Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Y llynedd cyhoeddais yr ymgynghoriad “Brexit a’n Moroedd”, y cam cyntaf yn y gwaith o ddatblygu polisi pysgodfeydd sy’n gweithio ar gyfer Cymru, ond nid oedd yr un ohonom yn gallu rhagweld beth oedd o’n blaenau. Gwnaeth y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ac effaith gatastroffig pandemig Covid-19 ar y diwydiant, newid popeth a symudodd y ffocws i gefnogi’r diwydiant yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Agorodd Grant Pysgodfeydd Cymru ar 23 Ebrill 2020. Gwnaethom dderbyn ceisiadau ar gyfer 158 o gychod, sy’n cynrychioli 97% o gychod cymwys, gwnaed taliadau gwerth tua £500,000.
Mae’r posibilrwydd o ymadael â’r UE heb gytundeb wedi parhau; nid yw Bil y Farchnad Fewnol a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol ein safonau amgylcheddol a diogelwch bwyd uchel yng Nghymru, nac o ran sut a ble y gwneir penderfyniadau allweddol yn y dyfodol.
Wrth inni nesáu at ddiwedd y cyfnod pontio, ac o ganlyniad baratoi i adael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, mae’n rhaid inni ddatblygu ein polisi ein hunain ar gyfer dyfodol Cymru. Felly, rwy’n cyhoeddi “Crynodeb o Ymatebion” i Brexit a’n Moroedd ac amlinelliad o’n camau nesaf ni. Gwnaethom dderbyn 55 o ymatebion i’r Ymgynghoriad a hoffwn ddiolch i’r rheini a gymerodd o’u hamser i ymateb.
Mae’r fframwaith ar gyfer y ffordd y byddwn yn gweithredu ledled y DU ar ôl ymadael â’r UE yn cael ei ddatblygu, a’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer y fframwaith hwn yw Bil Pysgodfeydd y DU. Byddwn yn amlinellu ein polisïau ar gyfer cyfrannu at y gwaith o gyflawni’r amcanion ar gyfer pysgodfeydd yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd. Bydd y polisïau hyn yn cael eu hamlinellu yn y Cyd-ddatganiad ar y gyd â’r gweinyddiaethau pysgodfeydd eraill, ond byddant yn llawn barchu natur ddatganoledig pysgodfeydd. Bydd y Cyd-ddatganiad yn cynnwys datganiad ar ein bwriad i ddefnyddio Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, ac yn amlinellu polisïau ar y ffordd y byddwn yn rheoli ein pysgodfeydd a’n stociau pysgod mewn modd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Wrth wraidd ein polisi pysgodfeydd ar gyfer Cymru yn y dyfodol bydd ein gwerthoedd craidd, sef cyfiawnder economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Rhaid inni ddatblygu polisi cynaliadwy sy’n seiliedig ar ecosystemau ac yn cyd-fynd â phob polisi morol arall. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn ein galluogi i wneud hyn. Mae’n darparu fframwaith dealladwy ar gyfer rheoli morol ac yn gwneud yn glir mai ein nod yw cefnogi a diogelu sector pysgota cynaliadwy, amrywiol a phroffidiol. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo dalfeydd cynaliadwy a manteisio i’r eithaf ar werth economaidd y pysgod sy’n cael eu glanio.
Awgrymodd llawer o ymatebwyr i’r ymgynghoriad ffyrdd y gallai’r diwydiant elwa ar gyfleoedd pysgota ychwanegol wedi eu dyrannu i’r DU. Felly, rydym wedi cymryd camau i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i gychod o dan ddeg metr, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Rwyf wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd pysgota ar gyfer ein diwydiant pysgota yng Nghymru, gan sicrhau bod Cymru yn derbyn ei chyfran deg o unrhyw gyfleoedd newydd o fewn Dalfeydd Mwyaf a Ganiateir presennol, ac o ganlyniad caniatáu rhagor o weithgarwch economaidd, cefnogi ein cymunedau arfordirol a chaniatáu gweithgareddau newydd fel prosesu.
