Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein datganiad ansawdd ar gyfer strôc newydd, sy'n disodli'r cynllun cyflawni ar gyfer strôc presennol i Gymru ac a fydd yn ysgogi gwelliannau mewn gofal strôc i bobl yng Nghymru.

Cafwyd ymrwymiad yn Cymru Iachach i ddatblygu cynllun clinigol cenedlaethol, a fyddai'n nodi sut y byddai gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau yn yr ysbyty yn cael eu darparu, ynghyd â'r sgiliau a'r technolegau sydd eu hangen i'w cefnogi. Wrth i'r gwaith datblygu fynd rhagddo, esblygodd y cynllun i fod yn Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, sy'n cwmpasu'r holl wasanaethau clinigol a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), boed yn arbenigol neu'n gyffredinol.

Mae'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn cael ei ategu gan gyfres o ddatganiadau ansawdd, sy'n nodi sut yr ydym am weld gwasanaethau clinigol penodol yn datblygu ac yn gwella dros y tymor canolig. Fe'u cefnogir gan lwybrau clinigol manwl a manylebau gwasanaeth, a fydd yn llywio gwaith y GIG wrth ddarparu gwasanaethau.

Strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru a gall gael effaith hirdymor sylweddol ar oroeswyr. Ar hyn o bryd, mae bron i 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,400 o unigolion yn cael strôc bob blwyddyn. Gall strôc newid bywydau ar unwaith, ond gyda'r gefnogaeth gywir, gall pobl wella'n dda. 

Datblygwyd y datganiad ansawdd ar gyfer strôc mewn partneriaeth â'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc ac amrywiaeth o bartneriaid allweddol, gan gynnwys y Gymdeithas Strôc. Mae'n canolbwyntio ar wella gwasanaethau ledled Cymru a lleihau amrywiadau mewn gofal. Mae'r datganiad hefyd yn disgrifio'r hyn y dylai pawb ddisgwyl ei weld gan ein gwasanaethau strôc yng Nghymru – mae’r pwyslais ar ofal diogel, amserol, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy’n effeithlon ac yn deg. 

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth a nodir yn y datganiad ansawdd ar gyfer strôc, mae angen inni roi pwyslais pendant ar weithio gyda grwpiau eraill i fynd i'r afael â meysydd fel iechyd y cyhoedd, atal, adsefydlu, a darparu gofal i bobl sy'n ddifrifol wael a phobl sydd ar ddiwedd eu hoes. Mae hefyd yn gofyn am gydweithio agos â gwasanaethau cyflyrau eraill, megis clefyd cardiofasgwlaidd, cyflyrau niwrolegol a diabetes.

Ar ôl cyhoeddi'r datganiad ansawdd, y cam nesaf fydd datblygu cynllun cyflawni cenedlaethol newydd ar gyfer strôc yng Nghymru i fynd ar drywydd yr ymrwymiadau niferus y mae'n eu cynnwys. Bydd y cynllun cyflawni yn cael ei ddatblygu o dan arweiniad Dr Shakeel Ahmad, ein harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc, gyda chefnogaeth y Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc. Bydd Dr Ahmad hefyd yn cefnogi byrddau iechyd i ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau strôc cynhwysfawr sy'n gweithio ar draws ffiniau i wella pob agwedd ar ofal strôc.

Rydym wedi ymrwymo i wella'r gefnogaeth i oroeswyr strôc a'u helpu i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n holl bartneriaid yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod i gyflawni'r ymrwymiadau pwysig a nodir yn y datganiad ansawdd.

Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc ar gael yn: https://llyw.cymru/y-datganiad-ansawdd-ar-gyfer-stroc

Cyhoeddwyd y datganiadau ansawdd ar gyfer cyflyrau'r galon a chanser ym mis Mawrth 2021, ynghyd â'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol. Maent ar gael yn:

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-fframwaith-clinigol-cenedlaethol-datganiadau-ansawdd