Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer Ymweliadau Ysbyty GIG Cymru a ddaw i rym ar 30 Tachwedd 2020.  Mae'r rhain yn disodli'r canllawiau a gyhoeddwyd gynt dyddiedig 25 Mawrth, 20 Ebrill a 20 Gorffennaf.

Mae dwy ran i'r Canllawiau diwygiedig; Datganiad Atodol a'r prif Ganllawiau.

Mae'r Datganiad Atodol yn datgan bod y Canllawiau'n nodi'r llinell sylfaen ar gyfer ymweliadau yng Nghymru yn ystod y pandemig ond yn caniatáu i ddarparwyr iechyd wyro oddi wrth y Canllawiau:

  1. mewn ymateb i lefelau cynyddol o drosglwyddiad Covid-19 yn eu hardaloedd, gan gynnwys lefelau a arweiniodd at gyfyngiadau symud cenedlaethol a/neu dystiolaeth o drosglwyddiad nosocomiaidd mewn lleoliad penodol; neu
  2. neu lefelau trosglwyddo sy'n gostwng yn eu hardal leol. 

Mae angen yr hyblygrwydd hwn oherwydd y newid yn y sefyllfa o ran trosglwyddiad y coronafeirws ledled Cymru, gydag amrywiadau sylweddol mewn trosglwyddiad cymunedol ar draws gwahanol rannau o Gymru a gwahaniaethau yng nghyfradd y trosglwyddiad nosocomiaidd. Mae'n bwysig nodi bod y Datganiad yn haeru y dylai pob penderfyniad i wyro oddi wrth y prif Ganllawiau gael eu gwneud gan Dimau Gweithredol y darparwyr gofal iechyd mewn cydweithrediad â'u timau atal a rheoli haint ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y flaenoriaeth o hyd wrth gwrs yw diogelu iechyd, diogelwch a llesiant cleifion, cymunedau a staff sy'n darparu gofal iechyd.

Mae atodiad 2 o'r prif Ganllawiau sy'n ymwneud â gwasanaethau mamolaeth, wedi'i diwygio ar ôl gwrando ar fenywod a theuluoedd ac ymgynghori â Penaethiaid Bydwreigiaeth a gwasanaethau Sonograffeg a Radiograffeg. Mae'r diwygiadau i Atodiad 2 o'r Canllawiau bellach yn darparu methodoleg ar sail risg i fyrddau iechyd benderfynu ar yr ymweliadau mamolaeth leol er mwyn i bartneriaid gadw cwmni i fenywod beichiog a mamau newydd. Dylid defnyddio'r dull gweithredu hwn sydd wedi'i asesu yn ôl risg gyda gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol, timau atal a rheoli haint lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cafwyd ychydig o fân ddiwygiadau i'r prif Ganllawiau fel a ganlyn:

  • Y gydnabyddiaeth y gallai fod ar rai pobl angen cynorthwyydd cymorth hanfodol ar gyfer cymorth ychwanegol penodol ee gweithiwr cymorth neu gyfieithydd ar y pryd.  Ni ddylid categoreiddio cynorthwywyr cymorth hanfodol fel ymwelwyr yn yr ystyr draddodiadol.  Mewn rhai amgylchiadau, lle maent yn cael gofal a chymorth gan aelod o'r teulu neu bartner, gallant enwebu'r person hwn fel eu cynorthwyydd cymorth hanfodol.
  • Roedd cynnwys personau â ‘dementia’ yn y cleifion hynny'n caniatáu un ymwelydd ar y tro.
  • Diweddariad i canllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar orchuddion wyneb a masgiau wyneb.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y gall cyfyngiadau ar ymweliadau effeithio'n andwyol ar gleifion a'u hanwyliaid fel ei gilydd. Mae iechyd, diogelwch a llesiant cleifion, cymunedau a staff sy'n darparu gofal iechyd yn dal yn flaenoriaeth hollbwysig. Wrth gwrs, mae ymweliadau rhithiol mewn lleoliadau gofal iechyd yn parhau i gael eu hybu a'u cefnogi lle bo modd.

Mae'r Canllawiau (gan gynnwys y Datganiad Atodol) yn cael eu a gyson, a gellir eu gweld yma: https://llyw.cymru/ymweld-ag-ysbytai-yn-ystod-y-coronafeirws-canllawiau