Neidio i'r prif gynnwy

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.

Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.

Ymateb i'r coronafeirws (COVID-19)

Yn ystod mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd y cynllun Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 – Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig. Mae'r cynllun hwn yn esbonio bod y cysylltiad rhwng dal yr haint COVID-19, salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaeth wedi'i wanhau'n sylweddol. Golyga hyn y gallwn ddechrau symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig a chynllunio ar gyfer dyfodol pan fyddwn yn pontio'n raddol i fyw'n ddiogel gyda’r coronafeirws.

Yn unol â'r cynllun hwn, rydym wedi adolygu ein hallbynnau COVID-19 ac rydym wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi llawer ohonynt, neu wedi lleihau eu hamlder, gan gadw hefyd yr allbynnau allweddol a sicrhau bod data yn parhau ar gael ar amlder priodol drwy StatsCymru. Rydym wedi darparu rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn mewn blog a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r blog Digidol a Data i roi gwybodaeth am y ffordd rydym yn gweithredu. Mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau neu adborth ar y ffordd rydych yn defnyddio'r datganiadau, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer eu newid, drwy e-bostio KAS.COVID19@llyw.cymru

Mae trosolwg o ddangosyddion COVID-19 ar gael ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol COVID-19 yng Nghymru, y bwriedir iddo roi cipolwg wythnosol ar ddetholiad o ddangosyddion ar fathau uniongyrchol ac ehangach o niwed yn sgil COVID-19. Mae rhagor o fanylion am y dangosyddion hyn a detholiad ehangach o ddata i'w gweld ar ein tudalen Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi darlun cynhwysfawr wythnosol o’r system brofi newydd ar gyfer COVID-19, ac achosion, marwolaethau a brechiadau a gofnodwyd yng Nghymru. Cyhoeddir y rhain ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Yr economi a'r farchnad lafur

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd er mwyn rhoi'r darlun diweddaraf o'r effaith y mae COVID-19 yn parhau i'w chael ar y farchnad lafur. Mae ein dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau wedi cael ei ddiweddaru hefyd.

Cafodd amcangyfrifon ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) ar gyfer gwledydd y DU, rhanbarthau, ac ardaloedd lleol yng Nghymru eu cyhoeddi ym mis Mawrth a oedd yn cynnwys data ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2021. Ochr yn ochr â hyn, diweddarwyd y tablau data ar batrymau cymudo ar StatsCymru sy'n rhoi dadansoddiad o wahanol batrymau cymudo yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru.

Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd ein datganiad Dadansoddiad o faint busnesau a oedd yn cwmpasu data ar gyfer 2021. Mae'r datganiad blynyddol hwn yn darparu data ar strwythur busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys amcangyfrifon ar gyfer y busnesau lleiaf oll sy'n gweithredu islaw'r trothwy Treth ar Werth (TAW).  

Ym mis Ebrill hefyd, diweddarwyd ein datganiad ar ddangosyddion allbynnau tymor byr ar gyfer chwarter olaf 2021 a diweddarwyd y data ar gynhyrchiant haearn a dur ar wefan StatsCymru.

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru

Addysg

Ysgolion

Rydym yn parhau i gyhoeddi data wythnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr hydref.

Rhyddhawyd data ar Gwnsela ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ar 30 Mawrth 2022.

Cynhaliwyd casgliadau data'r Cyfrifiad Ysgolion ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol ar 15 Chwefror 2022. Cyhoeddwyd canlyniadau dros dro y Cyfrifiad Ysgolion ar 31 Mai 2022.

Mae'r casgliadau data ar gyfer asesiadau dechreuol yn yr ysgol ac asesiadau athrawon ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 wedi ailddechrau eleni ar ôl iddynt gael eu hatal dros dro yn ystod y pandemig. Mae'r ddau gasgliad hwn yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd a chyhoeddir y canlyniadau ym mis Awst 2022. Mae datganiadau ystadegol blaenorol i'w gweld yn y gyfres ar Gyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

Addysg drawsbynciol ac addysg ôl-16

Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd ein datganiad ystadegol blynyddol ar lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio ynghyd â'r diweddariad chwarterol diweddaraf ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), gan gwmpasu’r flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2021.

