Mae ein strategaeth a'n cynllun cyflawni yn disgrifio'r hyn y byddwn yn ei wneud i wella bywydau gan ddefnyddio dulliau digidol, data a thechnoleg.
Mae Strategaeth Ddigidol Cymru yn disgrifio sut y byddwn yn defnyddio dulliau digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Mae ar gyfer unrhyw un sy'n creu, dylunio, darparu neu ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol.
Mae'r strategaeth yn nodi cyfres o flaenoriaethau o dan 6 cenhadaeth:
- gwasanaethau digidol
- cynhwysiant digidol
- sgiliau digidol
- yr economi ddigidol
- cysylltedd digidol
- data a chydweithredu
Mae'r cenadaethau’n cefnogi'r sector cyhoeddus cyfan i gydweithio er mwyn:
- gwella gwasanaethau cyhoeddus
- datblygu’r economi
- lleihau anghydraddoldebau
Buom yn gweithio gydag ystod eang o grwpiau ac unigolion i ddatblygu'r strategaeth. Gwnaethom hefyd gyhoeddi blog yn gwahodd adborth ar bob un o'r cenadaethau arfaethedig.
Mae ein cynllun cyflawni yn disgrifio'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r blaenoriaethau yn ein strategaeth.