Neidio i'r prif gynnwy

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Ymateb i'r coronafeirws (COVID-19)

Rydym yn parhau i addasu ein gweithrediadau arferol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ymateb y llywodraeth i bandemig y coronafeirws, a hefyd ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol lle mae ei hangen fwyaf. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r blog Digidol a Data i roi gwybodaeth am y ffordd rydym yn gweithredu.

Rydym yn parhau i gyhoeddi ystod estynedig o setiau data a datganiadau i roi gwybodaeth i'r cyhoedd yn ystod y pandemig. Rydym yn parhau i adolygu amlder a chynnwys rhai o'r datganiadau ystadegol cysylltiedig â COVID-19. Mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau neu adborth ar y ffordd rydych yn defnyddio'r datganiadau, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer eu newid, drwy e-bostio KAS.COVID19@llyw.cymru.

Mae trosolwg o ddangosyddion COVID-19 ar gael ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol COVID-19 yng Nghymru, y bwriedir iddo roi cipolwg wythnosol ar ddetholiad o ddangosyddion ar fathau uniongyrchol ac ehangach o niwed yn sgil COVID-19. Ers y diweddariad chwarterol diwethaf, mae data ar gartrefi gofal a brechiadau atgyfnerthu wedi cael eu hychwanegu at y dangosfwrdd. Yn ôl yr arfer, mae rhagor o fanylion am y dangosyddion hyn a detholiad ehangach o ddata i'w gweld ar ein tudalen Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19).

Hefyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi darlun cynhwysfawr o achosion, marwolaethau a brechiadau COVID-19 newydd (sydd bellach yn cynnwys Pobl sydd wedi cael trydydd dos, neu ddos atgyfnerthu, o frechlyn COVID-19) a gofnodwyd yng Nghymru, sydd bellach yn cynnwys cadw gwyliadwriaeth ar amrywiolynnau. Cyhoeddir y rhain ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Yr economi a'r farchnad lafur

Rydym wedi parhau i gyhoeddi ein datganiad misol trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd er mwyn rhoi'r darlun diweddaraf o'r effaith y mae COVID-19 yn parhau i'w chael ar y farchnad lafur. Rydym hefyd wedi cyhoeddi'r data diweddaraf ar y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws a’r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig. Mae ein dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau wedi cael ei ddiweddaru hefyd.

Cafodd amcangyfrifon ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) ar gyfer gwledydd y DU, rhanbarthau, ac ardaloedd lleol yng Nghymru eu cyhoeddi ym mis Hydref. Roeddent yn cynnwys data hyd at y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021 ac mae'n dilyn data ar y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 a gyhoeddwyd ym mis Medi a oedd yn cynnwys ailbwysoli'r data o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 ymlaen.

Hefyd, ym mis Hydref gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon o'r enillion cyfartalog o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer 2021 a diweddaru ein datganiad dangosyddion allbynnau tymor-byr ar gyfer ail chwarter 2021. Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyhoeddi'r data diweddaraf ar gyfer 2020 o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth yn ogystal â data demograffeg busnes ar gyfer 2020.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi blog gan y Prif Ystadegydd ar ein cynlluniau ar gyfer ystadegau economaidd ac ystadegau'r farchnad lafur ac rydym wir am glywed eich barn (gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ddiwedd yr adran hon). Fel rhan o'r blog hwn, gwnaethom esbonio ein cynlluniau ar gyfer dadansoddiad newydd o'r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 a gaiff ei gyhoeddi ar 16 Rhagfyr.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru.

Addysg

Ysgolion

Rydym yn parhau i gyhoeddi data wythnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr hydref.