Ailddechreuwyd cyhoeddi hefyd ein datganiad ystadegol ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16, sy’n rhan o'r gyfres o fesurau cyson ôl-16. Mae’n defnyddio data addysg cysylltiol, ynghyd â data o'r Astudiaeth Deilliannau Addysgol Hydredol, i edrych ar gyrchfannau cyflogaeth a dysgu dysgwyr a adawodd addysg ôl-16 ym mlynyddoedd academaidd 2017/18 a 2018/19. Mae'r datganiad diweddaraf hwn yn cwmpasu ymadawyr addysg ôl-16 o ddwy flwyddyn academaidd yn hytrach nag un. Rydym yn awr yn gobeithio dychwelyd i’r amserlen gyhoeddi arferol, a disgwylir i'r canlyniadau ar gyfer ymadawyr 2019/20 gael eu cyhoeddi ym mis Medi 2022.

Gyda hyn, byddwn yn cyhoeddi casgliad cynhwysfawr o ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr. Bydd yn cwmpasu cyfranogiad mewn addysg ôl-16 a deilliannau dysgwyr, a bydd yn cyfuno dadansoddiad newydd â'r hyn a gyhoeddwyd eisoes fel rhan o'n datganiadau ystadegol eraill.

Er mwyn rhoi adborth, neu am unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Addysg uwch a chyllid myfyrwyr

Cyn hir, byddwn yn cyhoeddi ein hystadegau Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.

Er mwyn rhoi adborth, neu am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â'n blwch post AU a Chyllid i Fyfyrwyr: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Tai

Mae gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan yn parhau i gael ei chyhoeddi'n rheolaidd, ynghyd â data chwarterol a blynyddol ar gynllun Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir).

Hefyd, cafodd nifer o allbynnau ystadegau tai rheolaidd eu cyhoeddi ym mis Mawrth – roedd y rhain yn cynnwys:

Tai a gafodd eu dymchwel: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (8 Mawrth 2022)

Peryglon mewn tai a thrwyddedau: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (8 Mawrth 2022)

Cymorth ar gyfer gwelliannau tai: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (16 Mawrth 2022)

Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (31 Mawrth 2022)

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi data misol ar Fynegai Prisiau Tai ar gyfer Cymru, a chyhoeddwyd (Cofrestrfa Tir EM) y diweddaraf o'r rhain (ar gyfer mis Mawrth 2022) ar 18 Mai ochr yn ochr â data ar gyfer gweddill y DU (ONS)

Mae data ar y Dreth Trafodiadau Tir yn dal i gael eu cyhoeddi’n rheolaidd gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.

Amodau Tai a Thlodi Tanwydd

Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Tîm Polisi Tlodi Tanwydd i ddarparu cymorth dadansoddol i fonitro'r cynllun ar gyfer trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035, gan gynnwys datblygu dangosfwrdd o'r holl ddata tlodi tanwydd perthnasol y gobeithiwn allu eu cyhoeddi yr haf hwn. Ym mis Ebrill, cyhoeddasom amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau) – fel ym mis Hydref 2021. Oherwydd gwahaniaethau o safbwynt y fethodoleg a ddefnyddiwyd, ni ellir cymharu’r amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer 2021 yn uniongyrchol â ffigurau blaenorol. Bydd dadansoddiad manwl yn cael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf a bydd adroddiad methodoleg manwl yn cyd-fynd ag ef.

Rydym yn parhau i weithio gyda Thîm Safon Ansawdd Tai Cymru i ddarparu cymorth dadansoddol ar gyfer datblygu'r Safon ôl-2020, gan gynnwys ymgynghori ar y Safon arfaethedig. Yn yr un modd, rydym yn gweithio gyda'r Tîm Modelau Arloesol a Datgarboneiddio Tai ar ddatblygu a chyflwyno rhaglen weithredu i ddatgarboneiddio holl gartrefi Cymru erbyn 2050.

