Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gynllun datblygu newydd a fydd yn darparu strategaeth ofodol genedlaethol, gan nodi ym mhle y dylwn roi sylw i ddatblygiadau dros yr 20 mlynedd nesaf er mwyn sicrhau datgarboneiddio, ecosystemau cydnerth a chynhwysol, a thwf economaidd teg.
Yn dilyn ymgynghoriad eang ar y Fframwaith drafft y llynedd, rwyf wedi gosod fersiwn ddrafft ohono gerbron y Senedd heddiw i’w ystyried am 60 o ddiwrnodau. Mae adroddiad yr ymgynghoriad yn mynd gydag ef sy’n nodi’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, rhestr o’r newidiadau y bwriadaf eu gwneud ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad a’r arfarniad o gynaliadwyedd integredig diweddaraf. Mae modd gweld y dogfennau hyn yma.
Rwyf wedi cyhoeddi dwy ddogfen heddiw er mwyn cefnogi’r broses graffu. Mae’r ddogfen gyntaf yn disgrifio sut rwy’n bwriadu monitro’r Fframwaith ar ôl iddo gael ei gyhoeddi; ac mae’r ail ddogfen yn fersiwn o’r ddogfen atodlen o newidiadau sydd wedi’i gosod ar ffurf y Fframwaith drafft yr ymgynghorwyd yn ei gylch y llynedd. Gallwch weld y dogfennau hyn yma
Byddaf yn cyflwyno cynnig y gellir ei ddiwygio yn ystod cyfnod y llywodraeth i roi cyfle i’r Senedd fynegi ei barn ar y Fframwaith drafft (ond nid ei gymeradwyo). Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod ystyried 60 diwrnod fel bod y Llywodraeth yn gallu adlewyrchu’n brydlon ar y materion a godwyd ac unrhyw argymhellion a ddaw i law oddi wrth y Senedd.
Dyma’r Fframwaith cyntaf i’w baratoi gan Lywodraeth Cymru a bydd yn pennu cyfeiriad y cynlluniau datblygu strategol a lleol sydd i ddod. Rydym wedi gwrando ar lawer o’r ymatebion sydd wedi dod i law yn ystod yr ymgynghoriad a bydd y fersiwn ddrafft o’r Fframwaith yn cael ei diwygio’n helaeth, a’i gwella, ar sail y sylwadau a’r argymhellion a gawsom.
Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Senedd i’r Fframwaith drafft a’r newidiadau yr wyf wedi’u disgrifio ynddo. Rwy’n bwriadu cyhoeddi’r fersiwn derfynol o’r ddogfen, o dan yr enw Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040, ym mis Chwefror 2021.