Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r saith nod llesiant ar gyfer Cymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi disgrifiad o Gymru economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol gyfiawn. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud ein cyfraniad ni at y nodau hyn, a helpu i sicrhau bod y fframwaith llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i ysgogi penderfyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys tri mesur sy’n helpu i roi dealltwriaeth gyffredin o’n gwlad, sef y dangosyddion cenedlaethol sy’n mesur cynnydd, y cerrig milltir cenedlaethol sy’n disgrifio graddfa a chyflymder newid, a’r adroddiad tueddiadau’r dyfodol sy’n nodi’r ffactorau a allai effeithio ar y cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Gyda’i gilydd, bydd y tri mesur hyn yn helpu i lunio dyfodol Cymru.

Ym mis Chwefror, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fap ffordd ar gyfer cyhoeddi’r cerrig milltir cenedlaethol, y newidiadau i’r dangosyddion cenedlaethol a chyhoeddi’r adroddiad tueddiadau’r dyfodol erbyn mis Rhagfyr 2021. Heddiw, mae’n bleser gennyf lansio ymgynghoriad ar gerrig milltir ar gyfer Cymru a fydd yn siapio camau gweithredu yn y dyfodol tuag at gyflawni’r nodau llesiant ar y cyd. Mae’n cynnig naw carreg filltir genedlaethol a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru i asesu’r cynnydd tuag at y nodau llesiant. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar fylchau posibl yn y set bresennol o ddangosyddion llesiant cenedlaethol sydd wedi’u hamlygu gan bandemig COVID-19.

Oherwydd y tarfu a fu yn sgil pandemig COVID-19, bydd y cerrig milltir cenedlaethol yn cael eu datblygu mewn dau gam – bydd y cam cyntaf yn cynnwys naw carreg filltir a byddant yn cael eu gosod cyn diwedd 2021, a’r ail gam yn 2022. Mae’r cam cyntaf o gerrig milltir arfaethedig mewn meysydd lle mae pandemig COVID-19 wedi effeithio llai ar y data ategol neu lle rydym yn cynnig gwneud targed sy'n bodoli eisoes ac a gefnogir yn eang yn garreg filltir genedlaethol. Datblygwyd y cerrig milltir cenedlaethol yn yr ymgynghoriad hwn gyda rhanddeiliaid drwy nifer o fforymau, digwyddiadau ymgysylltu a thrafodaethau. Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi cyfrannu hyd yma ac wedi’n helpu i lunio’r cynigion hyn.

Mae cynnydd tuag at y nodau llesiant yn dibynnu ar gamau gweithredu gan bawb yng Nghymru, ac yn enwedig y cyrff cyhoeddus hynny sydd â dyletswydd i gyflawni'r nodau llesiant. Bydd gosod cerrig milltir cenedlaethol yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol yn helpu i ysgogi cydweithredu. Bydd hefyd yn ein helpu ni i gyd i ganolbwyntio o’r newydd ar gyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen.

Er mwyn cyflawni’r nodau llesiant, bydd angen i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus, busnesau, y trydydd sector a dinasyddion gyfrannu drwy weithredu. Gallwch chi fod yn rhan o’r sgwrs bwysig hon drwy’r blog Llunio Dyfodol Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad ar y cerrig milltir a’r dangosyddion cenedlaethol yn agored rhwng 1 Medi a 26 Hydref 2021. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn llesiant Cymru i ymateb.

Edrychaf ymlaen at ystyried yr ymatebion.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.