Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Awst 2019.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae’r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 678 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn, eich syniadau a’ch dyheadau ar gyfer ein moroedd. Bydd Brexit a'n moroedd yn helpu i lunio ein polisïau ar gyfer pysgodfeydd yn y dyfodol wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y cam cyntaf o greu polisi newydd, trefn reoli, a deddfwriaeth.
Rydym am gael eich barn ar:
- reoli pysgodfeydd
- pysgodfeydd cynaliadwy
- cyfleoedd i bysgota
- pysgod cregyn a dyframaethu
- masnach
- twf ac arloesi
- cynaliadwyedd fflyd
- tystiolaeth
- cymorth cyllido
Cyfarfodydd Ymgynghori Brexit a’n Moroedd
Mae pob cyfarfod rhwng 6.30 to 8.30 yr hwyr. Danfonwch ebost i gadw lle: Marine.Fisheries.EU.Exit@gov.wales
- 4 Gorffennaf – Gwesty Ashburnham, Porth Tywyn
- 8 Gorffennaf – Gwesty Celtic Royal Hotel, Caernarfon
- 11 Gorffennaf – Gwesty’r Marine, Aberystwyth
- 15 Gorffennaf - Lord Nelson, Aberdaugleddau
- 16 Gorffennaf - Canolfan Hamdden Dwyfor, Pwllheli