Fel y nodwyd yn y diweddariad chwarterol diwethaf, cafodd ymarferion casglu data eu gohirio neu eu hatal yn ystod blwyddyn ysgol 2020-21 oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, dylai amserlen fwy arferol o waith casglu a chyhoeddi data ar gyfer ystadegau ysgolion ddychwelyd yn ystod blwyddyn ysgol 2021-22, gan ddechrau â'r canlynol:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg drawsbynciol ac ôl-16

Ym mis Medi, cyhoeddwyd ein datganiad ystadegol blynyddol ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, a'r bwletin ystadegol cysylltiedig ar bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Caiff y rhain eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf fel arfer, ond cawsant eu gohirio am fod yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael ei ailbwysoli. Cyhoeddwyd diweddariad chwarterol arall ar ein hystadegau NEET ar 21 Hydref 2021.

Ers i'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ddod i ben, rydym wedi rhoi'r gorau i gyhoeddi gwybodaeth reoli reolaidd am brentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws. Cyhoeddwyd y datganiad olaf ar 5 Hydref 2021.

Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyhoeddi data dros dro ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn academaidd 2020/21 ar raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd sy'n cynnwys diweddariad i'n dangosfwrdd rhyngweithiol.

Mae ystadegau ar y sector gwaith ieuenctid a gynhelir ar gyfer 2020/21, y bwriadwyd eu cyhoeddi ym mis Hydref, wedi cael eu gohirio oherwydd oedi wrth gasglu'r data gan rai awdurdodau lleol. Caiff yr ystadegau eu cyhoeddi ar 21 Rhagfyr 2021.

Er mwyn rhoi adborth neu gael unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Y chwarter hwn, rydym wedi parhau i gyhoeddi Achosion positif o'r coronafeirws a gafodd eu hadrodd i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn wythnosol. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein datganiad ystadegol blynyddol ar Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach) a Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) a ddyfarnwyd yng Nghymru.

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i'r blwch post ar gyfer Ystadegau ar Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Tai

Mae gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan yn parhau i gael ei chyhoeddi'n rheolaidd, ynghyd â data chwarterol ar gynllun Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir).

Mae'r penderfyniad yn ystod pandemig COVID-19 i ganslo llawer o'r ymarferion casglu data ar dai ar gyfer 2019-20, a gohirio sawl un arall, wedi effeithio ar y broses o gyhoeddi ystadegau tai. Fodd bynnag, ers mis Medi, mae nifer o'n cyhoeddiadau mwy rheolaidd wedi cael eu cyhoeddi, gan gynnwys:

Disgwylir i ddatganiadau ystadegol ar Adeiladu Tai Newydd (rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2021), Digartrefedd (2020-21) a darparu Tai Fforddiadwy (2020-21) gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi data misol ar Fynegai Prisiau Tai ar gyfer Cymru, a chyhoeddwyd (Cofrestrfa Tir EM) y diweddaraf o'r rhain (ar gyfer mis Medi 2021) ar 17 Tachwedd ochr yn ochr â data ar gyfer gweddill y DU (ONS)

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi rhywfaint o waith dadansoddi ar-lein mewn perthynas ag anheddau y codir y dreth gyngor arnynt yr ystyrir eu bod yn ail gartrefi, fesul awdurdod lleol ac ardal gynnyrch ehangach haen ganol (ONS).

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i gyhoeddi data ar Dreth Trafodiadau Tir yn rheolaidd. 

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai

Rhoddodd diweddariad mis Medi amlinelliad o'r rhaglen waith tymor hwy ar gyfer y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai (yn dibynnu ar ddarparu'r cyllid yn y gyllideb).Dros y misoedd diwethaf, mae tîm y rhaglen wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor dadansoddol ar bynciau â blaenoriaeth uchel, gan gynnwys:

  • Diogelwch Adeiladau
  • Effeithlonrwydd ynni cartrefi mewn perthynas â'r agenda newid hinsawdd, a chynllunio ar gyfer dyfodol rhaglen Cartrefi Clyd.
  • Tlodi Tanwydd – adnewyddu'r strategaeth
  • Gwaith i ddiweddaru Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i wneud y canlynol:

