Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 6 Gorffennaf, amlinellodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ein “dull tair elfen uchelgeisiol” i fynd i’r afael â fforddiadwyedd tai ac effaith ail gartrefi a thai gwyliau masnachol ar argaeledd tai, cymunedau a’r Gymraeg.

Fel rhan o’r gwaith hwn, rwyf heddiw’n cyhoeddi ymgynghoriad i wahodd sylwadau am newidiadau posibl i drethi lleol i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt reoli effaith ail gartrefi a llety hunanarlwyo yn eu hardaloedd.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o adolygiad o’r ddeddfwriaeth bresennol. Mae’n ystyried y pwerau disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol i godi cyfraddau uwch o’r dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag tymor hir, a’r meini prawf a’r trothwyon a ddefnyddir er mwyn i lety hunanarlwyo (llety gwyliau masnachol) gael ei ddynodi’n eiddo annomestig.

Rydym yn ceisio barn a thystiolaeth gan unigolion a sefydliadau ynglŷn â’r pwerau disgresiwn sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfraddau uwch o’r dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag tymor hir. Rydym hefyd yn gofyn am farn a thystiolaeth ynglŷn â’r meini prawf er mwyn i eiddo gael ei ddiffinio fel llety hunanarlwyo at ddibenion trethi lleol. Byddem yn ogystal yn croesawu sylwadau am effaith y newidiadau posibl.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos. Gofynnir am ymatebion erbyn 17 Tachwedd a bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried wrth edrych ar unrhyw ddatblygiadau pellach.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau ers y datganiad llafar ym mis Gorffennaf.