Rydym yn parhau i weithio gydag adrannau eraill y llywodraeth, asiantaethau a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar rannu data perthnasol o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol, fel gwybodaeth am y Dreth Gyngor. Rydym yn parhau i ymchwilio i ffynonellau data eraill y gellid eu defnyddio o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol, fel data gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar y defnydd a wneir o ynni.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich awgrymiadau ar gyfer prosiectau dadansoddol sy'n ymwneud ag amodau tai, awgrymiadau ar gyfer ffynonellau i ymchwilio iddynt, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cael gafael ar ddata sydd gennym eisoes ar gyfer prosiectau ymchwil. Cysylltwch â ni drwy'r blwch post (ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru) os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ceisiadau neu fewnbwn mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rydym yn parhau i ddarparu diweddariadau misol ar weithgareddau'r GIG, ac yn eu gwella, gan gynnwys ein hallbynnau misol ar berfformiad a gweithgaredd y GIG mewn perthynas ag ambiwlansys, adrannau damweiniau ac achosion brys, atgyfeiriadau i apwyntiadau cyntaf fel cleifion allanol, profion diagnostig a therapïau, atgyfeiriadau i driniaeth a chanser. Yn y chwarter olaf, adolygwyd ein hallbynnau i ganolbwyntio ar yr hyn a ddefnyddir fwyaf ac ychwanegwyd data newydd ar alwadau 111 ledled Cymru.

Wrth i ddiddordeb yn yr ystadegau hyn dyfu’n barhaus, ac o ystyried effaith bellgyrhaeddol y pandemig, rydym hefyd wedi cyhoeddi blog sy’n ceisio darparu mwy o gyd-destun i’r cysyniadau allweddol, er mwyn hybu dealltwriaeth eang o’n hystadegau a defnydd priodol ohonynt.

Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd datganiad ystadegol cynhwysfawr ar y gweithlu practis cyffredinol. Roedd hyn yn cynnwys data ar ethnigrwydd, oed, rhywedd a gallu yn y Gymraeg ar gyfer yr holl staff mewn practisau cyffredinol, gan gynnwys nyrsys, staff sy’n darparu gofal uniongyrchol i gleifion, staff gweinyddol a meddygon teulu. Cafodd data ar staff cyfwerth ag amser llawn hefyd eu cyhoeddi am y tro cyntaf.

Mae diweddariadau wedi’u gwneud hefyd yn ystod y chwarter hwn i wahanol agweddau eraill ar ystadegau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys data ar; absenoldeb oherwydd salwch y GIG, staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, mesurau gofal llygaid, gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu'r GIG, cyllidebau rhaglenni gwariant y GIG ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol.    

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi ystadegau ar ddisgwyliad oes a ffigurau disgwyliad bywyd iach fesul cwintel amddifadedd (ONS) yng Nghymru ar gyfer 2018-20.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn yr adran Iechyd a gofal cymdeithasol o StatsCymru.

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Ymchwil Data Gweinyddol

Rydym wedi parhau i ddatblygu ein rhaglen ymchwil ar gyfer rhaglen ymchwil newydd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ar gyfer 2022-2026

Rydym hefyd wedi parhau i gefnogi cyflenwi microddata Llywodraeth Cymru i’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw er mwyn i'r setiau data hyn gael eu defnyddio'n ddiogel gan ymchwilwyr at ddiben prosiectau dadansoddi data er budd y cyhoedd.

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd diweddariad ar Niferoedd staff ysgol sydd wedi derbyn brechiad: Chwefror 2022 a oedd yn seiliedig ar ddadansoddiad data cysylltiol a gynhaliwyd yn y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS): adolygiad o’r llenyddiaeth i lywio ein prosiect cysylltu data EUSS (ADR UK).

Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ADRUWales@llyw.cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Adrodd

Ar 17 Mai, cyhoeddwyd canlyniadau ein treial ar-lein. Rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022, gofynnwyd i tua 2,000 o ymatebwyr yr arolwg i gwblhau adran ar-lein ychwanegol ar ôl iddynt orffen yr arolwg dros y ffôn.