  • Mapio a dadansoddi'r bylchau yn y data/gwybodaeth reoli sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â thai/cynllunio ac ati Asesu ansawdd ac ychwanegu at ADSD
  • Diweddaru'r data sy'n bodoli eisoes, nodi ffynonellau data pellach a sicrhau bod modd cael gafael arnynt. Yn ddiweddar, cytunwyd ar drefniadau i gael gafael ar ddata ar y dreth gyngor gan awdurdodau lleol yng Nghymru a ddaw i law SYG
  • Gweithio gyda SYG i ddefnyddio data gweinyddol ar effeithlonrwydd ynni, fel rhan o'r Rhaglen Data Integredig.
  • Cyfrannu at grwpiau trawslywodraethol ar gyflwr tai, data gweinyddol, a thlodi tanwydd.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) erthygl ar Effeithlonrwydd Ynni Tai yng Nghymru a Lloegr (ONS) ar 10 Tachwedd, gan ddadansoddi data ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni, allyriadau carbon deuocsid (CO2), amcangyfrifon o gostau ynni a'r prif fath o danwydd ar gyfer cartrefi newydd a chartrefi sy'n bodoli eisoes, fesul math o eiddo, deiliadaeth eiddo ac oedran eiddo. Roedd yr erthygl yn cynnwys ffigurau ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr.

Cysylltwch â ni drwy'r blwch post os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ceisiadau neu fewnbwn mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Iechyd

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar y wefan Ystadegau ac ymchwil.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Gweithgarwch y GIG

Parheir i gyhoeddi data misol ar berfformiad a gweithgarwch y GIG, sy'n parhau i ddangos effaith y coronafeirws ar amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal wedi'i drefnu'r GIG. Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at y galw cynyddol am wasanaethau ambiwlans a'r ffaith na yw perfformiad yn cyrraedd targedau.

Mae cyhoeddiadau blynyddol manylach wedi'u hatal am y tro. 

Iechyd sylfaenol a chymunedol y GIG

Cyhoeddwyd datganiadau chwarterol StatsCymru ar gyfer data bwydo ar y fron a data Rhaglen Plant Iach Cymru ar 30 Tachwedd.

Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol blynyddol ar ystadegau Dechrau'n Deg ar 24 Tachwedd.

Ymhlith y datganiadau ystadegol eraill yn ystod y chwarter hwn roedd presgripsiynau, fferyllfeydd cymunedol, gweithlu meddygon teulu, gweithgarwch deintyddol y GIG ac iechyd y gweithlu ac iechyd synhwyraidd.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol blynyddol ar blant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 4 Tachwedd 2021.

Mae grwpiau yn parhau i adolygu'r Cyfrifiadau Plant a datblygu Cyfrifiad Oedolion sy'n Derbyn Gofal a Chymorth i Gymru.

Ymchwil Data Gweinyddol

Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o gyllid ar gyfer Ymchwil Data Gweinyddol Cymru tan 2026 fel rhan o'r buddsoddiad gwerth £90m yn Ymchwil Data Gweinyddol y DU.

Yn ystod y chwarter diwethaf, mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wedi cyhoeddi dau allbwn ad hoc ar gyfraddau brechu ymhlith athrawon yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddata'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion, sy'n gysylltiedig â data ar frechu ym Manc Data SAIL.

Mae ein dau brosiect cysylltu data blaenllaw, sef Prosiect Cysylltu Data Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a phrosiect Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol yn parhau i wneud cynnydd da ac rydym wedi bod yn gweithio ar geisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau cysylltu data eraill ar raddfa fawr.

Yn ddiweddar, mae tîm caffael data ADRU wedi datblygu adnodd tracio byw ar gyfer holl lifoedd data Llywodraeth Cymru i mewn i Fanc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).  Rydym hefyd yn gweithio i wella cyfraddau paru data ac ansawdd metadata.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ADRUWales@llyw.cymru neu UnedGwyddorData@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Adrodd

Cyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf o arolwg 2021-22 ar 11 Hydref 2021 gan gwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021. Caiff y canlyniadau ar gyfer y flwyddyn gyfan (rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022) eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.

