Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â chynnwys y trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn COVID-19 ar y Pàs COVID; eithriadau meddygol ar gyfer y Pàs COVID domestig; a chynllun peilot i gydnabod brechlynnau sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ond sydd wedi’u rhoi y tu allan i’r DU.

Y Pàs COVID a’r trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn COVID-19

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid yng Nghymru ers tro i sicrhau bod y trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn COVID-19 i bobl sy’n agored i niwed yn glinigol neu’n imiwnoataliedig yn cael ei ddangos ar y Pàs COVID. Gallaf gadarnhau, o 25 Chwefror ymlaen, fod y dos hwn o’r brechlyn bellach yn cael ei ddangos yn gywir. Dylai unrhyw un sy’n dal i gael problemau gyda’r Pàs yn dangos eu gwybodaeth frechu, e-bostio:

TystysgrifauStatwsCovid@llyw.cymru 

Tystiolaeth o un dos o’r brechlyn neu haint COVID blaenorol i bobl ifanc 12-15 oed

Ers 3 Chwefror, mae pobl ifanc 12-15 oed wedi gallu gwneud cais am Bàs COVID digidol drwy ddilyn y ddolen hon ar y wefan: Cael eich Pàs COVID y GIG | LLYW.CYMRU. Mae’r Pàs Digidol hwn i bobl ifanc yn cynnwys codau bar 2D (a elwir hefyd yn godau QR) a bydd yn cynnwys tystiolaeth eu bod wedi gwella o haint COVD neu dystiolaeth o ganlyniad prawf positif blaenorol. Mae’r system hon yr un fath â’r system sy’n gymwys i oedolion yng Nghymru a’r system sydd wedi cael ei gweithredu yn Lloegr.

Eithriadau meddygol

Yn dilyn trafodaethau gyda chynghorwyr clinigol a moesegol, rydym wedi cytuno ar y diffiniad canlynol ar gyfer pobl yr ystyrir eu bod wedi’u heithrio’n feddygol rhag cael y brechlyn COVID-19 a rhag gwneud prawf llif unffordd at ddibenion defnyddio’r Pàs COVID domestig.

Ystyrir y bydd pobl wedi’u heithrio’n feddygol os ydynt:

  1. wedi cael adwaith anaffylacsis systemig blaenorol i’r brechlyn COVID ac nid ydynt yn gallu cael brechlyn arall drwy’r llwybr a’r gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol ar gyfer alergedd.
  1. wedi cael adwaith anaffylacsis blaenorol i unrhyw gydran (llenwydd) o’r brechlyn COVID ac nid ydynt yn gallu cael brechlyn arall drwy’r llwybr a’r gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol ar gyfer alergedd.
  1. wedi cael digwyddiad andwyol difrifol yn gysylltiedig â’r brechlyn COVID a arweiniodd atynt yn gorfod mynd i’r ysbyty a phan nad oes brechlyn arall ar gael iddynt, fel yr aseswyd gan y gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol.
  1. wedi cofrestru fel rhywun sydd ag anabledd dysgu difrifol neu awtistiaeth ddifrifol, wedi cael eu hasesu gan wasanaeth dysgu ac anabledd bwrdd iechyd fel rhai na all gael brechlyn ar ôl addasiadau rhesymol ac y mae datganiadau lles pennaf wedi’u llunio ar eu cyfer ar y cyd â nhw eu hunain, eu teulu neu eu gofalwyr a’r gwasanaeth dysgu ac anabledd.
  1. yn methu â gwneud prawf llif unffordd yn feddygol. Gallai hyn gynnwys pobl sydd ag annormaleddau difrifol yn y trwyn a’r gwddf, anableddau dysgu difrifol gydag ymddygiad heriol neu alergedd i ddeunyddiau a ddefnyddir mewn swabiau ar gyfer profion llif unffordd. Bydd angen i hyn gael ei gadarnhau gan glinigydd.

Bydd GIG Cymru yn cysylltu â’r bobl sydd yn y tri chategori cyntaf yn awtomatig a byddant yn cael llythyr yn cadarnhau eu bod wedi’u heithrio.

Bydd gwasanaethau anableddau dysgu yn ardal eu bwrdd iechyd yn cysylltu â’r bobl sydd yng nghategori pedwar i drafod a ellir gwneud addasiadau rhesymol pellach cyn penderfynu rhoi eithriad.

Bydd angen i bobl sydd yng nghategori pump lenwi’r ffurflen hon ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys manylion eu clinigydd a all gadarnhau eu bod wedi’u heithrio’n feddygol. Yna, bydd eu hachos yn cael ei ystyried gan glinigwyr annibynnol.

Os na chysylltir â phobl sy’n credu eu bod wedi’u heithrio’n feddygol erbyn diwedd mis Mawrth ac sy’n credu eu bod yn gymwys o dan un o’r categorïau a restrir, gallant wneud cais am eithriad drwy ddefnyddio’r ffurflen ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy gysylltu â’u bwrdd iechyd.

Ni fydd eithriadau meddygol yn gymwys i’r Pàs COVID ar gyfer teithio rhyngwladol gan fod y meini prawf mynediad ar gyfer y wlad y mae pobl yn teithio iddi, yn cael eu pennu gan y wlad honno ac nid y DU. Dylai unrhyw un sy’n teithio y tu allan i’r DU edrych ar y meini prawf ar gyfer y wlad y maent yn teithio iddi cyn gwneud trefniadau teithio ac, unwaith eto, cyn teithio, gan y gall gofynion mynediad newid ar fyr rybudd.

Rydym yn parhau i weithio ar wasanaeth digidol ar gyfer eithriadau meddygol drwy Bàs COVID y GIG.

Ychwanegu brechlynnau sydd wedi’u rhoi y tu allan i’r DU at y Pàs COVID

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cytuno i gynnal cynllun peilot byr er mwyn treialu sut y gellir cynnwys gwybodaeth am frechlynnau COVID sydd wedi’u rhoi y tu allan i’r DU ar y Pàs COVID yng Nghymru. Yn ystod y cynllun peilot, dim ond y 4 brechlyn sydd wedi’u cymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), sef AstraZeneca (Vaxzevria), Moderna, Pfizer/BioNTech (Comirnaty) a Janssen fydd yn cael eu cynnwys.

Bydd y canlyniadau yn cael eu hadrodd yn ôl imi, a fydd yn galluogi penderfyniad sydyn ynglŷn ag amseriad a chwmpas cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol. Yn y cyfamser, dylai unigolion sydd wedi’u brechu y tu allan i’r DU, ddefnyddio tystiolaeth a roddwyd iddynt gan y wlad lle cawsant eu brechu, i brofi eu statws brechu.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau pan fydd canlyniadau’r cynllun peilot ar gael.