Mae’r treial ar-lein yn cwmpasu pynciau megis: gwasanaethau a chyfleusterau lleol;   ymddygiadau amgylcheddol; atgyweirio ac ailgylchu; gwirfoddoli; llesiant meddyliol; cosbi plant yn gorfforol; gamblo; a dinasyddiaeth fyd-eang.

Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau yr arolwg dros y ffôn ar gyfer y flwyddyn gyfan 2021-22 ar 14 Gorffennaf. Bydd y rhain yn ymgorffori’r ymatebion ar gyfer y canlyniadau cynnar o fis Ebrill i Gorffennaf 2021 ac yn nodi ailddechrau adrodd ar y prif arolwg yn flynyddol.

Adolygu’r opsiynau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol 2023-24

Mae adolygiad o opsiynau ar gyfer contract nesaf yr Arolwg Cenedlaethol wedi’i gyhoeddi erbyn hyn.

Mae’r adroddiad yn crynhoi’r opsiynau ar gyfer ffurf yr Arolwg Cenedlaethol yn y dyfodol ac yn cymharu amrywiol ffyrdd posibl o fynd ati.

Contract Arolwg Cenedlaethol o 2023-24 ymlaen

Mae'r gwahoddiad i dendro ar gyfer y contract i gynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru o 2023-24 ymlaen bellach wedi'i hysbysebu.

Mae'r contract yn cwmpasu gwaith maes o fis Mawrth 2023 hyd at fis Mawrth 2028. Bydd y broses sefydlu yn dechrau yn yr hydref. Bydd gwaith maes yn parhau i gael ei wneud gyda thua 12,000 o bobl bob blwyddyn, dros y ffôn yn bennaf, gydag adran ar-lein ychwanegol i’r ymatebwyr ei chwblhau eu hunain yn ystod rhai blynyddoedd. Pan na ellir cysylltu ag ymatebwyr dros y ffôn, gall cyfwelwyr ymweld â chyfeiriadau ac, os yw'n bosibl, gynnal yr arolwg wyneb yn wyneb, yn y cartref (gydag adran i’r ymatebwyr ei chwblhau eu hunain ar y cyfrifiadur yn ystod rhai blynyddoedd). Mae hyn yn adeiladu ar y dull presennol o gynnal yr Arolwg Cenedlaethol, sydd wedi bod yn llwyddiannus.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â arolygon@llyw.cymru

Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb

Tlodi

Ar 31 Mawrth, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eu cyfres o Ystadegau Swyddogol sy'n gysylltiedig â thlodi. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog, yr Arolwg o Adnoddau Teulu (DWP), Dynameg Incwm (DWP) a Phlant mewn Teuluoedd Incwm Isel (DWP). Y data yn yr adroddiadau hyn yw'r ystadegau tlodi swyddogol cyntaf i ymwneud â'r cyfnod wedi dechrau’r pandemig COVID-19, ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21.

Ar yr un pryd, cyhoeddasom erthygl ystadegol ar Fesurau tlodi a chrynodeb o ystadegau tlodi parhaus ar gyfer Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, eleni mae'r Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystod fwy cyfyngedig o ddata ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog, gyda rhybuddion ychwanegol. Y rheswm am hyn yw bod COVID-19 wedi effeithio ar broses casglu data yn 2020-21 ac, ar gyfer llawer o ddadansoddiadau o'r prif amcangyfrifon (gan gynnwys amcangyfrifon gwledydd y DU), nid yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws. Mae ein herthygl ystadegol yn esbonio hyn yn fanylach ac yn cynghori yn erbyn defnyddio set ddata 2020-21 ar gyfer Cymru.

I gael gwybodaeth am yr ystod ehangach o ystadegau sydd i’w cael mewn perthynas â thlodi, ewch i’n tudalen ar gasglu ystadegau sy'n gysylltiedig â thlodi.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALIC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru i danysgrifio. Gallwn hefyd ddarparu sesiynau gwybodaeth ynglŷn â MALIC 2019. Os hoffech drefnu sesiwn o’r fath ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu’ch rhwydwaith cysylltwch â ni i drafod hyn.