Ers mis Gorffennaf 2021, rydym wedi bod yn treialu arolwg ar-lein sy'n cynnwys is-sampl a ddewiswyd ar hap o 2,000 o ymatebwyr y byddwn yn gofyn iddynt gwblhau arolwg ar-lein 15 munud o hyd ar ôl iddynt gwblhau'r arolwg dros y ffôn gyda chyfwelydd. Mae'r arolwg ar-lein yn cynnwys rhai cwestiynau o'r arolwg wyneb yn wyneb na chawsant eu cynnwys yn yr arolwg dros y ffôn. Mae hyn yn cynnwys pynciau mwy sensitif na fydd ymatebwyr yn barod i'w hateb gyda chyfwelydd o bosibl.

Ymchwil

Gan edrych ymlaen at ddylunio arolygon y dyfodol, rydym wedi comisiynu tri chontract ar raddfa fach:

  • cynnal adolygiad a phrofion gwybyddol ar y broses o recriwtio ymatebwyr i'r arolwg dros y ffôn a'r elfen ar-lein
  • adolygu/profi cwestiynau ar gyfer 2022-23
  • adolygu opsiynau ar gyfer dylunio'r arolwg o 2023-24 ymlaen

Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio. Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ynglŷn â MALlC 2019. Os hoffech drefnu sesiwn o'r fath ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu'ch rhwydwaith, cysylltwch â ni i drafod hyn. Cynhaliwyd ein sesiwn gyntaf ar 4 Tachwedd a byddwn yn cynnal un arall ar 8 Rhagfyr 2021.

Cydraddoldeb

Gwnaethom ddiweddaru data a gyhoeddwyd o gasgliad ar-lein Cyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys y data hyd at fis Gorffennaf 2021 yng nghyhoeddiad 20 Hydref.

Cafodd ein hamcangyfrifon chwarterol o boblogaeth awdurdodau lleol yn ôl ethnigrwydd (StatsCymru) a hunaniaeth genedlaethol (StatsCymru) eu diweddaru ar 17 Tachwedd 2021. Ar ôl i'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth gael ei ailbwysoli ar gyfer data o 2020 ymlaen, mae'r data bellach yn cael eu darparu hyd at y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Mehefin 2021 gyda diwygiadau wedi'u hailbwysoli ar gyfer 2020.  

Diogelwch Cymunedol

Mae'r hydref wedi bod yn gyfnod pwysig o ran diweddariadau data mewn perthynas â thân ac achub, gyda chyhoeddiadau newydd ar gyfer:

Masnach

Arolwg Masnach Cymru

Mae trydydd Arolwg Masnach Cymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, a daw i ben ar 14 Rhagfyr 2021. Cyhoeddir y canlyniadau ym mis Mai 2022.

Mae'r tîm o Ddadansoddwyr Masnach yn parhau i ystyried dulliau o ymgorffori ffynonellau data amgen ochr yn ochr â chanfyddiadau'r arolwg er mwyn gwella'r amcangyfrifon sy'n deillio o'r arolwg hwn, ac maent hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gynnal dadansoddiadau sectoraidd manylach.

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru: dangosfwrdd newydd

Bu'r tîm o Ddadansoddwyr Masnach yn lletya myfyriwr Lleoliad Meistr o bell sydd wedi datblygu dangosfwrdd newydd yn seiliedig ar ddata Masnach Ranbarthol mewn Nwyddau CThEM. Caiff ei gyhoeddi ar dudalennau Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Trafnidiaeth

Gwnaethom gyhoeddi bwletin ystadegol ar gludo nwyddau ar ffyrdd yn ystod 2020 sy'n tynnu sylw at effaith y coronafeirws ar weithgareddau cerbydau cludo nwyddau ar y ffyrdd.

Cyhoeddwyd ein bwletin Cludiant Môr ar 24 Tachwedd 2021, sy'n ymdrin â data ar gludo llwythi ar y môr a theithwyr ar y môr yn 2020. Mae'n ystyried effaith cyfyngiadau COVID-19 ar gludiant môr.

