Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yr wythnos diwethaf lansiais ein cynllun i gryfhau ac ailadeiladu'r economi. Nodais ymrwymiad i gefnogi pobl, yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith, i wneud y gorau o'u potensial, gwella eu gallu i addasu a'u rhagolygon cyflogadwyedd, neu ailhyfforddi ac uwchsgilio mewn meysydd newydd a thwf uchel.
Heddiw, rwy'n lansio ein pecyn recriwtio a sgiliau newydd i gyflogwyr i ddangos ein bod ‘yn eich cornel'. Rydym yn gwneud hyn gyda chefnogaeth ein colegau a'n darparwyr cyflogadwyedd i helpu busnesau i gael gafael ar recriwtiaid newydd a'u hyfforddi, addasu sgiliau'r gweithlu presennol a chreu gweithleoedd cynhwysol lle y gall unigolion ffynnu a datblygu.
Cyn y pandemig, roedd gennym y gyfradd ddiweithdra isaf erioed a chyrhaeddodd anweithgarwch economaidd y lefel isaf erioed yn 2018. Roedd lefelau pobl anabl mewn gwaith yn codi ac roedd lefelau'r bobl ifanc 19–24 oed nad ydynt mewn addysg neu gyflogaeth wedi gostwng yn gyson. Ers 2014 rydym wedi cefnogi 27,080 o bobl i gael gwaith a 144,440 o bobl i ennill cymwysterau, drwy fuddsoddiad o £861 miliwn gan raglenni cronfeydd strwythurol yr UE.
Ers 2008, mae cyfran y bobl oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau bron wedi haneru, a chynyddodd y rhai â sgiliau lefel addysg uwch 11 y cant. Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a'r bwlch cyflog rhwng gweithwyr Gwyn a gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ymhlith gweithwyr llawn amser ar eu lefelau isaf erioed, ac yn llai na'r DU yn ei chyfanrwydd. Yn 2018–19, roedd dros hanner yr holl benodiadau cyhoeddus newydd yng Nghymru yn fenywod.
Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae'r pandemig wedi ein gwthio tuag at amgylchiadau hynod heriol, gan ysgogi cyfnod o newidiadau mawr ac aflonyddu yn y farchnad lafur. Mae wedi amlygu a chryfhau tueddiadau cymdeithasol presennol megis diogelwch gwaith ac incwm, poblogaeth sy'n heneiddio a'r risg isorweddol o afiechyd, newidiadau diwydiannol yn yr economi a digideiddio. Mae’r sefyllfa’n cael ei gwaethygu ymhellach gan effeithiau ymadael â’r UE ar swyddi, gan gynnwys gweithwyr o dramor yn gadael.
Nid yw'r effaith ar y farchnad lafur wedi effeithio ar bob grŵp i’r un graddau. Y rheini sydd wedi dioddef fwyaf yw’r rhai sy'n ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf neu sydd â lefelau is o gymwysterau, y rhai mewn swyddi ansicr, sgil isel â chyflog isel, neu'r rhai sy'n wynebu anfantais arall yn y farchnad lafur, gan gynnwys pobl anabl, Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a grwpiau lleiafrifol eraill.
Er ein bod yn disgwyl i’r amodau economaidd wella, rydym yn disgwyl y bydd diwedd ymyriadau presennol ar gyfer diogelu swyddi, ymadawiad y DU â’r UE ac ansicrwydd economaidd parhaus yn fyd-eang yn parhau i effeithio ar swyddi, yr oriau a weithir a nifer y bobl sy’n cael eu recriwtio. Mae'r rhain, ynghyd â'r newidiadau i weithio gartref a gweithio o bell, a newidiadau technolegol sy'n ffafrio gweithwyr a sgiliau uwch, yn peri’r risg o ragor o bolareiddio yn y farchnad lafur.