Cydraddoldeb

Cyhoeddwyd ein cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer mis Ionawr 2022 ddydd Iau 12 Mai 2022, gan ddarparu gwybodaeth am nifer y carafannau a'r safleoedd yn ôl statws awdurdodi mewn awdurdodau lleol ledled Cymru.

Diweddarwyd hefyd ein hamcangyfrifon chwarterol ar gyfer y boblogaeth yn ôl grŵp ethnig a hunaniaeth genedlaethol Gymreig ar 14 Ebrill 2022. Mae'r data hyn, sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn awr yn cynnwys y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Rhagfyr 2021.

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref ac Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU i sicrhau bod data sy'n ymwneud â’r Cynllun Noddi ar gyfer Wcráin (Swyddfa Gartref ac Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU) ar gael i'r cyhoedd, gan gynnwys data ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol Cymreig. Ar hyn o bryd, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cyhoeddi tablau sy’n cynnwys nifer y ceisiadau am fisâu a gadarnhawyd, y fisâu a roddwyd a nifer y rhai sy’n cyrraedd y DU. Mae data ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol Cymreig ar gael yn y tablau hyn, ac mae ardaloedd daearyddol wedi'u pennu ar sail cyfeiriad y noddwr, neu gyfeiriad y llety os nad yw'r ymgeisydd yn bwriadu aros gyda'r noddwr. Hyd nes yr hysbysir fel arall, caiff y data hyn eu diweddaru a'u cyhoeddi am 9.30am bob bore dydd Iau.

E-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.

Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd

Rydym yn datblygu ein Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb sy'n disgrifio ein cwmpas, ein cylch gwaith a'n blaenoriaethau. Bwriedir ei chyhoeddi yn ystod haf 2022. Mae’r blaenoriaethau ymchwil ar gyfer pob Uned yn cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid ar sail ymrwymiadau a wnaed eisoes a’r gofynion sy'n deillio o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl.

Rydym wedi bod yn ystyried sut a phryd y gallwn ddefnyddio dulliau cydgynhyrchu drwy gydol y cylch tystiolaeth. Rydym wrthi'n ystyried sut y gallem oresgyn rhwystrau penodol wrth fabwysiadu'r ffordd hon o weithio.

Rydym hefyd yn gweithio ar y tasgau canlynol ar hyn o bryd:

  • Cynnal archwiliad o dystiolaeth a fydd o gymorth i feithrin dealltwriaeth o’r wybodaeth sydd ar gael, ynghyd â’r bylchau a'r anghysondebau y mae angen mynd i'r afael â hwy
  • Gweithio gyda Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu nodau, camau gweithredu a mesurau
  • Comisiynu gwaith i helpu i ddeall sut y gallwn gasglu tystiolaeth yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd
  • Datblygu arolwg o ddata cydraddoldeb ar draws cyrff y sector cyhoeddus
  • Gweithio'n agos gyda'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a thîm y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu gwaith.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: EqualityEvidenceUnit@llyw.cymru

Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd ein diweddariad ystadegau achosion tân ac achub chwe-misol ar 10 Mawrth 2022. Maent yn darparu data ar nifer y tanau, y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu a’r galwadau ffug rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021.

Masnach

Arolwg Masnach Cymru

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddadansoddi canfyddiadau trydydd Arolwg Masnach Cymru, blwyddyn gyfeirio 2020. Disgwyliwyd cyn hyn y byddai’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai 2022. Fodd bynnag, bu oedi yn y broses oherwydd bod angen cynnal gwiriadau ansawdd pellach ac i gyflwyno prosesau priodoli newydd i’r fethodoleg gan fod sawl blwyddyn o ddata wedi’u casglu erbyn hyn.

Cwblhawyd ymchwil ansoddol ddilynol ynghylch “Modd 5” Masnach mewn Gwasanaethau a Rheolau Tarddiad a chyhoeddir y canfyddiadau yn haf 2022.

