sy'n atal cyflenwyr lleol rhag datblygu eu gallu gweithgynhyrchu er mwyn ymuno â'r farchnad hon.

Mae'r rhwystrau hyn hefyd yn effeithio ar feysydd gweithgynhyrchu eraill, a gall y profiad a gafwyd o'r gwaith ar PPE helpu i hwyluso datblygu’r farchnad ac ymuno â sectorau eraill.

Mae polisi caffael cyhoeddus yng Nghymru yn nodi disgwyliadau clir o ran sicrhau'r manteision cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol mwyaf posibl o'r arian sy'n cael ei wario. Ochr yn ochr â hyn, mae ein “cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi” yn clymu sefydliadau i ymrwymo i set o egwyddorion i sicrhau bod ffynonellau’n foesegol.  Un enghraifft o'n hymagwedd at hyn yw mai Cymru oedd llofnodwr cyntaf "Siarter Ddur" y DU, sydd wedi ymrwymo i gefnogi'r sector drwy helpu i gynyddu’r gwerth economaidd mae prosiectau caffael yn ei ddarparu ar gyfer y DU, a thrwy hyrwyddo caffael dur o’r DU.

Mae argyfwng COVID-19 wedi amlygu gwendidau yng nghadwyni cyflenwi ein sector cyhoeddus ac mae'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig, ynghyd â rheoliadau / polisi caffael diwygiedig, yn gyfle i ddylanwadu ar y ffordd y mae cadwyni caffael a chyflenwi cyhoeddus yn gweithredu, gan arwain at wella cyfleoedd i weithgynhyrchwyr Cymru.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

Dadansoddi gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gaffael, gan gynnwys cadwyni cyflenwi, i nodi cyfleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Caffael Masnachol / Yr Economi Sylfaenol.

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Darparu polisi, canllawiau, offer a hyfforddiant (fel TOMS) i'r sector cyhoeddus yng Nghymru fel bod arferion caffael yn cefnogi gweithgynhyrchu cynaliadwy ac yn sicrhau gwerth cymdeithasol gwell yng Nghymru.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Caffael Masnachol / Yr Economi Sylfaenol.

Cam gweithredu

Gwneud gwaith i sicrhau bod rhagor o nwyddau fel bwyd a PPE yn cael eu caffael yn lleol, a chynyddu gallu busnesau lleol, gan gynnwys y rheini yn yr Economi Sylfaenol

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Economi Sylfaenol

Cam gweithredu

Gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a’r clwstwr o gwmnïau pecynnu bwyd yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru fel canolfan arloesi ym maes pecynnu bwyd, gan gysylltu â chyfleoedd newydd yng nghadwyn gyflenwi economi amaethyddol Cymru.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Fwyd / Yr Economi Sylfaenol

6. Cymorth i Fusnesau

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pob math o gymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru, sy’n gweithredu fel porth i’r gwahanol raglenni sydd ar gael. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cyflogi cynghorwyr arbenigol. Sefydlwyd gwasanaeth Busnes Cymru fel 'siop un stop' i fusnesau hen a newydd gael cymorth.

Mae rhaglenni arloesi SMART yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru ac yn cynnig cymorth i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu, i gyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, i ddiogelu asedau drwy hawliau eiddo deallusol ac i fanteisio ar gyfleusterau ac arbenigedd prifysgolion a cholegau.

Mae Busnes Cymru ar gael ledled Cymru i entrepreneuriaid a BBaChau ac nid yw’n benodol i sector. Disgwylir i'r trefniadau presennol ddod i ben ym mis Medi 2021, ond ystyrir  ariannu ac ymestyn y gwasanaeth presennol tan fis Medi 2022. Fel rhan o'r estyniad hwn, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn edrych pa gymorth fydd ei angen ar fusnesau yn y dyfodol cyn cynnig opsiynau ar wasanaethau newydd. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried y wybodaeth well am wariant cyhoeddus ar gaffael, a’r gwersi a ddysgwyd oddi wrth y prosiectau a gyflawnwyd drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol.

Mae cymorth ar gael hefyd i fusnesau ledled Cymru ar gyfer pob cam o’r broses allforio. Rhoddir cymorth un-i-un ac un-i-lawer yn ogystal ag ar-lein. Dyma enghreifftiau:

  • Cymorth un-i-un wedi'i deilwra i helpu busnesau i ddatblygu strategaeth allforio gan gynnwys dewis y farchnad, llwybrau at y farchnad a nodi a chysylltu â darpar gwsmeriaid tramor.
  • Gweminarau i roi gwybodaeth ac arweiniad ar faterion allforio cyffredin ac i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd mewn marchnadoedd tramor.
  • Ymweliadau â'r farchnad ac arddangosfeydd – oherwydd y pandemig, mae'r rhain bellach yn 'rithwir' fel bod busnesau Cymru yn parhau i gael cwrdd â darpar gwsmeriaid mewn marchnadoedd targed er y cyfyngiadau teithio
  • Mae'r hyb allforio ar wefan Busnes Cymru yn cynnig offer a gwybodaeth fyw am amrywiaeth o faterion allforio.  Bydd hyn yn helpu allforwyr hen a newydd i dyfu a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ag amgylchedd masnachu'r dyfodol.

Mae’r Cynllun Gweithredu Allforio yn esbonio’n bwriad i ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer ‘clystyrau allforio’ yng Nghymru i feithrin capasiti a galluoedd allforio sectorau allweddol.  Bydd gweithgynhyrchwyr a gwasanaethau gweithgynhyrchu’n chwarae rhan bwysig yn y clystyrau hyn.

Mae'r Cynllun Gweithredu Allforio yn nodi sut, fel rhan allweddol o'n hymdrechion i gefnogi adferiad economaidd Cymru, y byddwn yn helpu busnesau i adennill ac ailadeiladu eu hallforion ac addasu i unrhyw brosesau a chytundebau masnach newydd cysylltiedig. 

Bydd cymorth ar gael i helpu cwmnïau o bob maint ledled Cymru gyda chamau pwysig y broses allforio –  ysbrydoli busnesau i allforio, meithrin gallu, dod o hyd i gwsmeriaid, a manteisio ar farchnadoedd tramor – gyda'r uchelgais gyffredinol o greu sector allforio cryf, bywiog a chynaliadwy i helpu i ddiogelu swyddi a chreu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru.

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Ymgysylltu â’r sector i ddeall y math o gymorth busnes sydd ei angen ar weithgynhyrchu yng Nghymru.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Masnach a Mewnfuddsoddi / Busnes Cymru / Arloesedd / Timau Rhanbarthol / Banc Datblygu Cymru.

Cam gweithredu

Datblygu rhagor o gymorth i weithgynhyrchu yng Nghymru, i arloesi a gwella’n barhaus

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Masnach a Mewnfuddsoddi / Arloesi.

Cam gweithredu

Bwrw ymlaen â'r ymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu Allforio i sefydlu clystyrau allforio i feithrin capasiti a gallu i allforio.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Masnach a Mewnfuddsoddi.

Cam gweithredu

Defnyddio’r gwersi a ddysgwyd oddi wrth brosiectau Gronfa Her yr Economi Sylfaenol i helpu busnesau lleol, gan gynnwys y rheini yn yr Economi Sylfaenol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Economi Sylfaenol.

Fframwaith Gweithredu: y Pwyntiau Gweithredu

Newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddiogelu ein hamgylchedd a datgarboneiddio ein gweithgareddau masnachol a chymdeithasol

Yn unol â'n Cynllun Gweithredu Economaidd, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'n deddfwriaeth amgylcheddol gynhwysfawr, byddwn yn mynd i’r afael â’r economi gylchol mewn ffordd holistig. Mae angen i ni ddatgarboneiddio mwy ar ein prosesau gweithgynhyrchu a gallai hyn olygu sefydlu cadwyni cyflenwi cydnerth, effeithlon, moesegol a byrrach ar gyfer deunyddiau crai a chydrannau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Ar 29 Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn argyfwng newid hinsawdd. Tynnodd hynny sylw at aruthredd ac arwyddocâd  tystiolaeth ddiweddara’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, ac mae’n adlewyrchu dyfnder y teimlad a fynegwyd mewn protestiadau hinsawdd ledled y DU. Ym mis Rhagfyr 2020, derbyniodd Llywodraeth Cymru gyngor fesul sector gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac argymhelliad i bennu targed o sero net ar gyfer 2050. Yng ngwanwyn 2021 bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cyflwyno llwybr allyriadau newydd hyd at 2050. Bydd hyn yn cynyddu’r uchelgais yn sylweddol yng Nghymru, yn gymesur â'r argyfwng hinsawdd.