Yn ogystal, gyda'n cyfrifoldebau datganoledig newydd am dreth incwm yng Nghymru, mae helpu pobl i sicrhau cyfleoedd gwerth chweil yn hanfodol i gynnal y refeniw sy'n ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Gan gydnabod yr heriau hyn, ym mis Gorffennaf 2020 gwnaethom fuddsoddi £40 miliwn mewn swyddi a sgiliau i roi hwb i wasanaethau a rhaglenni rheng flaen, gan ymateb i'r niferoedd posibl o unigolion sydd mewn perygl o gael eu diswyddo, neu sy’n chwilio am swyddi neu sgiliau newydd neu wahanol.
Mae’r Ymrwymiad COVID eisoes wedi cefnogi 22,000 o unigolion gyda chyngor ac arweiniad gyrfa drwy Gymru'n Gweithio, gyda Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol yn cefnogi sgiliau cyflogadwyedd 9,000 o bobl, gyda bron i 4,000 yn dechrau gweithio yn ystod y pandemig. Gwnaeth 6,000 o bobl gais am Gyfrif Dysgu Personol, dyfarnwyd 2,000 o grantiau hyfforddiant galwedigaethol o dan y cynllun ReAct, a recriwtiwyd 1,300 o prentisiaid drwy gymhellion ar gyfer cyflogwyr.
Nid ydym yn diystyru maint yr effaith negyddol ar y farchnad lafur ac ar incwm a llesiant unigolion. Drwy ein profiad o ddirwasgiadau blaenorol rydym yn gwybod y bydd pobl ifanc yn dioddef effeithiau’r argyfwng hwn am flynyddoedd lawer. Gwyddom hefyd y bydd helpu pobl i osgoi diweithdra, yn enwedig am gyfnodau hir, yn elfen allweddol wrth ddelio â goblygiadau iechyd meddwl yr argyfwng hwn.
Wrth symud ymlaen, bydd angen canolbwyntio’n ddi-dor ar:
- bobl ifanc yn pontio i ddysgu pellach, cyflogaeth neu entrepreneuriaeth;
- dod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd y rhai a ddioddefodd yr effeithiau mwyaf andwyol i wella eu cyflogadwyedd;
- cefnogi'r gweithlu presennol i ailgychwyn neu ailsgilio yn dilyn diweithdra neu gyfnod ar ffyrlo;
- harneisio potensial dysgu gydol oes i datblygu ein sylfaen sgiliau digidol, peirianneg uwch a gwyrdd a chefnogi'r economi sylfaenol i ffynnu;
- hyrwyddo gwaith teg, hybu iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle a galluogi dilyniant o ran swyddi a thâl.
Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i fanteisio i’r eithaf ar fuddsoddiadau Llywodraeth y DU mewn cymorth cyflogaeth yng Nghymru, drwy ychwanegu gwerth at y cynnig cenedlaethol. Byddwn yn alinio ac yn canolbwyntio ein polisïau a'n rhaglenni sgiliau a chyflogadwyedd i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau heriol hyn, yng nghyd-destun cymorth ariannol gan Ewrop ar gyfer Cymru yn dod i ben ac effeithiau economaidd ymadael â'r UE. Bydd angen inni hefyd sicrhau'r arweinyddiaeth, y cydweithredu a'r seilwaith rhanbarthol gorau posibl er mwyn manteisio ar botensial buddsoddiadau rhanbarthol, fel Bargeinion Dinas a Thwf, i gyflawni ein hagenda.
Heddiw, rwy’n galw ar arweinwyr a chyflogwyr Cymru, ein partneriaid cymdeithasol, y rhwydwaith cyflogadwyedd a sgiliau a'n colegau a'n sefydliadau addysg uwch ym mhob cwr o Gymru i gydweithio i helpu ein pobl, ein busnesau a'n cymunedau i oresgyn a ffynnu.
Rwy'n hyderus y bydd ein ffocws parhaus ar swyddi a sgiliau o fudd i bobl Cymru. Byddaf yn parhau i ddarparu diweddariadau i Aelodau am ein cynnydd.