Yn ganolog i gynaliadwyedd pysgodfeydd Cymru mae’r angen am system fodern a hyblyg ar gyfer rheoli stociau domestig nad ydynt yn rhan o’r cwota. Bydd systemau rheoli hyblyg yn rhoi’r offerynnau a’r mecanweithiau inni ar gyfer rheoli ein stociau pysgod, trwy alluogi ymyriadau mwy amserol wrth ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd a lefelau stoc gan sicrhau bod stociau a’r amgylchedd yn cael eu diogelu ar yr un pryd â chynyddu’r manteision maent yn eu darparu i gymunedau arfordirol cymaint ag y bo modd. Mae ein pysgodfeydd yn adnoddau naturiol gwerthfawr iawn, ac rwyf yn parhau i fod wedi ymrwymo’n llawn i gyflwyno systemau rheoli hyblyg sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer amrediad o bysgodfeydd Cymru fel cregyn moch, cregyn bylchog a chocos.
Mae’r pwerau cyfreithiol priodol yn hanfodol er mwyn inni gyflawni ein polisïau a’n dyheadau ar gyfer y dyfodol. Bil Pysgodfeydd y DU yw'r cam cyntaf, ac ar hyn o bryd mae ar ei daith drwy Senedd y DU. Ar gais Llywodraeth Cymru mae’r Bil yn darparu ar gyfer materion datganoledig, ac rwy’n rhoi diweddariadau i Senedd Cymru drwy weithdrefnau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wrth i Senedd Cymru a Senedd y DU graffu ar y Bil.
Mae’r Bil yn galluogi sefydlu fframwaith clir a chadarn ar gyfer y DU er mwyn rheoli ein pysgodfeydd, ac mae’n darparu’r pwerau a’r mecanweithiau rheoli sydd eu hangen ar Senedd Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer datblygu cynlluniau rheoli pysgodfeydd yng Nghymru yn dilyn ymadael â’r UE. Er ein bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i fframwaith y DU, ein bwriad yw ymdrin â’r pwerau ar gyfer Gweinidogion Cymru yn y Bil nad ydynt yn rhan o’r fframwaith fel mesur dros dro nes i Fil ar gyfer Pysgodfeydd Cymru gael ei gyflwyno i’r Senedd.
Yn bwysig, mae Bil y DU yn gwneud darpariaeth ar gyfer estyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn materion sy’n ymwneud â physgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod ym mharth Cymru. Mae hwn yn gam cyfansoddiadol sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Pysgodfeydd cydgysylltiedig mewn perthynas â Chymru a’i pharth ehangach, gyda’r nod o ddarparu’r pwerau cyfreithiol i lunio ein polisïau ar gyfer pysgodfeydd yn y dyfodol.
Mae pandemig Covid-19 wedi lleihau ein masnachu â’n prif farchnadoedd yn sylweddol, ac wedi llesteirio ein cynlluniau i hyrwyddo bwyd môr o Gymru yn ystod 2020. Wrth i’r marchnadoedd adfer, byddwn yn sicrhau bod ein bwyd môr yn cael ei hyrwyddo ar bob cyfle. Mae’r UE yn parhau i fod y brif farchnad ar gyfer bwyd môr o Gymru, ac oherwydd yr heriau sy’n gysylltiedig ag allforio cynhyrchion byw mae mynediad dilyffethair at y farchnad sengl yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, rydym eisoes am sicrhau marchnadoedd amrywiol a chynaliadwy ar gyfer bwyd môr o Gymru yn y wlad hon a’r tu hwnt i’r UE.
Roedd ymatebwyr i ymgynghoriad Brexit a’n Moroedd yn glir; rhaid inni wneud mwy i gynyddu’r farchnad ddomestig, a chynyddu diddordeb cwsmeriaid mewn bwyd môr o Gymru drwy addysg a marchnata. Byddwn yn parhau i weithio gyda Seafish ar eu hymgyrchoedd fel “Fish is the Dish” ac “Wythnos Bwyd Môr”.
