Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r rhestr o gwestiynau cyffredin sy'n ymwneud â chau Pont Menai i draffig wedi'i diweddaru.

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r diweddariad yn cynnwys gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i helpu modurwyr i leihau eu hamser teithio a gwybodaeth am y mesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i wella llif traffig.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos (Dydd Gwener 18 Tachwedd) bydd gorchymyn traffig dros dro yn cael ei roi ar waith ar gyfer cyfnod o 12 mis. Mae'r gorchymyn dros dro hwn yn caniatáu i waith gael ei wneud ar y bont yn ystod y cyfnod hwn ac nid yw'n golygu y bydd y ffordd dros yr A5 Pont Menai ar gau yn ystod y cyfnod hwn. Tra bod y gorchymyn hwn yn ei le bydd cerddwyr a beicwyr sy'n dod oddi ar eu beic yn dal i allu croesi'r bont ar hyd y droedffordd.

Bydd Traffig Cymru yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar Twitter ac ar eu gwefan: Gwaith cynnal a chadw pwysig A5 Pont Borth

Mae’r Cwestiynau Cyffredin yn cael eu diweddaru yma: A5 Pont y Borth: cwestiynau cyffredin