Wrth symud i ddyfodol carbon isel, mae sicrhau diwydiant ac amgylchedd busnes cynaliadwy a chystadleuol yn hollbwysig.  Mae angen llywio twf economi gydnerth lle gallwn i barhau i wneud y gorau o’n galluoedd mewn marchnadoedd a thechnolegau carbon isel newydd, wedi’u seilio ar sylfaen ddiwydiannol gystadleuol.  Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i leihau allyriadau ein busnesau gweithgynhyrchu, a defnyddio technolegau a ffynonellau ynni newydd i wneud hyn. Mae angen i ni weithio hefyd gyda’n diwydiannau gweithgynhyrchu i fanteisio ar gyfleoedd a ddaw o’r ymdrech fyd-eang i leihau allyriadau carbon,  ac i chwilio am gyfleoedd o fewn sectorau sy’n dod i’r amlwg fel technoleg ynni gwynt sy’n arnofio ar y môr. Bydd datblygu economi wirioneddol gylchol yng Nghymru yn allweddol, fel y nodir yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru: Mwy nag Ailgylchu  

Mae Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon  Isel (ALCW) a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019, yn nodi'r sylfeini i Gymru allu trawsnewid i fod yn genedl carbon isel ac yn nodi’r polisïau a’r cynigion ar gyfer cwrdd â’r gyllideb garbon gyntaf (2016 i 2020).  Mae'n cydnabod bod datgarboneiddio yn cynnig cyfleoedd sylweddol i greu economi fywiog a chymdeithasol gyfiawn.  Mae’r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn mynd ati i osod y sylfeini er mwyn i Gymru symud i economi carbon isel mewn ffordd sy’n sicrhau’r buddion ehangach mwyaf posibl i Gymru. Byddwn yn gofyn i Senedd Cymru ddeddfu ar lwybr newydd i leihau allyriadau hyd at 2050 a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun ar gyfer yr ail gyllideb garbon (2021 i 2025) yn hwyrach yn 2021.

O ran allyriadau Cymru ei hun, sef 14.0 MtCO2e, diwydiant oedd i gyfrif am 36% o’r allyriadau hyn yn 2018.  Cynhyrchu haearn a dur (12.3% o allyriadau Cymru yn 2018)  a phuro petrolewm (5.9%) sy'n dominyddu allyriadau diwydiannol Cymru. O fewn diwydiant yn gyffredinol, mae gweithgynhyrchu ac adeiladu (3.9%), sment a chynhyrchu a dosbarthu nwy.  Hefyd, mae gweithredu peiriannau, mwynau a mwyngloddio, cynhyrchu cemegau, papur a mwydion a chynhyrchu a phrosesu bwyd a diod hefyd yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r allyriadau.

Mae’r rhan fwyaf o allyriadau diwydiannol yn codi o glwstwr o weithrediadau yng nghoridor De Cymru, sy’n cael eu dominyddu gan gynhyrchu dur a phuro olew. Mae busnesau a rhanddeiliaid ehangach o fewn clwstwr de Cymru wedi dod ynghyd i ffurfio rhwydwaith, sy’n cynnwys cynhyrchu haearn a dur, cynhyrchu pŵer, puro olew, sment, cemegau, papur a mwydion, puro nicel, bwyd a diod a gweithgareddau gweithgynhyrchu cyffredinol. Yn y Gogledd, mae’r prif weithfeydd diwydiannol sy’n allyrru carbon wedi’u crynhoi’n bennaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir y Fflint a Wrecsam, ac yn cynnwys gweithgynhyrchu sment a phapur a mwydion.  Mae camau’n cael eu cymryd drwy Fargen Twf Gogledd Cymru a thrwy gydweithio â chlwstwr datgarboneiddio diwydiannol Glannau Mersi.

Mae datgarboneiddio yn unol â’r uchelgais y mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu arno. Mae twf glân yn un o bileri allweddol ein contract economaidd. Rhaid wrth weithredu yn y maes hwn i gael cyllid gan y llywodraeth. 

Mae'n hanfodol bod cwmnïau gweithgynhyrchu yn ymgysylltu'n llawn â'r cyfleoedd y mae Llywodraeth y DU yn eu cynnig, gan gynnwys drwy'r Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol sydd ar ddod, i gefnogi buddsoddiad mewn technolegau newydd gan gynnwys y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol a’r Gronfa Dur Glân. Cafodd y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) ei lansio ym mis Mehefin 2020, i ddarparu cyllid ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf mewn prosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio dwfn, gan gynnwys Dal, Defnyddio a Storio Carbon. Daeth y cyfnod ymgeisio cyntaf i ben ym mis Hydref 2020 a bydd ail gystadleuaeth yn agor yng Ngwanwyn 2021.

Cydnabyddir trwy’r byd bod Dal a Storio Carbon (CCUS) yn dechnoleg allweddol ar gyfer lleihau allyriadau mewn diwydiant a chynhyrchu pŵer. Mae ein corff cynghori, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, o'r farn bod CCUS yn anghenraid os ydym am ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero-net ac rydym wedi caffael ymchwil i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth ar y dechnoleg hon yng Nghymru.

Fel y nodwyd yn ein hymgynghoriad trafnidiaeth, mae angen i ni hefyd ystyried parhau i fuddsoddi yn ein porthladdoedd er mwyn sicrhau bod Cymru'n gallu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd busnes a ddaw yn sgil ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt y môr, thechnoleg sefydlog a thechnoleg sy’n arnofio ar y môr, yn nyfroedd y DU ac Iwerddon a CCUS. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn buddsoddi £60 miliwn, ac mae tua £23 miliwn o hwnnw wedi'i neilltuo i wella seilwaith porthladdoedd ardal Doc Penfro. Mae Cronfa Seilwaith Porthladdoedd BEIS wedi denu ceisiadau o Gymru am y £160 miliwn sydd ar gael. Hefyd, mae arloesi ym maes ynni morol yn dod yn fwyfwy pwysig a diolch i raglen €100 miliwn gan yr UE, mae busnesau yng Nghymru wedi cael profiad gwerthfawr o ddarparu cynnyrch a gwasanaethau i'r sector.  Cawsant hefyd effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol a'r economi leol gyda dros 70% o gynnyrch a gwasanaethau llawer o'r prosiectau'n dod o’r gadwyn gyflenwi leol.

Enghraifft arall o fanteisio ar gyfleoedd ariannu yw Energy Kingdom,  datblygiad hydrogen hybrid ar gyfer system gyfan sy'n gweithio gyda Systemau Ynni Catapwlt, Porthladd Aberdaugleddau, Arup, Offshore Catapult, Riversimple, Wales & West Utilities, Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru, gydag arian gan Innovate UK.

Wrth i’r galw am nwyddau a gwasanaethau carbon uchel ostwng, bydd datgarboneiddio prosesau diwydiannol yn gynyddol bwysig ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint, o fusnesau bach a chanolig i fusnesau mawr. Bydd angen i gwmnïau fod mewn sefyllfa well i ymateb i gwsmeriaid a phrynwyr sy'n mynnu cynhyrchion a/neu gydrannau carbon isel er mwyn gwireddu’u huchelgeisiau carbon eu hunain ac i'r galw am gynhyrchion di-garbon newydd.

Ein nod yn ‘Mwy Nag Ailgylchu’ yw dod yn wlad ddi-wastraff, cadw adnoddau a’u defnyddio cyn hired â phosibl, a defnyddio yn unig ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear.  Mae cadwyni cyflenwi byr a defnyddio mwy ar ffynonellau lleol, yn enwedig deunydd wedi’i ailgylchu, yn nodwedd o economi gylchol a all felly helpu i ddatrys rhai o’r problemau sy’n deillio o fregusrwydd cadwyni cyflenwi hirach a ddaeth i’r amlwg yn sgil COVID-19. Mae gennym wasanaeth casglu deunyddiau ailgylchu sydd gyda’r gorau ac all gynnig mantais gystadleuol ac ychwanegu at werth economaidd. Mae angen i ni symud o’r sefyllfa lle ceir ychydig iawn o brosesu ar ddeunyddiau ailgylchadwy a’u hallforio gan golli’u gwerth. Hanfod economi gylchol yw ei bod yn cadw cynnyrch a deunyddiau’n gynhyrchiol cyn hired ag y gellir.  Felly rhaid canolbwyntio ar ddylunio i estyn oes pethau ac ar drwsio, a bydd gwasanaethau trwsio ac ailgynhyrchu yn elfen bwysig o'r seilwaith sydd ei angen.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

Prysuro i gydweithio â chwmnïau gweithgynhyrchu sydd â’r contract economaidd i ddeall beth maen nhw’n wneud i leihau eu hôl troed carbon.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

Cam gweithredu

Nodi deddfwriaeth newydd i sbarduno mwy o ailgylchu a llai o dirlenwi gan gynnwys, er enghraifft, estyn cyfrifoldebau cynhyrchwyr i gynnwys pob deunydd pacio.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol.

Cam gweithredu

Defnyddio’r Gronfa Economi Gylchol i helpu cwmnïau i gefnogi'r gwaith hwn.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol.

