Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr reoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr: WGC 004/2022    

Dyddiad cyhoeddi: 28/07/2022

Statws: Er gwybodaeth

Teitl:

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022. Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022

Cyhoeddwyd gan: Colin Blick, Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu

Cyfeiriwyd at:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (Anfonwch ymlaen at: Swyddogion Rheoli Adeiladu Awdurdodau)

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Anfonwch ymlaen at: Lleol Aelodau’r Senedd)

Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

CICAIR Limited

Crynodeb

Mae hwn yn gylchlythyr yn hysbysu am ddileu gofynion adran 47 o Ddeddf Adeiladu 1984 sy’n ymwneud â chynllun yswiriant cymeradwy ar gyfer Arolygwyr Cymeradwy.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Llinell Uniongyrchol:    0300 060 4440
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:    https://llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Cyflwyniad

Mae Gweinidogion Cymru wedi fy nghyfarwyddo i dynnu eich sylw at Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022 a Rheoliadau Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022 (gyda’i gilydd “y rheoliadau”) sy’n dod i rym ar 28 Gorffennaf 2022.

Diben y cylchlythyr hwn yw:

  • tynnu sylw at y diwygiadau ac esbonio’r newidiadau y maent yn eu gwneud i Ddeddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215)

Cwmpas

Nid yw’r rheoliadau ond yn berthnasol i ofynion yswiriant ar gyfer Arolygwyr Cymeradwy sy’n gweithio yng Nghymru.

Diwygiadau i’r Rheoliadau

Rheoliadau Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Cychwyn”)

Mae Gweinidogion Cymru’n gwneud y Rheoliadau Cychwyn o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“y Ddeddf”). Maent yn dwyn i rym adran 48 o’r Ddeddf o ran Cymru.

Mae adran 48 o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i adran 47 (rhoi a derbyn rhybudd cychwynnol), adran 51A(2) (amrywio gwaith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef) ac adran 56 (cofnodi a darparu gwybodaeth) o Ddeddf Adeiladu 1984. Effaith y diwygiadau hyn yw dileu pŵer Gweinidogion Cymru i gymeradwyo cynlluniau yswiriant a dileu’r gofynion yswiriant cysylltiedig ar gyfer Arolygwyr Cymeradwy.

Rheoliadau Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Diwygio”)

Mae’r Rheoliadau Diwygio yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215) er mwyn dileu’r rhannau sy’n nodi gofyniad, neu’n cyfeirio at yr angen i Arolygwyr Cymeradwy fod ag yswiriant o dan gynllun yswiriant cymeradwy. Diben hyn yw y gall Arolygwyr Cymeradwy gael gafael ar yswiriant ar y farchnad agored sy’n adlewyrchu’r risg a’r math o waith y maent yn ei wneud.

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau Diwygio o ganlyniad i adran 48 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.

Nid yw’r diwygiadau uchod yn dileu’r angen i gydymffurfio â gofynion yswiriant a osodir wrth gofrestru â Chofrestr Arolygwyr Cymeradwy Cyngor y Diwydiant Adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Ffôn: 0300 060 4440.

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru