Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 19 Mai 2022.
Cynnwys
Cyflwyniad
Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu COVID-19 ar 11 Ionawr 2021 ac, ynghyd â’r diweddariadau isod, mae’n amlinellu manylion y Rhaglen Frechu yng Nghymru.
Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?
Brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn
Ar 21 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddatganiad, yn argymell y dylid cynnig dos atgyfnerthu ychwanegol y gwanwyn i bobl 75 oed a hŷn, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal a phobl imiwnoataliedig dros 12 oed.
Yn unol â’r cyngor yn y Llyfr Gwyrdd, bydd rhaglen frechu’r gwanwyn yn dod i ben ar gyfer pawb ar 30 Mehefin 2022. Bydd hyn yn sicrhau bod bwlch digonol rhwng dosau ar gyfer y rheini sy’n cael pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn, os yw’r Cyd-bwyllgor wedi nodi eu bod yn gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu’r hydref.
Er mwyn sicrhau bod digon o amser i bobl ddod i apwyntiadau brechu, bydd y rheini sy’n cael eu pen-blwydd yn 75 oed ar 30 Mehefin 2022 neu cyn hynny yn gymwys i gael eu brechlyn ar unrhyw adeg yn ystod ymgyrch y gwanwyn. Rhaid bod o leiaf 3 mis wedi pasio ers iddynt gael unrhyw ddos cynharach, ac ni ddylent fod wedi cael dos atgyfnerthu eisoes yn ystod rhaglen y gwanwyn. Golyga hyn y bydd rhai pobl yn 74 oed ar y diwrnod brechu, ond yn gymwys oherwydd eu bod yn cael eu pen-blwydd yn 75 oed cyn y dyddiad terfyn.
Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â’r dull a ddefnyddiwyd mewn rhaglenni eraill, er enghraifft ein rhaglen ffliw tymhorol, a’r dull yng ngwledydd eraill y DU (yr Alban a Lloegr) ar gyfer rhaglen frechu COVID-19 y gwanwyn.
Pan fydd yn amser ichi gael eich brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn, bydd eich bwrdd iechyd lleol yn cysylltu â chi. Peidiwch â chysylltu â nhw oni bai bod angen ichi newid eich apwyntiad.
Y cynnig o frechlyn ar gyfer plant 5-11 oed
Ar 16 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ddatganiad yn cyhoeddi y bydd y rhaglen frechu COVID-19 yn cael ei hymestyn i bob plentyn 5-11 oed.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd plant yn cael apwyntiad oddi wrth eu bwrdd iechyd lleol a bydd manylion ar gael ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ar wefan a thrwy gyfryngau cymdeithasol eich Bwrdd Iechyd Lleol. Mae dolenni i wefannau brechu pob bwrdd iechyd lleol ar gael yma, er mwyn ichi chwilio am wybodaeth leol: https://llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19
Nid oes angen cysylltu â’ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiadau i gael y brechlyn oherwydd drwy ganolfannau brechu yn bennaf y rhoddir y brechlyn, a bydd angen i riant neu warcheidwad fod yn bresennol gyda phob plentyn. Nid yw cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn blaenoriaethu o ran oedran. O ganlyniad, mae’n haws i frodyr a chwiorydd cymwys gael eu brechu ar yr un pryd.
Caiff plant, pobl ifanc a’u rheini a gofalwyr eu hannog hefyd i ystyried rhaglenni imiwneiddio eraill i blant, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, i wneud yn siŵr bod plant wedi’u brechu’n llawn i’w diogelu rhag clefydau eraill a all fod yn ddifrifol, fel y frech goch a llid yr ymennydd.
Rhaglen atgyfnerthu’r hydref
Ar 19 Mai 2022, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gyngor dros dro, sy’n awgrymu eu bod yn debygol o argymell brechlyn atgyfnerthu’r hydref ar gyfer yr unigolion sydd fwyaf agored i niwed.
Bydd y Cyd-bwyllgor yn parhau i adolygu tystiolaeth ac ystyried grwpiau eraill o bobl i’w brechu. Rydym yn disgwyl y daw’r cyngor terfynol ar raglen yr hydref gan y Cyd-bwyllgor yn y man. Mae ein GIG yng Nghymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer rhaglen bosibl yn yr hydref a bydd yn barod i’w darparu er mwyn parhau i ddiogelu’r unigolion mwyaf agored i niwed.
Gadael neb ar ôl
Gall unrhyw un sydd eisiau derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos wneud hynny o hyd. Os na lwyddoch i fynd i’ch apwyntiad gwreiddiol, gallwch fynd nawr. Mae sesiynau galw heibio ar gael ledled Cymru ar gyfer pigiadau atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos. Mae manylion y byrddau iechyd ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19
Mae’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad da, ac mae werth ei gael hyd yn oed os ydych wedi cael COVID. Y rheswm am hyn yw oherwydd gall y lefel o amddiffyniad sydd gan bobl ar ôl cael y feirws amrywio, yn dibynnu ar ba mor ysgafn neu ddifrifol oedd eu salwch, faint o amser sydd ers iddynt gael yr haint, a’u hoedran. Ond gwyddom fod y brechlyn, yn arbennig y brechlyn atgyfnerthu, yn cynnig amddiffyniad da.
Gall timau brechu ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych am y brechlyn, a’ch cefnogi wrth gael eich brechu. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros, ac mae nyrsys arbenigol ar gael yn llawer o’r canolfannau hyn i helpu’r rheini sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol.
Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?
Mae canllaw ar gyfer pwy sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn, gan gynnwys faint o amser i aros rhwng y dosau, wedi cael ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:
- Mae cyfanswm o fwy na 7.22 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
- Mae mwy na 2.55 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.41 miliwn o bobl wedi cael o leiaf 2 ddos
- Mae mwy na 2.2 miliwn o bobl wedi cael y brechiad atgyfnerthu
- Mae mwy na 224,000 o frechlynnau atgyfnerthu’r gwanwyn wedi’u rhoi
Rhagor o wybodaeth
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.
Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19
Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth.
Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.