Dywedodd ymatebwyr y byddai buddsoddi mewn brand ar gyfer bwyd môr o Gymru, yn seiliedig ar gynhyrchion cynaliadwy o ansawdd uchel, yn cynyddu’r galw. Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant ar raglen datblygu’r farchnad gwerth £1 miliwn a dull clir ar gyfer brandio.
Roedd rhai ymatebion manwl iawn i’r cwestiynau am ddyframaethu yn yr ymgynghoriad. O'r rheini a atebodd y cwestiwn hwn, roedd llawer yn teimlo bod Gorchmynion Pysgodfa Unigol yn parhau i fod y ffordd fwyaf priodol ar gyfer trwyddedu dyframaethu, ac y byddai angen ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth yn ofalus. Rydym eisoes wedi symleiddio’r broses weinyddu er mwyn prosesu ceisiadau mewn modd mwy amserol.
Dywedodd ymgyngoreion, er mwyn i’r diwydiant pysgota ffynnu, fod moroedd iach ac amrywiol yn hanfodol, ac i sicrhau hyn mae angen inni gasglu’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch iechyd stociau pysgod ac effaith pysgota arnynt. Bydd sail dystiolaeth well yn ategu ein polisïau pysgodfeydd, gan gynnwys sicrhau Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf, er mwyn rheoli ein stociau mewn modd cyfrifol. Ym mis Medi 2019, cyhoeddais Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, i weithio gyda phartneriaid o gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, i gasglu’r dystiolaeth sydd eu angen er mwyn gwneud hyn. Mae swyddogion yn gweithio i ddatblygu cynlluniau Tystiolaeth Pysgodfeydd a Dyframaethu ar gyfer Cymru, yn amlinellu sut y bydd yr anghenion tystiolaeth yn y Strategaeth Tystiolaeth Forol yn cael eu bodloni. Bydd y cynllun cyntaf yn cael ei gyhoeddi yn 2021.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru helpu diwydiant pysgota Cymru i dyfu a manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd yn dilyn ymadael â’r UE drwy raglen olynol i Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Roedd ymatebwyr yn glir y dylai unrhyw gymorth ar gyfer y diwydiant gynnwys cymhellion i annog arferion cynaliadwy, gwella diogelwch ac amodau gweithio ar gychod, cefnogi busnesau newydd, gwarchod yr amgylchedd morol a hyrwyddo pysgod a chynhyrchion pysgod o Gymru. Rydym yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer rhaglen newydd i ategu datblygu cynaliadwy yn y sectorau pysgota a dyframaethu, a chefnogi twf a chynnal swyddi mewn cymunedau arfordirol.
Rwy’n parhau i ganolbwyntio ar ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac rwyf wedi ymrwymo i wireddu’r weledigaeth honno. Byddwn ni hefyd yn cymryd camau effeithiol yn y tymor byr i gefnogi ac i ddiogelu pysgodfeydd a physgotwyr Cymru. Mae gennym nifer o grwpiau rhanddeiliaid sydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein herio a’n cefnogi. Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth bydd angen cryn gydweithio a chydgynhyrchu wrth greu Polisi Pysgodfeydd ar gyfer Cymru, a byddaf yn sefydlu’r seilwaith i alluogi’r cydgynhyrchu hwn.
Diolch unwaith eto i’r rheini a gymerodd o’u hamser i ymateb i ymgynghoriad Brexit a’n Moroedd, a diolch am eich ymatebion llawn a gonest. Er bod pandemig Covid-19 wedi oedi ein gwaith ar ddatblygu polisi pysgodfeydd ar gyfer y dyfodol, nid yw ein gweledigaeth ar gyfer diwydiant ffyniannus sy’n seiliedig ar foroedd iach a chydnerth wedi newid.