Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 5 Hydref 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y cynllunio manwl yr oedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi bod yn ei wneud. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau - rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y cyflenwad o’r brechlynnau. Ar sail yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (‘y Cyd-bwyllgor’), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechiad a gynigir iddynt – y llefydd y byddant yn mynd i gael eu brechu, pobl i roi'r brechiad a'r trefniadau ar gyfer y system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu - rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru

Cyhoeddwyd Diweddariad i'n Strategaeth Genedlaethol ar 23 Mawrth 2021, yn dilyn y Diweddariad a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror. Mae’n sôn am y cynnydd sydd wedi’i wneud ac yn darparu rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau nawr ac yn y dyfodol.

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Mae pob bwrdd iechyd wedi dechrau brechu plant a phobl ifanc 12-15 oed. Mae ychydig o dan 145,000 o bobl ifanc 12-15 oed yng Nghymru, a'n nod yw cynnig y brechlyn iddynt i gyd erbyn diwedd wythnos hanner tymor a brechu’r rhan fwyaf sy’n derbyn y cynnig yn ystod mis Hydref.

Gall pobl ddewis a ydyn nhw am gael brechiad ai peidio ac mae gwybodaeth briodol ar gael i blant a phobl ifanc a'u rhieni i'w helpu i wneud penderfyniad ynghylch cael y brechlyn. Mi fydd gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rwy'n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod gyda'i gilydd a ddylid cael y brechiad ai peidio. 

Yn y sefyllfaoedd prin pan na fydd pobl ifanc a’u rhieni’n cytuno am fanteision y brechlyn, byddwn yn dilyn y gyfraith ac arferion gorau yn ymwneud â pharchu hawliau plant a chyfrifoldeb y rhiant. Efallai y bydd hyn yn cynnwys trafodaethau clinigol gyda’r unigolion a nodi cymhwysedd Gillick, fel y bo’n briodol, sef yr arfer safonol ar gyfer gweinyddu brechlynnau eraill.

Mae prawf Gillick yn nodi os oes gan blentyn o dan 16 oed ddigon o ddealltwriaeth a deallusrwydd i ddeall yr hyn a gynigir, y gellir rhoi gofal a thriniaeth iddo heb ganiatâd y rhiant. 

Llythyrau apwyntiadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn ddiweddar, cafodd rhai pobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda lythyrau yn eu gwahodd i gael dos atgyfnerthu COVID-19 neu ddos cyntaf i bobl ifanc 12-15 oed a oedd yn gofyn iddynt ddod i ganolfan frechu nad oedd yn lleol i’w cartrefi.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau, cyn belled â’ch bod wedi cael llythyr apwyntiad, y cewch fynd i'ch canolfan frechu agosaf ar adeg sy'n gyfleus i chi, er nad dyna’r lleoliad fydd wedi’i nodi ar y llythyr o bosib.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau hefyd nad oes angen cysylltu â nhw i aildrefnu'r apwyntiadau hyn ac maent wedi ymddiheuro am unrhyw ddryswch neu ofid y gallai hyn fod wedi'i achosi. Mae rhestr o ganolfannau brechu ar eu gwefan. Ni ddylai hyn effeithio ar lythyrau a anfonir o’r wythnos hon ymlaen.

Tegwch o ran brechu 

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei wythfed adroddiad ar gydraddoldeb o ran rhaglen frechu COVID-19. Mae'r adroddiad yn dangos bod nifer y rhai sy’n cael eu brechu yn parhau i gynyddu'n araf ym mhob grŵp economaidd-gymdeithasol ac ethnig yhr adroddwyd arnynt, a bod y ffigurau ar gyfer y dos cyntaf mewn grwpiau oedran hŷn wedi gwastatáu. 

Mae'r anghydraddoldeb mwyaf rhwng grwpiau ethnig mewn oedolion rhwng 30 a 39 oed. Ymhlith pobl ifanc 16-17 oed y mae’r anghydraddoldeb mwyaf yn y ddarpariaeth rhwng y rhai sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru a’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Daeth y grŵp oedran hwn yn gymwys i gael ei frechu yn yr haf. Ynghyd â'n byrddau iechyd ac ystod eang o bartneriaid, rydym yn annog pobl i fanteisio ar y cynnig i gael brechiad drwy wneud hynny mor hawdd â phosibl iddynt drwy gynnig gwasanaeth hyblyg yn ôl yr amgylchiadau lleol. Mae canolfannau brechu torfol ledled Cymru yn cynnig oriau estynedig gyda'r nos ac maent ar agor ar benwythnosau. Mae cynlluniau cludiant neu deithio ar gael mewn sawl ardal. Mae gwasanaethau allgymorth, clinigau dros dro a gwasanaethau symudol yn mynd â'r brechlyn i gymunedau na fyddent fel arall, o bosibl, yn manteisio ar y cynnig. Hefyd, gyda chymorth partneriaid, cynhelir clinigau brechu mewn lleoliadau cyfarwydd fel canolfannau ffydd, canolfannau diwylliannol a chanolfannau cymunedol.

Peidio â gadael neb ar ôl yw un o brif egwyddorion ein rhaglen frechu. Mae rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru yn agored i bawb y mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi nodi eu bod yn gymwys. Law yn llaw â'r ymgyrch ar i annog pobl i gael dos atgyfnerthu, bydd y GIG yn mynd ati i ailgynnig y brechlyn i'r rhai nad ydynt wedi'i gael eto.

Statws brechu COVID-19

Mae deddfwriaeth wedi’i gosod yn y Senedd a bydd dadl a phleidlais yn cael eu cynnal arni ar 5 Hydref. Os caiff ei phasio, byddai’r Pàs COVID yn orfodol ar gyfer pawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr diwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, daw’r cynllun gorfodol i rym yng Nghymru ar 11 Hydref. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio eich pàs yn barod drwy ddefnyddio system ddigidol y GIG sy’n eich galluogi i ddangos Pàs COVID ar ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur. Gallwch weld eich pàs gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/ 

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs COVID i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod erbyn hyn yn gweinyddu’r brechlynnau fel a ganlyn:

  • Dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Dos cyntaf i bobl ifanc 16 a 17 oed
  • Dos cyntaf i blant 12 i 15 oed 
  • Ail ddos i bawb sy’n gymwys
  • Trydydd dos i unigolion imiwnoataliedig
  • Dosau atgyfnerthu i’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 4.6 miliwn o ddosau o frechlynnau wedi’u gweinyddu yng Nghymru
  • Mae cyfran fawr o bobl wedi manteisio ar y dosau cyntaf a’r ail ddosau yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4, gan ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed
  • Mae mwy na 2.38 miliwn o bobl wedi cael dos cyntaf a mwy na 2.22 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn o frechlyn
  • Mae 77% o oedolion 18-29 oed a 78% o oedolion 30-39 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae 71% o unigolion 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Bydd gwahoddiadau’n cael eu hanfon at bawb rhwng 12 a 15 oed cyn diwedd wythnos hanner tymor yr hydref
  • Mae rhaglen atgyfnerthu ar y gweill i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Rhagor o wybodaeth

Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 ac anogir pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID-19 – gallwch ddarllen ei ddatganiad yma: Y Prif Swyddog Meddygol yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID 

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma: Cael eich brechlyn COVID-19 

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.