Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn gynharach eleni, cyhoeddais ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru) [1] oedd yn esbonio’n cynigion ar gyfer trefn newydd i sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Amcan ein cynigion yw diogelu cymunedau, seilwaith hanfodol a’r amgylchedd trwy gyflwyno rheolau newydd ar gyfer rheoli tomenni, i leihau’r posibilrwydd o dirlithriadau.
Seiliwyd y Papur Gwyn ar yr argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn eu hadroddiad Regulating Coal Tip Safety in Wales[2] a gyhoeddwyd ar 24 Mawrth. Cynhwysai’r Papur Gwyn ddadansoddiad hefyd gan Lywodraeth Cymru o feysydd na rhoddwyd sylw iddynt yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith neu feysydd yr argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried. Cyflwynodd y Papur Gwyn gynigion deddfwriaethol ar gyfer cyflwyno fframwaith rheoli statudol newydd a fyddai’n darparu trefn newydd gyson ar gyfer rheoli, monitro a goruchwylio tomenni segur ac yn lliniaru effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Awst a phleser i mi heddiw yw cael cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch am gyfraniad gwerthfawr amrywiaeth eang o unigolion, cwmnïau, cyrff a sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn ac i’n partneriaid ar y Tasglu – yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - am barhau i’n cefnogi a’n cynghori.
Rwy’n falch gweld bod cefnogaeth arwyddocaol i’r cynigion yn y Papur Gwyn a chydnabyddiaeth eang bod angen trefn reoli effeithiol i helpu i gadw tomenni’n ddiogel ac i fynd i’r afael â’u risg i gymunedau a’r amgylchedd.
Gan droi at gynigion penodol y Papur Gwyn, ceir cytundeb cyffredinol bod angen fframwaith cyffredinol fyddai’n addas ar gyfer tomenni glo segur a thomenni nad ydynt yn domenni glo, er y bydd y drefn newydd yn y lle cyntaf yn canolbwyntio ar domenni glo segur. Byddai’n bosibl wedyn ychwanegu tomenni eraill fesul cam at y drefn, pan fydd hi’n briodol.
Roedd cryn gefnogaeth i'r cynnig i sefydlu awdurdod goruchwylio i gadw golwg ar y drefn newydd, i sicrhau bod trefniadau rheoli ar waith ar gyfer y tomenni categori uchaf ac i lunio a chynnal cofrestr genedlaethol newydd o asedau. Roedd ymatebwyr yn cefnogi'r cynnig i sefydlu awdurdod goruchwylio fel Corff Gweithredol hyd braich a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau'r annibyniaeth briodol a’r ffocws ar sicrhau tomenni diogel.
Rhaid i fframwaith rheoli newydd, wrth gwrs, fod yn seiliedig ar y data diweddaraf. Roedd cefnogaeth eang i'r cynnig i greu cofrestr asedau genedlaethol ganolog o ddata unffurf, cydlynol a dibynadwy. Rwy'n gwrando ar gyngor ymatebwyr i beidio â gwneud yn fach o’r cymhlethdodau a'r heriau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn. Bydd y gofrestr ganolog hon yn adeiladu ar y data sydd eisoes wedi’u casglu gan y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo. Byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddysgu o’u profiad ac yn ystyried defnyddio arferion gorau systemau presennol tebyg lle bo hynny'n briodol.
Mae'r Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer system genedlaethol newydd i gategoreiddio tomenni a fydd yn seiliedig ar asesiad penodol o’r risg ym mhob safle. Byddai'r asesiad yn nodi’r peryglon y gallai tomen eu hachosi i gymunedau, eiddo, seilwaith neu'r amgylchedd. Cafwyd cefnogaeth eang i'r cynigion hyn, er fy mod yn cydnabod y sylwadau ynghylch problemau recriwtio aseswyr cymwys neu brofiadol addas, a hefyd yr angen i sicrhau eu bod yn cael yr hyfforddiant a’r arweiniad priodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau hyn. Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid ar y Tasglu am barhau i gydweithio ac ymgysylltu mor agos â ni wrth i ni dreialu asesiadau a dulliau categoreiddio peryglon, a mireinio cynigion ar gyfer archwiliadau, arfarniadau, cynlluniau rheoli a chytundebau cynnal a chadw.
Thema ganolog i lawer o’r ymatebion i'r Papur Gwyn yw bod gofyn am arian ac adnoddau sylweddol i sefydlu a chynnal y drefn newydd. Mae yna bryderon hefyd ynghylch sicrhau nad oes baich anghymesur yn cael ei roi ar berchnogion tomenni. Rwy'n cydnabod y pwyntiau hyn ac yn ymrwymo i sicrhau tryloywder ynghylch costau wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth. Mae'n werth ailadrodd hefyd y gall llawer o gyfleoedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ddod o fuddsoddi mewn tomenni segur, gyda llawer ohonynt yn digwydd yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
I gloi, roedd cefnogaeth eang i'r cynigion o blaid trefn fonitro dwy haen a threfn gymesur ar gyfer rheoli tomenni yn unol â chategori pob tip. Roedd yr ymatebwyr yn cydnabod hefyd bod angen pwerau priodol i gael mynd ar dir preifat er mwyn gallu cynnal archwiliadau, gwaith cynnal a chadw a chynnal archwiliadau dirybudd. Derbyniwyd hefyd y byddai angen i sancsiynau sifil fod yn rhan hanfodol o'r drefn gyda llawer yn mynegi barn ar sut i’w datblygu. Derbyniwyd na fyddai’r drefn yn gweithio'n effeithiol heb fesurau priodol i sicrhau cydymffurfiaeth.
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth a syniadau a fydd yn ein helpu i ddatblygu ein cynigion deddfwriaethol. Dros y misoedd nesaf, bydd fy swyddogion yn parhau i drafod â rhanddeiliaid wrth i gynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd gael eu datblygu'n llawn.
O ran y rhaglen diogelu tomenni glo ehangach, dechreuodd y bumed rownd o archwilio tomenni â sgôr uwch ym mis Hydref a bydd yn para gydol misoedd y gaeaf. Er gwaethaf yr heriau o ran casglu tystiolaeth, mae gwaith casglu data a dadansoddi tomenni glo yn mynd yn ei flaen ac rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i gyhoeddi lleoliadau tomenni glo segur yng Nghymru. Byddaf yn cysylltu eto maes o law â’r Aelodau.
[1] Coal Tip Safety (Wales) White Paper | GOV.WALES
[2] Law Com 406, 24 March 2022, Regulating-Coal-Tip-Safety-in-Wales-Report.pdf