Cam gweithredu

Hyrwyddo cyfleoedd newydd i gyllido trwy raglenni llywodraeth y DU gan gynnwys yr IETF a Bargen y Sector Technoleg Ynni Gwynt ar y Môr

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

Cam gweithredu

Cydweithio i hyrwyddo sefydliadau enghreifftiol, sydd wedi croesawu datgarboneiddio a defnyddio adnoddau’n effeithiol, gan rannu arfer gorau ledled Cymru er mwyn sicrhau "enillion" tymor byr

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i ddeall y ffyrdd gorau i ddatgarboneiddio gan gynnwys ystyried technolegau fel hydrogen a CCUS.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

Cam gweithredu

Cydweithio i hyrwyddo cyfleoedd i'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru ddefnyddio ein cyfleusterau a deunyddiau a gasglwyd i ailddefnyddio cynhyrchion ac i ail-weithgynhyrchu, a gweithgynhyrchu mwy o ddeunydd wedi'i ailgylchu.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol / Arloesi.

Newid technolegol gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio, digideiddio a’r amgylchedd cysylltiedig

Ym mis Medi 2019, cyhoeddwyd “Cymru 4.0 Cyflawni Trawsnewidiad Economaidd ar gyfer Gwell Dyfodol Gwaith” - adroddiad terfynol yr Adolygiad o Arloesi Digidol ar gyfer yr Economi a Dyfodol Gwaith yng Nghymru a gynhaliwyd gan banel arbenigol o dan gadeiryddiaeth yr Athro Phillip Brown. Un o brif themâu adolygiad Brown yw arfogi busnesau yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y trawsnewidiad technolegol, yn ogystal â helpu busnesau i fod yn ddeinamig, i ddatblygu modelau busnes newydd ac i fod yn fwy cydnerthedd.

Nododd Adolygiad Brown rôl clystyrau diwydiannol sy’n cyd-fynd â galluoedd technolegol allweddol, a’r angen i gydweithio â nifer o randdeiliaid er mwyn llunio cynlluniau trawsnewid diwydiannol sy’n ceisio cynyddu capasiti a datblygu cydnerthedd mewn gwahanol rannau o economi Cymru. Allforio yw un o'r camau hynny, ac rydym yn awyddus i sefydlu clystyrau allforio yn ystod 2021 a 2022.

Cafodd ymchwil, datblygu ac arloesi hefyd eu nodi fel ysgogwyr allweddol yn yr ymateb i heriau digideiddio ac awtomeiddio cynyddol, yn enwedig o ran cefnogi busnesau bach a chanolig a’u cadwyni cyflenwi i ddatblygu’n gynt.

Mae ein mecanweithiau cefnogi arloesedd (SMART) yn helpu busnesau technoleg i drawsnewid sectorau blaenoriaeth a gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol, gan gefnogi technolegau newydd ym meysydd deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio, byw’n glyfar a data. Rydym yn cefnogi mentrau sydd â’r potensial i wella ein henw da - o ran ein darpariaeth ddigidol, deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio - gan gynnwys yr Academi Meddalwedd Genedlaethol gyntaf yn y DU, Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol newydd  a Chyflymydd Cenedl Ddata Cymru.

Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth Cynhyrchiant SMART, sy'n helpu cwmnïau gweithgynhyrchu i asesu priodoldeb prosesau digidol/awtomeiddio newydd gan gynnwys pennu a chynllunio eu gweithredu. Bydd cwmnïau wedyn yn gallu gwneud cais am hyd at £100,000 o grant SMART Cymru tuag at roi technolegau awtomeiddio a digidol ar waith.

Mae ein Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn helpu i drawsnewid busnesau gweithgynhyrchu, gan eu galluogi i fabwysiadu sgiliau newydd a'r syniadau academaidd diweddaraf i gyflwyno prosiectau arloesi strategol penodol drwy bartneriaeth sy'n seiliedig ar wybodaeth.  Rydym hefyd yn datblygu prosiect braenaru digidol gyda Chanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru i dreialu prosiectau gefeillio digidol gyda phedwar BBaCh; ac ar lefel ryngwladol, mae'n arwain ar gyfnewid gwybodaeth a thechnegau Diwydiant 4.0 ddwyffordd â nifer o ranbarthau tramor.

Mae angen i ni gymell cwmnïau yng Nghymru i ddefnyddio technegau a thechnolegau a fydd yn eu helpu i wrthsefyll cyfnodau o argyfwng, yn ogystal â gwella eu cynhyrchiant a’u twf cynaliadwy yn y tymor hwy. Mae gennym adnodd diagnostig sy’n gallu ymdrin â phrosesau awtomeiddio a digidol, a thrwy Gronfa Dyfodol yr Economi rydym wedi helpu 77 o brosiectau gwerth dros £7 miliwn drwy’r alwad i gefnogi ymchwil a datblygu, awtomeiddio a digideiddio. Rydym hefyd wedi sefydlu Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), i undebau llafur allu darparu prosiectau hyfforddi 2-3 blynedd i addysgu eu haelodau a gwella’u sgiliau.

Bydd helpu cwmnïau i ddefnyddio technolegau digidol ac awtomeiddio, yn unol â Diwydiant 4.0, yn creu sylfaen gweithgynhyrchu fwy cydnerth, a Chymru fwy cydnerth. Drwy fabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu arloesol, bydd ein busnesau yn fwy hyblyg i allu delio â niferoedd uchel ac isel ac amrywiadau.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

Ar ôl cwblhau'r strategaeth ddigidol, archwilio strwythurau ategol i ddatblygu capasiti a nodi’r prif fylchau buddsoddi.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Arloesedd / Rhanbarthau.

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Cefnogi consortiwm o brifysgolion o Gymru a phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu cynigion ar gyfer buddsoddiadau strategol newydd ym meysydd craidd datblygu meddalwedd, deallusrwydd artiffisial, data a seiberddiogelwch gan greu Academi Meddalwedd Genedlaethol, Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol newydd a’r Cyflymydd Cenedl Ddata.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Cam gweithredu

Alinio ymchwil i ddiogelwch data ag anghenion y diwydiant a helpu busnesau gweithgynhyrchu a phobl i fabwysiadu technolegau digidol wrth ailgynllunio swyddi drwy ganolfannau rhanbarthol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Cam gweithredu

Darparu cymorth drwy wella sgiliau a dysgu sgiliau newydd o ran ailgynllunio swyddi.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Yr angen i fireinio setiau sgiliau

Rhaid inni sicrhau bod gennym y bobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnom yng Nghymru i weithio mewn gweithgynhyrchu, a datblygu cyfrwng i dalentau amrywiol allu ymuno â'r sector yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys chwalu’r rhwystrau i bobl ag anableddau, menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl iau. Mae angen edrych lle mae gennym fylchau sgiliau a datblygu llif o dalent sy'n adlewyrchu natur amrywiol ein cymdeithas. Denu pobl i'r sector gweithgynhyrchu yw un o'r materion y dylid mynd i'r afael ag ef.

Un o ganlyniadau anfwriadol argyfwng COVID-19 yw ysbrydoli llawer o bobl i newid eu canfyddiad o beirianneg fel gyrfa ac o weithgynhyrchu yn gyffredinol.  Efallai bod mwy o bobl ifanc bellach yn ystyried gyrfa mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ar ôl gweld peirianwyr yn adeiladu awyryddion ac yn trosi adeiladau'n ysbytai yn ystod ymateb y DU i'r pandemig.

Tynnodd Adolygiad Brown sylw at yr angen i addasu sgiliau i’r newidiadau a ragwelir yn Niwydiant 4.0. Nod ein polisi sgiliau yw defnyddio cyfuniad o addysg uwch ac addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith h.y. “addysg ôl-orfodol" fel ymateb i natur gyfnewidiol diwydiant a swyddi a bywydau gwaith hirach. Dylai fod yn hawdd symud rhwng llwybrau galwedigaethol, technegol ac academaidd. Efallai nad cymwysterau a reoleiddir yw'r opsiwn gorau i gyflogwyr na'r gweithlu bob amser; bydd mathau eraill o ddysgu achrededig yr un mor bwysig ac yn fwy hygyrch i rai dysgwyr. Fodd bynnag, lle ceir cymwysterau, dylent fod yn hawdd eu deall a'u cymharu â’i gilydd, a dylent fod yn hawdd eu trosglwyddo a chynnig symudedd.  Mae gwaith wedi dechrau ar greu gweledigaeth/cenhadaeth strategol ar gyfer addysg ôl-orfodol ac mae angen i’r cynllun gweithredu hwn adeiladu ar hynny.