I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch ag ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Y Gymraeg

Arolwg Defnydd Iaith

Ar 14 Medi, cyhoeddwyd canfyddiadau cychwynnol o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 (ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Mawrth 2020). Daeth yr arolwg i ben yn gynharach na'r bwriad oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r dadansoddiad yn adrodd ar ba mor aml y mae siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith, pa mor dda a ble y maent wedi'i dysgu. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer y dangosydd cenedlaethol ar y defnydd o'r Gymraeg.

Rydym bellach yn gweithio ar ddadansoddi gweddill yr arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, fesul thema, gan gyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle y bo'n berthnasol. Rydym wedi nodi'r pedwar maes pwnc bras canlynol, a byddwn yn anelu at eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf:

  • defnyddio'r Gymraeg gartref ac mewn addysg
  • defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
  • defnyddio'r Gymraeg yn y gymuned
  • Defnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Ar 5 Hydref, cyhoeddwyd canlyniadau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth am y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021.

Yn ôl yr arolwg, roedd 29.2 y cant o'r bobl 3 oed a throsodd yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (mae'r ffigur hwn yn cyfateb i tua 884,300 o bobl) yn y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Mehefin 2021.

Caiff y diweddariad nesaf, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 30 Medi 2021, ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2022.

Mae'n bwysig pwysleisio, wrth gwrs, mai'r cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut y byddwn yn mesur cynnydd tuag at wireddu'r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 o ddiwedd gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Proffiliau ystadegol y Gymraeg ar gyfer awdurdodau lleol

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu adnodd sy'n dwyn data ynghyd ar y Gymraeg ar lefel awdurdod lleol ac ar lefel Cymru.

Mae'r proffiliau'n cynnwys y data canlynol:

  • demograffeg yr ardal
  • y cyfrifiad (gan gynnwys trosglwyddo'r Gymraeg)
  • Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
  • Arolwg Defnydd Iaith
  • Y blynyddoedd cynnar
  • Addysg

Nodwyd bod angen data i ategu'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, felly mae fersiwn ychwanegol o'r adnodd i gynnwys y data hynny'n benodol hefyd wedi cael ei datblygu ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae'r proffiliau ar ffurf drafft ar hyn o bryd, ac maent wedi cael eu rhannu â grŵp bach o ddefnyddwyr awdurdodau lleol, fel y gallwn gael rhywfaint o adborth ar yr adnodd.

Os hoffech weld drafft cynnar o'r proffiliau, cysylltwch â DataIaithGymraeg@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Mae'r Arolwg Blynyddol o Dir Amaethyddol a Da Byw wedi'i gwblhau a chafodd canlyniadau ar lefel Cymru eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2021.

Hefyd, cafodd ystadegau blynyddol ar gasglu ac ailgylchu gwastraff trefol eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae'r adroddiad blynyddol yn seiliedig ar ddata terfynol wedi'u dilysu (yn hytrach na'r diweddariadau chwarterol dros dro). Mae data ar lefel awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru.

Trawsbynciol

Ar 30 Medi 2021, gwnaethom gyhoeddi adroddiad blynyddol Llesiant Cymru: 2021 sy'n ein helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni'r saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Hefyd, rydym wedi bod yn cynnal ymgynghoriad o'r enw ‘Llunio Dyfodol Cymru:  Defnyddio Dangosyddion a Cherrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl, er mwyn gofyn am farn a phrofiadau pobl mewn perthynas â'n cynigion ar gyfer pennu'r gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru a cheisio barn pobl ynghylch a oes angen diwygio'r dangosyddion cenedlaethol presennol yn dilyn profiadau pobl o bandemig COVID-19.

I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch â desg.ystadegau@llyw.cymru.

Poblogaeth a demograffeg

Cyhoeddir diweddariad demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n ymwneud â'r boblogaeth.

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau cyffredinol ynghylch ystadegau

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Ffôn: 03000 255050

Pwnc-benodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

Twitter

YstadegauCymru

Cylchlythyr electronig a gwasanaeth hysbysiadau Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost GweinydduGGD@llyw.cymru