Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddais ymateb i’r ymgynghoriad ar ddyfodol prisio carbon yn y DU, ar y cyd â Gweinidogion o wledydd eraill y DU.  Rydym yn bwriadu sefydlu System Masnachu Allyriadau (ETS) ar gyfer y DU, gyda Cham 1 yn para o 2021 hyd 2030. Gallai hon weithredu fel system gysylltiedig neu system annibynnol. Mae’r cynllun hwn yn cyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol, wrth reoli’r costau i fusnesau ac arwain y gwaith o ddatblygu marchnadoedd carbon byd-eang.

Mae ETS y DU yn bolisi allweddol i ategu’r gwaith o leihau allyriadau o’n safleoedd ni sydd â’r allyriadau uchaf mewn modd cost-effeithiol. Mae tua 50% o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn dod o’r sectorau pŵer, diwydiant a hedfan – sectorau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun hwn. Heb os mae angen sicrwydd ar ein busnesau ni ac, ar yr adeg anodd hon, byddwn yn helpu diwydiant i adfer a bod yn gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol yn y dyfodol.

Bydd ein polisïau yng Nghymru yn cyflawni ein targedau strategol ac yn cyfrannu’n llawn at wireddu allyriadau sero-net yn y DU erbyn 2050. Yn hyn o beth, i ddechrau bydd y cap yn cael ei osod ar 5% o dan gyfran dybiannol y DU o gap System Masnachu Allyriadau'r UE ar gyfer Cam IV, sy’n dechrau yn 2021. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu’r lefel hon ar ôl derbyn cyngor gan y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd mewn perthynas â’n cyllidebau carbon a’r llwybr ar gyfer lleihau allyriadau yn y dyfodol.

Bydd llawer o nodweddion y cynllun yn gyfarwydd i’r cyfranogwyr. Bydd arwerthu’n parhau i fod y brif ffordd o gyflwyno lwfansau i’r farchnad, gyda lwfansau am ddim i ddiogelu cystadleurwydd a rheoli’r risg o ollwng carbon. Os ceir system annibynnol, bydd mecanweithiau i reoli pris lwfansau yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r hawl i’r rhai sy’n allyrru lefelau isel ac ysbytai optio allan yn sicrhau bod y baich o gydymffurfio’n gymesur. Ni chaniateir credydau rhyngwladol yn ETS y DU ar yr adeg hon. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson ynghylch y ffaith y byddwn ni’n ffafrio yn gryf ETS ar gyfer y DU wedi’i chysylltu â system yr UE. Dyma oedd yr opsiwn a ffefrir gan gyfran fawr o’r rhanddeiliaid a ymatebodd i’r ymgynghoriad hefyd. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am sicrhau hyn ar gyfer ein busnesau fel rhan o’r trafodaethau Brexit ehangach. Rwy’n galw ar dimau trafod y DU a’r UE i wneud yr hyn sydd orau ar gyfer pob parti, a sicrhau cytundeb i gysylltu ein marchnadoedd carbon. Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw arian a godir drwy System Masnachu Carbon ar gyfer y DU yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau yng Nghymru a ledled y DU i fod yn lanach ac yn fwy ffyniannus yn y dyfodol.

Byddaf yn ysgrifennu at bwyllgorau perthnasol y Senedd ynglŷn â’r polisi hwn, yn unol â’u rôl o graffu ar fframweithiau'r DU gyfan.

Mae ymateb y Llywodraeth ar gael yma:

https://llyw.cymru/prisio-carbon-y-du-yn-y-dyfodol