Ar y sail hynny, dylai cyngor ar yrfaoedd dargedu oedolion yn ogystal â phlant ysgol a phobl ifanc.  Un o nodweddion sawl rhan o’r sector gweithgynhyrchu yw gweithlu sy’n heneiddio. Bydd angen iddynt addasu ac ailhyfforddi ar gyfer swyddi newydd wrth i’r diwydiant newid.  Yn hyn o beth, efallai y bydd angen trefnu lleoliadau o safon i unigolion brofi cyfleoedd yn y sector, i roi sgiliau ymarferol iddynt a bod yn gyfrwng recriwtio gwerthfawr i gyflogwyr. Lansiwyd Gwasanaeth Cymru'n Gweithio gan Gyrfa Cymru yn 2019, i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol ar yrfaoedd i bob oedolyn ac mae'n gallu cyfeirio pobl at raglenni i ddatblygu sgiliau.

Nod fframwaith prentisiaethau Llywodraeth Cymru yw cefnogi prentisiaethau o ansawdd da mewn ymateb i ofynion y diwydiant. Caiff y fframwaith ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn ateb y gofyn.

Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (RSPs) yn bartneriaethau gwirfoddol strategol sy’n cael eu cynnal i ddarparu gwybodaeth ranbarthol gan gyflogwyr am y farchnad lafur ac i bennu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar draws meysydd gwaith a sgiliau. Yr RSPs yw:

  • Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol y Gogledd (NWRSP);
  • Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y De-ddwyrain (CCRSP); a
  • Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol y De-orllewin a’r Canolbarth (RLSP). 

Cynhyrchodd yr RSPs gynlluniau sgiliau a gwaith strategol tair blynedd ym mis Awst 2019, i nodi blaenoriaethau rhanbarthol, yn seiliedig ar wybodaeth gan gyflogwyr. Mae gweithgynhyrchu yn flaenoriaeth yn y tri rhanbarth o ran sgiliau a chyflogadwyedd.

Yng ngoleuni pandemig COVID-19, mae'r broses gynllunio amlinellol ranbarthol flynyddol a ganiataodd i RSPs wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar addysg bellach a darparu dysgu seiliedig ar waith wedi dod i stop dros dro. Er hynny, comisiynwyd yr RSPs i baratoi adroddiadau ar effeithiau’r pandemig ar swyddi a sgiliau yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan eu rhwydweithiau o gyflogwyr.  Mae’n rhoi darlun defnyddiol o weithgynhyrchu ar draws y rhanbarthau.  Nod yr adroddiadau yw defnyddio rhwydweithiau cyflogwyr yr RSP i ddarparu gwybodaeth gyflym a chyfoes am ymateb cyflogwyr.  Er na fwriedir i'r adroddiadau hyn fod yn asesiadau cynhwysfawr o'r effaith yn y rhanbarthau, maent yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, gyda gwybodaeth arall, i nodi problemau sy'n dod i'r amlwg a gwella ein dealltwriaeth o effeithiau COVID-19 ar gyflogaeth a sgiliau.

Yn ystod 2021, bydd gwaith yn dechrau ar gryfhau'r system sy'n seiliedig ar alw i gynyddu rôl RSPs o ran llywio'r cyllid ar gyfer sgiliau ar draws dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i sefydlu pedwerydd RSP, ar gyfer y Canolbarth, wedi'i alinio â strwythurau sy'n cefnogi ei Fargen Dwf.

Mae technolegau newydd fel datblygu gefeilliaid digidol, defnyddio deallusrwydd artiffisial ac argraffu 3D i weithgynhyrchu cynnyrch gofal iechyd, a sicrhau bod yr economi gylchol yn ystyriaeth wrth ddylunio a rheoli cylch bywyd cynnyrch oll yn gysyniadau cyffrous sy'n apelio at bobl ifanc ar draws y rhywiau, waeth beth fo'u hanabledd na'u hethnigrwydd. Gyda dyfodiad gweithgynhyrchu digidol a seiberddiogelwch, mae cyfle i ddenu mwy o bobl amrywiol dalentog i gyfnod cyffrous yn hanes gweithgynhyrchu.

I'r sector gweithgynhyrchu, mae'n amlwg bod angen mwy o bobl sydd â sgiliau STEM. Mae angen sicrhau tegwch i ddysgwyr mewn pynciau STEM er mwyn cynyddu’r llif sgiliau STEM o’r ysgolion i economi Cymru. Mae Gyrfa Cymru yn brysur yn darparu manylion am y swyddi sydd ar gael, ac mae hefyd yn cynnal ffeiriau swyddi wedi'u targedu ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys STEM.

Bydd angen cydweithredu ar draws busnesau i nodi'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyflogwyr a gweithwyr. Bydd mwy o gydlynu o fewn sector gweithgynhyrchu Cymru, gan gyd-drefnu gweithgareddau gyda Gyrfa Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn helpu i gynhyrchu llif o dalent. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng ngoleuni'r Canllawiau Ychwanegol ar Brofiadau Gyrfaoedd a Phrofiadau sy'n Gysylltiedig â Gwaith (CWRE) sy'n cael ei ddatblygu fel rhan o'r Bil Cwricwlwm ac Asesu.   

Dylai'r sector annog a hyrwyddo'r cysyniad o ddatblygu’r gweithlu a dysgu gydol i ddatblygu sgiliau sy'n gludadwy ac yn hawdd eu hadnabod a’u dangos i helpu pobl i symud ar draws yr economi. Dylid pennu safonau ar lefel y DU  fel sail i lwybrau galwedigaethol, gan gynnwys prentisiaethau, fel bod modd trosglwyddo a chludo swyddi rhwng cyflogwyr a sectorau ac ar draws ffiniau. Mae sgiliau trosglwyddadwy generig yn hanfodol er mwyn i’r gweithlu allu parhau i symud ar draws diwydiannau, yn enwedig yn ystod argyfwng economaidd.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

Gweithio'n agos gyda'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i nodi blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd ar draws yr is-sectorau gweithgynhyrchu.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Cam gweithredu

Parhau i adolygu fframwaith a llwybrau prentisiaethau i sicrhau eu bod yn cefnogi'r sector gweithgynhyrchu.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Sefydlu corff trosfwaol i gydlynu gweithgareddau STEM yng Nghymru a dod â rhanddeiliaid at ei gilydd.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cam gweithredu

Gweithio gyda Gyrfa Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau i ystyried a datblygu gwybodaeth am lwybrau gyrfa STEM er mwyn ysgogi diddordeb mewn gyrfaoedd gweithgynhyrchu yn unol â chanllawiau CWRE.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cam gweithredu

Adeiladu ar y cysylltiadau presennol â diwydiant ac ysbrydoli gyrfaoedd i ddysgwyr o bob cefndir mewn addysg orfodol, drwy ddal technolegau gweithgynhyrchu modern. Bydd hyn yn cynnwys pobl ag anableddau, menywod, pobl ifanc a lleiafrifoedd ethnig.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus / Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes.

Cam gweithredu

Adeiladu ar waith sy'n cael ei wneud eisoes i greu rhaglen o ymweliadau â 'blociau' i ddysgu am dechnolegau gweithgynhyrchu modern, ac ymestyn y profiadau hyn y tu hwnt i bobl ifanc i athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd a rhieni.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus / Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Cryfhau’r cydweithio rhwng y llywodraeth, diwydiant, undebau llafur a'r byd academaidd

Bydd hyn yn helpu ac yn ysgogi’r sector gweithgynhyrchu i fod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol ac mae hynny’n hanfodol i sicrhau ei ddyfodol hirdymor.

Mae gennym hanes rhagorol o weld diwydiannau, undebau llafur a’r byd academaidd yn cydweithio trwy’r llwybr partneriaeth gymdeithasol, ac mae’n amlwg y gall y dull cydgysylltiedig hwn gael effaith gadarnhaol iawn ar y sector gweithgynhyrchu, drwy helpu i gynyddu ei gapasiti a’r galluoedd a geir ynddo.

Er bod llawer o arferion da yn y maes hwn, gellir gwella’r ffordd systematig mae diwydiannau’n cydweithio â rhanddeiliaid eraill. Dylai’r gwelliannau hyn ystyried “sut” a “pam” cydweithio, yn ogystal â chanolbwyntio ar ofynion yr economi yn y dyfodol. Gellir ystyried pethau fel hyfforddiant mewn ISO 44001 (y safon ryngwladol ar gyfer cydweithredu), sesiynau tros frecwast, cyfleoedd rhwydweithio, adeiladu'r gymuned fusnes, dysgu o enghreifftiau yng Nghymru ar welliant parhaus yn ogystal ag edrych ymhellach i ffwrdd i feincnodi cynhyrchiant mewn rhanbarthau a gwledydd tebyg. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i lwyfannau digidol hwyluso cydweithio.

Hefyd, mae angen chwalu’r rhwystrau rhag cydweithio os ydym am gael hyd i arferion da a meithrin hyder a chapasiti. Mae’n bwysig ein bod yn dangos arweiniad ar hyn, ac yn helpu i ddod â phartïon at ei gilydd i lunio cynllun cydlynus. Dylai hyn gynnwys datblygu atebion arloesol ymysg cyrff yn y sector cyhoeddus drwy roi prosiectau cydweithredol ar waith.  Enghreifftiau o sut y gall hyn weithio yw'r Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a  Byw'n Glyfar (SL). Mae'r ddau ohonynt yn dod â’r sector cyhoeddus, y byd academaidd a busnesau ynghyd i ddatblygu atebion arloesol.

