Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 29 Mehefin 2021

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau  – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd yr wythnos hon?

Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cofnodi dros 124,000 o ddosau, gan gynnwys mwy na 15,700 o ddosau cyntaf a mwy na 108,000 o ail ddosau. Mae hyn yn gynnydd pwysig yn ein rhaglen ac yn diogelu Cymru. 

Mae’r byrddau iechyd yn gweithio’n galed i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl a bod pawb yng Nghymru’n cael eu dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19.

Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad neu os oes angen ichi aildrefnu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd. Mae gwybodaeth am beth i’w wneud ar gael yma: Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan

Rydym yn dal i ddisgwyl cyrraedd carreg filltir 3 yn ein Strategaeth – bod 75% wedi manteisio ar y dos cyntaf o’r brechlyn ar draws pob grŵp blaenoriaeth a grŵp oedran – cyn y targed. 

Mae ein rhaglen ar gyfer yr ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen ar gyfer y dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol i amddiffyn pobl yn y tymor hirach, felly mae yr un mor bwysig bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos. Mae tystiolaeth dda yn dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod dau ddos o’r brechlyn yn helpu i leihau risg pobl o orfod mynd i’r ysbyty yn sgil yr amrywiolyn Delta.

Rydym yn canolbwyntio ar gynnig ail ddos i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 dros y tair wythnos nesaf – sef pawb dros 50, pob gweithiwr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, a grwpiau eraill sy’n agored i niwed, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal.

Rydym yn dal i weithio i gynnig apwyntiadau cynharach i bobl dros 40 oed, yn amodol ar gyflenwad, fel na fydd raid iddynt aros mwy nag wyth wythnos rhwng eu dos cyntaf a’u hail ddos.

Ein nod yw cynnig y ddau ddos o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn mis Medi.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn parhau i ddilyn rhestr flaenoriaeth Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy’n cael ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac wedi cael cefnogaeth y pedwar Prif Swyddog Meddygol yn y DU.

Crynodeb cyfredol:

  • mae cyfanswm o fwy na 3.7 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru
  • mae cyfraddau uchel yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 wedi manteisio ar y dos cyntaf a’r ail ddos, gan ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed
  • mae dros 2.25 miliwn o bobl wedi cael y dos cyntaf a thros 1.6 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn y brechlyn
  • y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y clefyd
  • mae 83% o’r grŵp 40-49 oed wedi cael y dos cyntaf, 74% o’r grŵp 30-39 oed  wedi cael y dos cyntaf a 71% o’r grŵp 18-29 oed wedi cael y dos cyntaf
  • yn gyffredinol, mae 89% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a 64% o holl oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • oedolion 18 oed a hŷn sydd ar ôl heb eu brechu
  • unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • ail ddosau i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad ac ym mhob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 476 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 56 o ganolfannau brechu torfol
  • 295 o leoliadau practis cyffredinol
  • 43 o fferyllfeydd
  • 36 o leoliadau ysbyty
  • roedd 39 o dimau symudol yn gweithredu

Rhagor o wybodaeth

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud brechlynnau COVID-19 yn orfodol ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal yn Lloegr. Nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y gyfraith a gwneud brechlynnau’n orfodol yng Nghymru. Hyd yma, mae nifer y gweithwyr cartrefi gofal sydd wedi manteisio ar y brechlyn wedi bod yn uchel iawn, mae 92% wedi cael eu dos cyntaf ac mae 87% wedi cael eu hail ddos i gwblhau’r cwrs. Rydym yn gweithio gyda’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector cartrefi gofal i fonitro hyn yn agos iawn. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod gweithwyr cartrefi gofal yn cael yr holl gymorth a gwybodaeth angenrheidiol i ddod ymlaen i gael eu brechu, oni bai eu bod wedi’u heithrio ar sail feddygol. Rydym hefyd yn datblygu canllawiau ar gyfer gweithwyr ym mhob sector am y rhaglen frechu.

Er y caiff pobl ddewis a ydynt am dderbyn y cynnig o frechlyn neu beidio, rydym yn annog pob oedolyn cymwys i dderbyn y cynnig pan ddaw eu tro, ac ni fydd unrhyw un sydd eisiau manteisio ar y brechlyn yn cael ei adael ar ôl. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwybodaeth am y brechlyn i’w helpu i ddod i benderfyniad os oes ganddynt unrhyw bryderon. 

Mae sicrhau bod lefelau uchel iawn o bobl wedi cael dau ddos y brechlyn yng Nghymru yn rhoi mwy o opsiynau inni ar gyfer y dyfodol, o ran byw gyda llai o gyfyngiadau, yn enwedig os gallwn gadw achosion o’r coronafeirws yn isel yn y gymuned.  

Rydym yn gweithio’n galed i wrthbrofi mythau anghywir am y brechlynnau COVID-19. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen cwestiynau cyffredin am y brechlyn, diogelwch a ffrwythlondeb. 

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o frechu er mwyn diogelu Cymru, ac mae hyn yr un mor wir ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae cael ail ddos o’r brechlyn yn bwysig i sicrhau amddiffyniad hirdymor yn erbyn COVID-19 a hefyd yn erbyn yr amrywiolyn Delta.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol.  

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth.  

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.