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru

An analysis of the HMRC Regional Trade Statistics for Wales’ international goods trade in 2021 was published in April 2022: Welsh international goods trade: 2021

Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymreig: dangosfwrdd newydd

Ynghyd â chrynodeb 2021, mae dangosfwrdd rhyngweithiol hefyd wedi'i gyhoeddi i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr wrth chwilio drwy’r ystadegau masnach rhanbarthol a gynhyrchir gan CThEM: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol

Tablau Mewnbwn Allbwn

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ariannu rhaglen waith i wella ystadegau economaidd Cymru, gan gynnwys datblygu Tablau Mewnbwn Allbwn i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Fel rhan o'r gwaith hwn, hoffem ddeall faint o angen sydd ymhlith defnyddwyr allanol ehangach am dablau o'r fath – byddwn yn cysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid yn ddiweddarach eleni.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Trafnidiaeth

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd bwletin ystadegol a dangosfwrdd rhagweithiol ar Ddefnydd gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru sy'n cynnwys adroddiadau ar y defnydd o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn 2020-21. Cyhoeddwyd hefyd fwletin ystadegol blynyddol ar Drafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymru ar gyfer 2020-21 sy’n cynnwys gwybodaeth am fynediad at orsafoedd, digwyddiadau yn ymwneud â threnau, marwolaethau ar y rheilffordd a throsedd. Mae’r ddau gyhoeddiad hwn yn ystyried effaith cyfyngiadau COVID-19 ar drafnidiaeth rheilffyrdd a’r defnydd o orsafoedd rheilffordd yn ystod 2020-21.

Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddwyd yr adroddiad cerbydau gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021 sy’n cynnwys data ar wasanaethau bysiau, tocynnau a theithiau yn ogystal â thacsis a cherbydau hurio preifat. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ystyried yr effaith a gafodd y cyfyngiadau COVID-19 ar gerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn 2020-21.

Cafodd ein dangosfwrdd damweiniau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu sy’n cynnwys data o fis Gorffennaf i fis Medi 2021 ei gyhoeddi ar 18 Mai 2022. Mae'r dangosfwrdd hwn yn darparu darlun rhyngweithiol o'r wybodaeth am ddamweiniau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu.

I roi adborth ac i wneud sylwadau, cysylltwch â ysatedgau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Y Gymraeg

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Ar 31 Mawrth, cyhoeddwyd canlyniadau'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2021.

Yn ôl yr arolwg, roedd 29.5% o'r bobl 3 oed a throsodd yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (mae'r ffigur hwn yn cyfateb i tua 892,200 o bobl) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2021.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu ailbwysoli setiau data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ymhellach, gan gynnwys data o’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Bydd manylion pellach ynghylch eu cynlluniau yn cael eu darparu wedi iddynt benderfynu’n derfynol ar yr amserlen.

Y cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut y byddwn yn mesur cynnydd tuag at wireddu'r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dechrau cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 o ddechrau’r haf eleni.

Anfonwch e-bost i DataIaithGymraeg@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Amaethyddiaeth a'r amgylchedd

Cyhoeddwyd datganiad ar Allbwn ac Incwm Cyfun Amaethyddol Blynyddol. Cyhoeddwyd hefyd yr ystadegau chwarterol ar reoli gwastraff trefol diweddaraf ar gyfer y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2021. Cyhoeddodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU (DEFRA) hefyd ffigurau ar wastraff cartrefi ar gyfer 4 gwlad y DU. Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod Cymru yn ailgylchu llawer mwy o'i gwastraff cartref na gwledydd eraill y DU.

Poblogaeth a demograffeg

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyhoeddir diweddariad demograffeg chwarterol ar wahân sy'n cynnwys popeth sy'n ymwneud â'r boblogaeth.

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau Llywodraeth Cymru

Ymholiadau cyffredinol ynghylch ystadegau

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru

Ffôn: 03000 255050

Pwnc-benodol

Cysylltiadau ar gyfer ystadegau

Twitter

YstadegauCymru

Cylchlythyr electronig a gwasanaeth hysbysiadau Llywodraeth Cymru

Newyddion a hysbysiadau

Ymholiadau gweinyddol

E-bost GweinydduGGD@llyw.cymru