Rydym hefyd am weithio gyda'n partneriaid cymdeithasol i fanteisio ar gyfleoedd ar lefel y DU i dyfu a buddsoddi. Ym mis Mawrth 2020, ymrwymodd Llywodraeth y DU i’r cynnydd mwyaf erioed yn y cymorth ar gyfer ymchwil ac arloesi sylfaenol, gan gynyddu'r buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil a datblygu i £22 biliwn y flwyddyn erbyn 2024 i 2025.  Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun ymchwil a datblygu sy'n nodi ei huchelgais i ddiwallu’r angen am dalent ac amrywiaeth ym myd ymchwil ac arloesi’r DU ac i gyfrannu at yr agenda lleoedd, i’r dyhead i wella’r diwylliant ymchwil ac i greu Asiantaeth Prosiectau Ymchwil Uwch (ARPA). Yng Nghymru, cyhoeddwyd ein Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol (RIWF) ym mis Tachwedd 2020 ac mae'n cefnogi rhagor o fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu.

Mae'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ogystal â phartneriaid allweddol a gweinyddiaethau datganoledig eraill yn bwysig nid yn unig ar gyfer ymchwil ond ar gyfer datblygu gwybodaeth sectorol hefyd. Drwy sefydlu a chynnal perthynas, partneriaethau a chydweithio y mae datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth, dadansoddi, dehongli gwybodaeth a dylanwadu ar weithredu. Bydd cydweithio o'r fath yn cefnogi achosion busnes prosiectau magnet, sesiynau briffio manwl a chynlluniau gweithredu, er mwyn paratoi ar gyfer cyhoeddiadau sydd yn yr arfaeth ac ymateb i ergydion economaidd a hefyd i helpu’r broses benderfynu a dewis strategol. Mae Strategaeth Ddiwydiannol y DU (2017) yn gyhoeddiad pwysig ac er bod datblygu economaidd wedi'i ddatganoli, rydym yn cydnabod pwysigrwydd alinio a chyfartalu perfformiad economaidd ledled y DU.

Bydd y ffordd rydym yn cydweithio gyda phartneriaid cymdeithasol ac eraill dros y blynyddoedd nesaf yn bwysig hefyd. Rydym yn gefnogol iawn i gyflogwyr ac undebau llafur sy’n cydweithio gyda pharch at ei gilydd i wneud y gweithle yn lle gwell i bawb. Bydd gan undebau llafur gyfraniad pwysig at ailgynllunio swyddi wrth i’r gweithle gael ei ddigideiddio a’i awtomeiddio er mwyn sicrhau bod y gweithlu'n cael bod yn rhan o’r trawsnewid ac yn cael ei helpu i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Rydym o blaid gwneud undebau llafur a chyd-gytundebau yn fwy agored i helpu i wireddu ein huchelgais o wneud Cymru'n genedl gwaith teg, a bod ymgysylltu, ymgynghori a negodi llawn â chynrychiolwyr undebau llafur y gweithlu yn digwydd cyn bod unrhyw newidiadau all effeithio ar y gweithlu’n cael eu caniatáu.

Byddwn yn defnyddio Cyngor Cysgodol y Bartneriaeth Gymdeithasol, yn ogystal â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd ar lefel ranbarthol, i gefnogi twf ym mhob rhan o Gymru. Ein nod fydd cydblethu’r gefnogaeth ar gyfer gweithgynhyrchu â chyfleoedd eraill ar draws y llywodraeth, gan gynnwys drwy strwythurau buddsoddi rhanbarthol newydd ar ôl ymadael â’r UE.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

Gwneud mwy i annog cyflogwyr i weld y manteision i’r busnes o gydweithio adeiladol a phartneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur, gan gydnabod cyfraniad hyn at wella ymroddiad a chynhyrchiant y gweithlu.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg/Rhanbarthau.

Cam gweithredu

Adolygu'r map rhanddeiliaid allweddol a chategoreiddio ymgysylltiad (Hysbysu / Ymgynghori / Cymryd Rhan).

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol / Rhanbarthau

Datblygu cymunedau a chlystyrau o fewn is-sectorau gweithgynhyrchu

Bydd hyn yn helpu i ddatblygu diwylliant o welliant parhaus, rhannu arfer gorau ac annog cydweithio.

Mae Adolygiad Brown yn argymell creu clystyrau arloesi diwydiannol i helpu i drawsnewid diwydiant. Roedd y clystyrau a nodwyd gyntaf yn cynnwys: dadansoddi data; ynni glân/economi gylchol; creadigol; gwasanaethau proffesiynol; meddygol/biotechnoleg; a gweithgynhyrchu uwch. Roedd yr adolygiad hefyd yn cynnwys rhyngwladoli fel piler clwstwr ac rydym yn awyddus i sefydlu clystyrau allforio i gefnogi hyn. Rydym yn cydnabod bod angen mwy o waith a dadansoddi i nodi'r clystyrau fyddai’n gywir i Gymru ac rydym yn cydnabod bod angen cefnogi’r clystyrau sy'n bod yn ogystal â rhai newydd.

Mae angen i ni ystyried pa glystyrau sydd yn ein barn ni yn asedau strategol o ran galluogi Cymru i gystadlu ymhellach i fyny cadwyni gwerth domestig a byd-eang. Ceir clystyrau neu gymunedau eisoes mewn meysydd fel awyrofod, modurol, bwyd, hydrogen, ynni’r môr, niwclear, gwyddorau bywyd ac iechyd, technoleg a lled-ddargludyddion ers tro. Yr ydym hefyd wrthi'n ystyried strategaeth ar gyfer ein clwstwr cemegau ac yn sefydlu clwstwr y cymoedd technoleg a chlwstwr amaeth-dechnoleg. Rydym hefyd yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn y sector technoleg ynni gwynt sy’n arnofio ar y môr yn y Môr Celtaidd.  

Rydym ni’n credu y bydd adeiladu ar y llwyddiant hwn, ac ystyried argymhellion Adolygiad Brown, yn dod â manteision i’r sector gweithgynhyrchu drwyddo draw. Byddai’r gwaith mapio cychwynnol a gynigir yn profi’r dull clystyrau hwn, gan nodi’r cryfderau a’r cyfleoedd yng Nghymru. Mae'r adolygiad hefyd yn argymell MAPS (Prif Ffrwd, Alinio, Blaenoriaethu, Stopio) fel offeryn cynllunio a gall hyn fod yn gam nesaf defnyddiol ar ôl SWOT a PESTLE ar gyfer nodi beth sydd angen ei wneud. 

Byddwn yn datblygu strategaethau a syniadau ar gyfer sut i gefnogi'r cymunedau hyn a sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd gydlyn a chyson â’r cymunedau busnes niferus sydd wedi'u gwasgaru ledled Cymru.  Y prif ffocws fydd sicrhau bod gan eu haelodau gysylltiad â sefydliad credadwy a dylanwadol er mwyn:

  • casglu a thrafod gwybodaeth am y farchnad;
  • rhwydweithio i gydweithio ar synergeddau yn y gadwyn gyflenwi;
  • datblygu arloesedd yn gyflym drwy rannu gwybodaeth; a
  • sicrhau budd masnachol i’r aelodau.

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Ystyried argymhellion Adolygiad Brown ar glystyrau ynghyd â gwybodaeth o'r arolwg o gapasiti a gallu gweithgynhyrchu a defnyddio'r data i nodi cryfderau Cymru a blaenoriaethu clystyrau.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes / Trawsnewid Diwydiannol.

Cam gweithredu

Sefydlu rhwydwaith Cymru gyfan o glystyrau i rannu arfer gorau a chydweithio.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes / Trawsnewid Diwydiannol

Darparu seilwaith modern i gefnogi newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn manteisio ar gyfleoedd gwaith

Er mwyn i’n sector gweithgynhyrchu allu tyfu a ffynnu, mae arnom angen seilwaith modern a all ymateb i newidiadau yn y ffordd rydym yn gweithio.  Mae argyfwng COVID-19 wedi cael effaith ddofn a pharhaol o bosibl ar sut rydym yn gweithio. Mae gweithio o bell bellach wedi ennill ei blwyf mewn rhai sectorau ac mae cyfarfodydd a digwyddiadau busnes ar-lein bellach yn normal. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o weithgarwch gweithgynhyrchu yn debygol o barhau mewn adeiladau ffisegol, felly mae'n hanfodol bod gennym y math iawn o adeiladau i’n cymuned weithgynhyrchu allu ehangu, arallgyfeirio a dechrau ynddyn nhw.

