Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae mynd i'r afael â phroblem camddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae'n faes y mae'n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio arno os ydym am wireddu ein huchelgeisiau yn "Cymru Iachach: ein cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol", gan ei bod yn broblem iechyd fawr sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.  Heddiw, rwy'n lansio'r ymgynghoriad ar ein "Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022", sy'n nodi ein meysydd â blaenoriaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn y cyfnod hwn. Credaf y bydd y meysydd â blaenoriaeth rydym wedi'u hamlinellu yn y cynllun hwn yn helpu i wireddu ein huchelgais o leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.

Yn dilyn cyfnod cyn ymgynghori manwl a chynhwysfawr gyda'n partneriaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, mae'r cynllun yn nodi nifer o feysydd â blaenoriaeth rydym wedi ymrwymo i gyflawni yn eu herbyn dros y tair blynedd nesaf. Mae'r safbwyntiau a gasglwyd fel rhan o'r ymarfer hwn, ynghyd â gwerthusiad o strategaeth 10 mlynedd flaenorol Llywodraeth Cymru, ac adroddiad diweddar gan AGIC ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau, i gyd wedi helpu i lunio cynnwys y cynllun cyflawni diweddaraf hwn. Mae'r cynllun yn tynnu sylw at y ffaith y bydd ymateb i broblemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd, sy'n gyffredin mewn achosion o gamddefnyddio sylweddau, yn faes pwysig y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno. Hynny, ynghyd â sicrhau ein bod yn gweithio’n gryf mewn partneriaeth gyda gwasanaethau tai a digartrefedd er mwyn rhoi cefnogaeth bellach i'r rheini sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Rydym yn ymwybodol hefyd fod angen gwneud rhagor o waith i ddarparu cefnogaeth i Garcharorion. Ein nod yw gallu cynnig gwasanaeth cydlynol, tryloyw a chyson ym mhob carchar yng Nghymru ar gyfer y rheini sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Bydd darparu rhagor o gefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr pobl sy'n camddefnyddio sylweddau hefyd yn allweddol, ynghyd â gwella mynediad at wasanaethau a sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth a'r driniaeth pan fo'u hangen arnynt. Rwyf hefyd yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael âImage removed. dibyniaeth ar feddyginiaethau trwy bresgripsiwn yn unig a meddyginiaethau dros y cownter, a bydd angen i ni, wrth gwrs, sicrhau bod gwasanaethau priodol ac ymatebol mewn perthynas â chamddefnyddio alcohol yn eu lle cyn i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ddod i rym yn gynnar yn 2020.

Mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar y cynnydd da a wnaed yn ystod oes strategaeth flaenorol 2008-18 Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau, fel y mae'r gwerthusiad yn dangos.  Roedd y gwerthusiad yn cydnabod, er enghraifft, bod tystiolaeth dda ar gael o’r gwelliant sydd wedi digwydd wrth ddarparu gwasanaethau cyson yn y maes hwn. Er enghraifft, yn 2017/18, cafodd 90.9% o bobl a oedd yn dechrau triniaeth eu gweld o fewn 20 diwrnod gwaith, o gymharu â 75% yn 2011/12.

Mae llawer wedi cael ei gyflawni yn wyneb heriau megis adnoddau tynn a natur camddefnyddio sylweddau sy'n newid o hyd, ond mae'r cynllun cyflawni yn nodi bod angen gwneud mwy, yn arbennig os ydym am leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol.  Felly, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i gefnogi'r agenda hwn, a'n nod cyffredinol yn y cynllun cyflawni yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o'r peryglon a'r effaith sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, ac yn gwybod ble y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth os oes angen.

Mae ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn amlwg drwy'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gennyf yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Mae cyllid ychwanegol gwerth £2.4 miliwn ar gael yn 2019/20 ar gyfer y saith Bwrdd Cynllunio Ardal sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau rheng flaen lleol. Dyma gynnydd o dros 10% ac mae'r arian ychwanegol hwn yn golygu ein bod yn gallu cefnogi ein partneriaid wrth iddynt wynebu heriau'r dyfodol, gan gynnwys y rheini rydym wedi tynnu sylw atynt yn y cynllun cyflawni newydd. Mae'r cynnydd hwn mewn buddsoddiad yn golygu ein bod yn darparu cyllid blynyddol o bron i £53m ar gyfer camddefnyddio sylweddau, sy'n arwydd clir o ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Er mwyn mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau camddefnyddio sylweddau, mae angen ymrwymiad gan y Llywodraeth gyfan a'n partneriaid sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn cefnogi pawb sydd mewn angen i gael y lefel gywir o gefnogaeth, ar yr amser iawn ac yn y lle iawn. Dyma agenda heriol a chymhleth, ac mae'r cynllun hwn yn dangos y byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid ar lefel genedlaethol a lleol i sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd ataliol, integredig a hirdymor er mwyn gwella canlyniadau i unigolion a theuluoedd ar draws Cymru.

Edrychaf ymlaen at ystyried yr ymatebion a ddaw i'r ymgynghoriad.

Mae'r ymgynghoriad ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/cynllun-cyflawni-ar-gyfer-camddefnyddio-sylweddau-2019-i-2022