Hefyd, bydd angen inni allu cyrraedd y seilwaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chyda cherbydau annibynnol rydym yn gweld cynnydd yn y posibilrwydd o uno symudedd cyhoeddus a phreifat. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus lanach ddi-garbon gan gynnwys bysiau a threnau ac mae'n adeiladu mwy o gysylltedd band eang. Rydym hefyd yn cydnabod, er mwyn annog mwy o ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau, fod yn rhaid i ni barhau i fuddsoddi yn y seilwaith economi gylchol er mwyn inni allu defnyddio ein gwastraff fel adnodd gweithgynhyrchu.

Bydd seilwaith modern yn helpu ein sector gweithgynhyrchu i ddefnyddio cyflenwyr a gweithwyr lleol, i ddod yn fwy cynhyrchiol a mwy cysylltiedig ac i ddatgarboneiddio ein gweithgareddau. Felly, mae angen y canlynol arnom:

  • safleoedd ac adeiladau gwaith, hy ffatrïoedd, swyddfeydd ac ati addas ar gyfer ffyrdd modern o weithio;
  • seilwaith trafnidiaeth sy'n gallu ymateb i batrymau gwaith gwahanol ac uno symudedd personol a chyhoeddus fel cerbydau annibynnol;
  • seilwaith ynni, sy'n galluogi safleoedd gwaith i weithredu, yn cael ei ddatgarboneiddio fwyfwy ac yn creu cyfleoedd busnes newydd i ddarparu gwasanaethau ynni;
  • seilwaith economi gylchol, er mwyn gallu ailddefnyddio adnoddau; a
  • systemau cyfathrebu sy’n caniatáu i ni weithio mewn ffordd gysylltiedig.

Wrth ymgynghori â rhanddeiliaid, gwelwyd  hefyd bod angen hwyluso’r gofynion cynllunio er mwyn i gwmnïau allu ehangu, arallgyfeirio a dechrau.  Bydd hon hefyd yn ffordd o annog cwmnïau i aros yng Nghymru.

Os yw eiddo Llywodraeth Cymru yn rhan o’r ‘fargen’ (gwerthu, tenantiaeth i fusnes neu grant) efallai y bydd cyfle i drafod defnydd cymdeithasol gynhyrchiol o eiddo cyhoeddus ac asedau at ddibenion gwaith teg.

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Ystyried anghenion busnesau gweithgynhyrchu wrth gynllunio darparu adeiladau i fusnesau.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Seilwaith Economaidd / Eiddo / Rhanbarthau.

Cam gweithredu

Rhoi sylw i anghenion gweithgynhyrchu wrth gynllunio gwelliannau trafnidiaeth, seilwaith ynni, seilwaith economi gylchol a seilwaith cyfathrebu.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Seilwaith Economaidd.

Cam gweithredu

Edrych ar ofynion cynllunio cwmnïau sydd am ehangu, arallgyfeirio neu ddechrau.  Bydd hyn yn cynnwys defnyddio gorchmynion datblygu lleol, datblygiad a ganiateir a defnyddio ardaloedd er lles y cyhoedd.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Cynllunio

Ymrwymiadau gwaith teg i sicrhau bod pobl sy'n gweithio ym maes gweithgynhyrchu yn cael eu trin yn deg

Credwn fod gwaith teg yn hanfodol i economi ffyniannus a sector gweithgynhyrchu llwyddiannus. Mae hyn yn adlewyrchu'r berthynas gref rhwng trin cyflogeion yn deg a chynyddu’u hymrwymiad a’u cynhyrchiant, lleihau absenoldeb, gwella recriwtio a chadw ac agweddau eraill ar berfformiad busnes. 

Mae llawer o'n gweithgynhyrchwyr gorau yn esiamplau o waith teg ac maent yn cydnabod manteision trin eu gweithwyr yn dda. Byddwn yn parhau i gefnogi'r achos economaidd yn ogystal â moesegol dros waith teg, gan ddefnyddio ysgogiadau pwysig fel y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi er mwyn cael cymaint o ddylanwad â phosibl. Byddwn hefyd yn defnyddio ein dylanwad ym maes caffael y sector cyhoeddus a grantiau i hyrwyddo canlyniadau gwaith teg.

Byddwn yn cynyddu ein gwaith gyda phartneriaid cymdeithasol i hyrwyddo manteision gwaith teg a hyrwyddo cyflogwyr ac undebau llafur sy'n gweithio fel partneriaid mewn ysbryd o gydweithio, ymrwymiad a pharch at ei gilydd i wneud y gweithle yn lle gwell i bawb.  

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Sicrhau bod gwaith teg yn cael ei ystyried mewn gwaith cydweithredol rhwng y llywodraeth, diwydiant, undebau llafur a'r byd academaidd.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg / Busnes Cymru / Rhanbarthau.

Cam gweithredu

Hyrwyddo'r contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi ym mhob gweithgaredd caffael.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg / Busnes Cymru / Rhanbarthau/ Caffael Masnachol.

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Defnyddio bob lifer sydd ar gael i hyrwyddo canlyniadau gwaith teg ar draws y sector gweithgynhyrchu.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg / Busnes Cymru / Rhanbarthau / Banc Datblygu Cymru / Caffael Masnachol.

Cam gweithredu

Disgwyl i bob cwmni sy'n derbyn cyllid drwy gontractau a grantiau ymrwymo i'r cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg / Rhanbarthau / Banc Datblygu Cymru / Caffael Masnachol.

Cam gweithredu

Gweithio gyda diwydiant ac undebau llafur i nodi, hyrwyddo a rhannu astudiaethau achos arfer gorau o waith teg, yn enwedig y rhai sy'n dangos cysylltiad rhwng gwaith teg a gwell perfformiad busnes.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg / Busnes Cymru / Rhanbarthau

Cryfhau arweinwyr a rheolwyr mewn gweithgynhyrchu

Un o’r prif amcanion yw sicrhau dyfodol hirdymor i’r sector yng Nghymru. I wneud hynny, mae angen i ni adeiladu ar y profiad helaeth a’r arbenigedd aruthrol sydd gennym ar hyn o bryd, a defnyddio hynny i ledaenu arferion gorau.  Bydd hyn yn golygu nodi sgiliau allweddol megis sgiliau strategaeth a gweithredu a rheoli risg, a fydd yn helpu i gynnal a thyfu busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Fodd bynnag, ni ddylem chwilio am arferion gorau yng Nghymru yn unig. Rydym yn chwilio o hyd am arferion gorau ym mhob cwr o’r byd gyda chyrff fel y Massachusetts Institute of Technology, i gael gafael ar syniadau newydd. Hefyd, mae gan ein prifysgolion lawer o brosiectau cydweithredol ar y gweill gyda sefydliadau mewn gwledydd eraill, sy’n dod â syniadau i Gymru. Mae Cymru hefyd yn gartref i nifer fawr o gwmnïau byd-eang sy’n arweinwyr yn eu maes, ac mae angen i ni ddefnyddio'r arbenigedd, y profiad a’r syniadau newydd hyn i greu cymuned sy’n gweithio gyda’i gilydd i arwain a rheoli’n well.  Mae nifer o sefydliadau/fforymau eisoes yn mynd i’r afael ag elfennau o hyn, fel y Grŵp Arweinwyr – sy’n cael ei redeg gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – ac Academi Cymru a rhoddir ystyriaeth i ddatblygu rhwydweithiau o amgylch y rhwydweithiau presennol hyn.

Bydd cymharu ein perfformiad â rhanbarthau tebyg eraill hefyd yn bwysig fel mesur o'n cynnydd ac i ddeall yn well sut mae rhanbarthau eraill yn llwyddo i ddatblygu’u heconomi.  Er enghraifft, y pedwar rhanbarth sbardun yn Ewrop: Auvergne-Rhône-Alpes (Ffrainc), Baden-Wurttemberg (Yr Almaen), Catalonia (Sbaen) a Lombardi (yr Eidal).  Bydd hyn yn golygu ystyried unedau economaidd fel y Mittelstand Almaenig a'i ran yn llwyddiant economaidd y wlad. Mae ei rôl yn wahanol i rôl BBaChau yn yr ystyr eu bod yn seilio eu gallu i gystadlu ar lefelau uchel o arloesedd, gyda phwyslais ar allforio ac ar fusnesau preifat / teuluol.

Mae dewis cynnyrch a marchnadoedd yn benderfyniadau sylfaenol i gwmnïau gael bod yn wahanol i’w cystadleuwyr, ac mae pob dewis yn golygu lefel wahanol o risg o ran ansicrwydd ynghylch y galw, cystadleuaeth anrhagweladwy a newidiadau mewn technoleg. Mae llai o risg ynghlwm wrth weithredu’r strategaeth, gan fod hynny’n digwydd o fewn y sefydliad, ond ceir ansicrwydd yn honno hefyd o fewn ei systemau cymdeithasol-dechnegol. Yr her i arweinwyr yw gwneud y penderfyniadau i ddewis y dimensiynau penodol hynny a fydd yn hoelio sylw ac yn sicrhau llwyddiant. Mae risgiau o ganlyniad i benderfyniadau gwael, ond yn yr un ffordd, daw risgiau o beidio â gwneud penderfyniadau i newid cyfeiriad a manteisio ar gyfleoedd newydd. Mae hyn yn berthnasol ar hyn o bryd gyda newidiadau fel newid technoleg, newid yn yr hinsawdd, poblogaeth sy'n heneiddio, cystadleuaeth fyd-eang yn ogystal â COVID-19 a gael yr UE. 

Mae angen inni weithio gyda'n gilydd i ddysgu o’r arfer gorau, i feincnodi perfformiad ac i ddatblygu sgiliau arwain a rheoli, a fydd yn diogelu dyfodol hirdymor gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae angen inni hefyd gymhwyso'r dysgu hwn i wella lles pobl Cymru.

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Canolbwyntio ar ddau sbardun i berfformiad cwmnïau; strategaeth a gweithredu - y dewisiadau strategol a wneir, y strwythur sefydliadol dilynol a'r adnoddau a ysgogir i gyflawni'r strategaeth. Ystyried rôl risg o ran gwneud a pheidio â gwneud penderfyniadau strategol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol.

Cam gweithredu

Creu cymunedau o arferion gorau gydag arweinwyr ar draws y sector gweithgynhyrchu, sy’n barod i rannu ag eraill ac i ddysgu oddi wrth gyrff fel MIT. Cynnwys sianeli i esiamplau fel y Fforwm Arweinwyr ac Academi Cymru gan ganolbwyntio ar yr effaith ar les pobl Cymru.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol  / Rhanbarthau

Cam gweithredu

cymharu ein perfformiad gweithgynhyrchu â’r arfer gorau yn rhanbarthau tebyg yn y DU ac yn fyd-eang.  Defnyddio’r data i lywio pecynnau cymorth i wella cynhyrchiant a chystadleurwydd.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol

Cydnerthedd y gadwyn gyflenwi

Bydd hyn yn golygu nodi'r potensial ar gyfer adfer a chael hyd i eitemau blaenoriaeth yn y gadwyn gyflenwi leol a defnyddio systemau caffael sefydliadau sector cyhoeddus a sefydliadau / cwmnïau angori allweddol i greu'r galw cychwynnol. Fel rhan ganolog o hynny, rhaid cael hyd i ddeunyddiau crai a chydrannau yn foesegol a chyfrifol ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion yng Nghymru fel bod ein holl weithgynhyrchwyr yn 'gyfrifol yn fyd-eang’.

Mae gan lawer o’n busnesau gweithgynhyrchu gadwyni cyflenwi sy’n hir a llinol ac yn ymestyn ar draws y byd. Mae pandemig COVID-19 wedi profi bod y cadwyni cyflenwi hyn yn gallu bod yn simsan, yn hir, yn gymhleth ac felly’n fregus. Mae’n dangos cymaint y mae cymdeithas yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi sy’n gweithio’n esmwyth.

Yn ystod argyfwng COVID, tarfwyd ar gadwyni cyflenwi byd-eang llawer o gwmnïau, wrth i’w cadwyn gyflenwi ‘jest digon’ a ‘jest mewn pryd’ fethu. Rydym wedi gweithio gyda diwydiannau ar gyflenwi cyfarpar diogelu personol ac eitemau eraill sy’n hanfodol i les Cymru, mewn ymdrech ar y cyd i fynd i’r afael â phrinder ac i amddiffyn gweithwyr rheng flaen. Mae llwyddiant yr ymdrech hon wedi tynnu sylw at dri mater:

  1. Pe bai pandemig neu drychineb byd-eang arall, byddai ein cadwyni cyflenwi ar gyfer cyfarpar diogelu personol/eitemau meddygol, yn ogystal ag eitemau eraill fel bwyd a deunyddiau crai neu gydrannau a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr yng Nghymru, mewn perygl.
  2. Er ei bod efallai’n ddymunol dod â llawer o eitemau yn ôl i Gymru, weithiau nid yw hynny’n bosibl, felly rhaid sicrhau bod cadwyni cyflenwi’n gydnerth ar gyfer y dyfodol. Gallai hyn olygu cadw lefelau diogel o stoc yn y gadwyn gyflenwi, neu weithio gyda chadwyni cyflenwi sy’n nes i’r DU.
  3. Mae COVID-19 wedi bod yn wers bwerus am risgiau cadwyni cyflenwi llinol, hir. Wrth ailgynllunio modelau busnes, bydd angen ystyried sut gall busnesau gryfhau eu cadwyn gyflenwi, a chyfrannu at adferiad gwyrdd drwy gadwyni cyflenwi cylchol.

Mae'r gwaith wedi dechrau ar edrych ar gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus ar gyfer cyfarpar diogelu personol a bwyd. Mae hyn yn amlwg yn fater pwysig i’n gweithgynhyrchwyr, ac o bosibl yn gyfle i ddatblygu’r sector gweithgynhyrchu mewn rhai meysydd.  Mae sectorau fel iechyd, ynni, adeiladu, rheilffyrdd ac amddiffyn yn dibynnu ar gyllid a pholisïau’r sector cyhoeddus, ac felly mae ganddo fwy o ddylanwad ar gadwyni cyflenwi’r meysydd hyn nag mewn meysydd fel awyrofod a modurol.

Ar lefel y DU, mae menter DEFEND, prosiect cydgysylltiedig yr Adran Diwydiant a Masnach, wedi nodi 65 o is-sectorau lle mae cadwyni cyflenwi cydnerth yn hanfodol i'r DU. Mae llawer o'r rhain mewn meysydd lle mae gan Gymru gryfderau sylweddol ac mae angen i ni ymgysylltu â nhw felly. Fodd bynnag, er y bydd ymdrechion i fyrhau cadwyni cyflenwi mewn sawl sector yn dod â chyflenwyr haen un a haen dau yn nes at ei gilydd, mae’n eithriadol o anodd newid elfennau deunyddiau crai yn y gadwyn gyflenwi.

O safbwynt datgarboneiddio, nid yw byrhau'r gadwyn gyflenwi yn datrys y broblem ond gall wneud cyfraniad sylweddol. Bydd newid sylfaenol tuag at fodelau busnes cylchol yn cadw gwerth adnoddau a chynnyrch.  Bydd hyn yn cynnwys ystod o gamau sy’n rhan o fodel yr economi gylchol, fel trwsio, adnewyddu, addasu ac ailgylchu.

Mae canlyniad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn golygu na ellir cyfuno cydrannau o’r UE â rhai o’r DU at ddiben cwrdd â thargedau’r rheolau tarddiad ar gyfer allforio i weddill y byd. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn fanteisiol i fusnesau yn y DU ddod o hyd i gyflenwyr yn y DU. Ar y llaw arall, mae’n bosibl iawn y bydd busnesau bach a chanolig yn y sector gweithgynhyrchu yn gweld eu marchnadoedd yn yr UE yn diflannu, gan y gallai fod yn well gan gwsmeriaid yn yr UE ddefnyddio cyflenwyr o 27 gwlad yr UE. Hefyd bydd rhwystrau rheoleiddio newydd ar fasnachu, a allai fod yn anodd i fusnesau sydd ond wedi ‘allforio’ i’r UE yn y gorffennol. Bydd angen i ni barhau i gefnogi'r busnesau hyn i roi systemau ar waith ac i allforio yn ogystal ag ystyried y potensial am gytundebau masnach rydd gyda marchnadoedd y tu allan i'r UE, gan weithio gyda llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau gweithgynhyrchu Cymru yn cael eu hyrwyddo.

Camau gweithredu byr dymor

Cam gweithredu

nodi pa gynhyrchion, deunyddiau crai a chydrannau sy'n hanfodol i les Cymru ac edrych sut y gallwn sicrhau cyflenwadau a byrhau cadwyni cyflenwi os bydd argyfwng byd-eang fel pandemig COVID-19.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Busnes / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol /  Arloesi / Caffael Masnachol / Yr Economi Sylfaenol

Cam gweithredu

Datblygu a chyflwyno dull cyfrifol / moesegol i’r sectorau cyhoeddus a phreifat o gaffael deunyddiau crai a chydrannau ar gyfer cynhyrchion a weithgynhyrchir yng Nghymru fel bod ein holl weithgynhyrchwyr yn 'gyfrifol yn fyd-eang’.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Busnes / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol /  Arloesi / Caffael Masnachol / Yr Economi Sylfaenol

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n deillio o adael yr UE drwy addasu'r cymorth a ddarperir i sicrhau cydnerthedd y gadwyn gyflenwi

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau / Busnes / Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol /  Arloesi / Caffael Masnachol

Angori busnesau’n well yng Nghymru

Bydd hyn yn golygu annog a chryfhau swyddogaethau penderfynu yng Nghymru megis pencadlysoedd, ymchwil, datblygu, arloesi, gwerthu a marchnata a chaffael.

Mae’r penderfyniad i angori busnes mewn gwlad neu ranbarth penodol yn seiliedig ar amryw o resymau, gan gynnwys y themâu sydd eisoes wedi’u trafod fel sgiliau, cadwyni cyflenwi, cymorth i arloesi, a’r llwybr i’r farchnad (caffael). Fodd bynnag, mae’r cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru yn aml iawn yn ganghennau gweithgynhyrchu cwmni mwy, sydd wrth wneud ei benderfyniadau yn gorfod ystyried ei fusnesau eraill yn Ewrop neu fyd-eang.  Mae'r diffyg swyddogaeth penderfynu yng Nghymru yn her wrth angori cwmnïau yng Nghymru.

Rhaid felly wrth gydbwysedd rhwng sicrhau twf organig a denu mewnfuddsoddiad wedi’i dargedu sy’n annog cwmnïau i symud eu swyddogaethau penderfynu allweddol i’w cyfleusterau yng Nghymru.  Mae clystyru yn ôl meysydd cryfder a datblygu canolfannau rhagoriaeth hefyd yn rhan bwysig o hyn.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, buddsoddwyd mewn cyfleusterau o’r fath, gan gynnwys y catapwlt lled-ddargludyddion cyfansawdd, AMRC Cymru, M-Sparc, ymysg llawer o rai eraill.  Mae ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi pellach yn cynnwys creu Canolfan Ymchwil Dechnegol Uwch (ATRC) yng Nglannau Dyfrdwy.

Credwn y bydd ein cymorth arloesi yn allweddol o ran denu a chadw busnesau yng Nghymru.  Ar hyn o bryd, nod y cymorth arloesi yw cyflawni’r agendâu digidol, cynhyrchiant a Diwydiant 4.0, ynghyd â’r flaenoriaeth fwy diweddar i wneud Cymru’n fwy cydnerth.  Drwy gydol argyfwng COVID-19, rydym wedi defnyddio systemau sydd wedi ennill eu plwyf i sicrhau canlyniadau cyflym.  Mae Innovate UK yn ein cydnabod erbyn hyn fel un o ddefnyddwyr gorau tendrau SBRI a GovTech y sector cyhoeddus, sy’n ysgogi atebion newydd gan y sector gweithgynhyrchu i heriau mawr.

Credwn y bydd y manteision y gall Cymru eu cynnig o ran y themâu a nodir yn y cynllun hwn yn gwneud i gwmnïau, boed rhai tramor neu frodorol, fod eisiau aros yng Nghymru a gwneud eu penderfyniadau strategol am eu busnes yng Nghymru.  Yn benodol, credwn fod cymorth arloesi yn elfen bwysig o’r hyn y gall Cymru ei “gynnig”.

Gallwn weithredu drwy annog busnesau sy’n bod eisoes – brodorol, Prydeinig a thramor - i ddatblygu swyddogaethau o'r fath.  Gallwn hefyd fapio’r cadwyni cyflenwi i nodi'r bylchau all fod yn gyfleoedd y gellir eu hyrwyddo ac y gellir eu targedu wrth eu hyrwyddo i fuddsoddwyr newydd mewn meysydd penodol.

Camau gweithredu byr dymor (ac o bosibl yn y tymor canolig/hirach)

Cam gweithredu

Dod â chymorth i arloesi, ymchwil a datblygu at ei gilydd, a buddsoddi mewn cyfleusterau fel AMRC ac  ATRC i helpu i ddiogelu dyfodol ein cymuned gweithgynhyrchu

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol / Rhanbarthau / Arloesedd / Yr Is-adran Ryngwladol

Cam gweithredu

Trafod contractau economaidd yn y sector gweithgynhyrchu i angori cwmnïau’n well yng Nghymru, sy'n gysylltiedig â thaith 4.0 Cymru

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbartha

Camau gweithredu tymor canolig/hirach

Cam gweithredu

Cadw cydbwysedd rhwng twf organig a mewnfuddsoddiad sy’n annog cwmnïau i symud eu swyddogaethau penderfynu i’w cyfleusterau yng Nghymru.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Rhanbarthau /  Arloesedd

Cam gweithredu

Mapio'r gadwyn gyflenwi i nodi'r bylchau all fod yn gyfleoedd y gellir eu hyrwyddo. Targedu  gwaith hyrwyddo i fuddsoddwyr newydd mewn meysydd penodol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol / Rhanbarthau /  Arloesedd / Yr Is-adran Ryngwladol

Cam gweithredu

Targedi gwaith hyrwyddo at fuddsoddwyr newydd mewn meysydd penodol.

Perchennog o fewn Llywodraeth Cymru

Yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol / Rhanbarthau /  Arloesedd / Yr Is-adran Ryngwladol

Mesur cynnydd

Mae'r hyn a fesurwn yn arwydd o'r hyn yr ydym yn ei drysori.  Mae ein “Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi” yn nodi economi lesiant sy’n ymdrin â’r economi mewn ffordd holistig; wrth gydnabod ei photensial i wneud drwg yn ogystal â da, rhaid felly wrth ffordd holistig o fesur cynnydd.  Mae’r Cynllun Gweithredu yn ategu’r Genhadaeth hon.

Nid yw GVA yn fesur digonol o lwyddiant a ffyniant mwyach.  Rydym am ganolbwyntio ar weld cynnydd ar sail dangosyddion cenedlaethol Cymru. Maent yn adlewyrchu'r weledigaeth ar gyfer llesiant, sef ein colofn ganolog.  Mae hyn yn golygu sbarduno gwelliannau i'n heffeithiau amgylcheddol, llesiant yn y gwaith a chynnydd ehangach cymdeithas yn ei chyfanrwydd.  Ni ellir mesur cyfoeth cyffredinol cenedl a diystyru anghydraddoldeb neu ddirywiad amgylcheddol canlyniadol.

Nid rhywbeth ymylol mwyach yw’r ymgyrch dros economi lesiant. Mae'r OECD newydd lansio ei Ganolfan Llesiant, Cynhwysiant, Cynaliadwyedd a Chyfle Cyfartal.  Mae bod yn aelod o rwydwaith Llywodraethau'r Economi Lesiant wedi cadarnhau ein lle fel un o geffylau blaen y dull blaengar hwn o ddatblygu’r economi a bydd ein hymdrechion ailadeiladu yn dangos ein dylanwad a'n harweiniad yn y maes hwn. Byddwn yn trafod y syniadau blaengar fydd yn dod i'r amlwg yn y maes hwn gan gyfrannu ein profiad a’r hyn rydym wedi’i ddysgu oddi wrth arferion da ledled y byd.

Rhagwelwn y bydd y camau tymor byr, canolig a hir a ddisgrifir yn sail i gynllun deng mlynedd ar gyfer diogelu dyfodol ein sector gweithgynhyrchu.  Ond, nid cynllun gan y Llywodraeth yn unig yw hwn - mae'n gynllun sydd wedi'i ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid gan gynnwys diwydiant, undebau llafur a'r byd academaidd ac i'r perwyl hwn rhaid i ni ddatblygu mecanweithiau i fesur cynnydd o dan y themâu a nodwyd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu dangosyddion cenedlaethol, i asesu’r cynnydd wrth gyflawni nodau llesiant Cymru. Cyhoeddwyd y dangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016, ac maent yn cael eu crynhoi isod. Mae disgrifiad llawn o’r dangosyddion cenedlaethol, gan gynnwys eu diffiniadau technegol a gwybodaeth am eu ffynonellau data ac amlder, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.   

Dangosyddion Llesiant

Llesiant amgylcheddol

  • Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer
  • Capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi’u gosod
  • Ôl Troed Ecolegol Cymru
  • Faint o wastraff a gynhyrchir nad yw'n cael ei ailgylchu, fesul person
  • Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru
  • Ardaloedd lle ceir ecosystemau iach yng Nghymru

Llesiant economaidd

  • Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) yr awr a weithiwyd (o'i gymharu â chyfartaledd y DU)
  • Canran y busnesau sy'n weithgar o safbwynt arloesi
  • Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill mwy na 2/3 o gyflog canolrifol y DU
  • Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau
  • Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur yn ôl grwpiau oedran gwahanol

Llesiant cymdeithasol

  • Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
  • Incwm Gwario Gros Aelwydydd y pen
  • Canran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o'u cymharu â chanolrif y DU: wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oed gweithio a phobl o oed pensiwn
  • Canran sy'n teimlo eu bod yn cael dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol
  • Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
  • Canran yr anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol

Er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro a'i fesur yn briodol, byddwn yn sefydlu panel o dan arweiniad diwydiant ac o dan oruchwyliaeth Gweinidog i ganolbwyntio ar y  cynllun hwn.