Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae’r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, sy'n cael ei chynnal rhwng 9 a 16 Hydref 2021, yn gyfle nid yn unig i nodi'r gwaith pwysig sy'n digwydd ledled Cymru i fynd i'r afael â throseddau casineb a chefnogi dioddefwyr, ond hefyd i anfon neges glir ac unedig o bob sector nad oes gan lle i gasineb yng Nghymru.
Yn ystod yr wythnos hon, mae'r heddlu, awdurdodau lleol, y trydydd sector, ac aelodau o'r gymuned yn cydweithio ar amrywiaeth o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o agweddau atgas ar-lein ac all-lein a'r cymorth sydd ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef neu sydd wedi gweld troseddau casineb yn digwydd.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, darparwr ein Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, yn cynnal rhith ddigwyddiad heddiw: 'Y Ffenomenon Casineb Ar-lein – Tynnu sylw at gasineb ar-lein yng Nghymru'. Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed gan banel o arbenigwyr sydd â phrofiad o gasineb ar-lein, a fydd yn trafod offer a dulliau i fynd i'r afael â'r mater. Mae casineb ar-lein yn parhau i fod yn broblem gynyddol yn ein cymdeithas, ac mae nifer o ddigwyddiadau proffil uchel eleni yn dangos mor aml y mae’n digwydd a pha mor ddinistriol y gall fod. Rydym wedi ymrwymo yn ein Rhaglen Lywodraethu i weithio gyda chwmnïau technoleg a chyfryngau cymdeithasol i fynd i'r afael â throseddau casineb a chamwybodaeth ar-lein.
Cyhoeddwyd Ystadegau Cenedlaethol Troseddau Casineb Cymru a Lloegr 2020/2021 gan y Swyddfa Gartref heddiw. Mae'r ystadegau'n dangos cynnydd o 16% mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o'i gymharu â 2019/2020. Mae hyn yn cymharu â chynnydd cyffredinol o 9% ar draws Cymru a Lloegr gyda’i gilydd. Cofnodwyd 4,654 o droseddau casineb ar draws pedair Ardal Heddlu Cymru:
- 3,052 (66%) yn droseddau casineb hiliol;
- 884 (19%) yn droseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol;
- 150 (3%) yn droseddau casineb crefydd;
- 504 (11%) yn droseddau casineb anabledd; a
- 173 (4%) yn droseddau casineb trawsryweddol.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid nifer o brosiectau yn ystod y cyfnod adrodd hwn i annog pobl i roi gwybod am gasineb, a gallai hynny esbonio'r cynnydd yn rhannol.
Bu prosiectau’r Grant Cymunedau Lleiafrifol i fynd i’r afael â Throseddau Casineb, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth a chodi hyder dioddefwyr i roi gwybod am droseddau casineb, gan addasu i heriau pandemig Covid-19.
Ym mis Mawrth 2021, lansiwyd ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru. Arweiniodd yr ymgyrch gychwynnol fer at gynnydd o 122% mewn galwadau i Cymorth i Ddioddefwyr o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y momentwm hwn gydag ail gam yn yr ymgyrch sy’n dechrau yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2021. Er gwaethaf pwysigrwydd cofnodi'r wythnos hon yn flynyddol, rydym yn dweud yn glir fod troseddau casineb yn effeithio ar ddioddefwyr drwy gydol y flwyddyn. Felly, bydd ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru yn rhedeg yn barhaus rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022 ar gyfer yr ail gam hwn.
Serch hynny, nid yw'r gwaith rhagweithiol hwn yn egluro'n llawn y cynnydd mewn troseddau casineb ledled Cymru. Mae'n amlwg bod gennym lawer i'w wneud o hyd i sicrhau nad yw ein cymunedau'n goddef casineb a’n bod yn adeiladu'r gymdeithas fwy caredig yr ydym i gyd am fyw ynddi.
Parhaodd ein Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth i ddarparu cymorth penodol i ddioddefwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â chryn dipyn o waith a hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ar draws sectorau. Rydym wedi ariannu'r Ganolfan hon ers bron i 8 mlynedd a chyn bo hir byddwn yn comisiynu gwasanaeth olynol am o leiaf y 3 blynedd nesaf o 1 Ebrill 2022.
Rydym yn parhau i ariannu ein Prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion i sicrhau bod disgyblion ac athrawon mewn tua 160 o ysgolion ledled Cymru yn cael eu dysgu i feddwl yn feirniadol a chael hyfforddiant ar ymdrin â throseddau casineb cyn mis Mawrth 2022. Mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol hefyd yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o fonitro a lliniaru tensiynau cymunedol. Mae adolygiad cyflym o'r rhaglen yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a bydd yn asesu a yw'r rhaglen mor effeithiol ag y gall fod wrth sicrhau cydlyniant cymunedol ledled Cymru. Rydym yn disgwyl canfyddiadau'r adolygiad yn gynnar yn 2022.
Mae ein hymgysylltiad wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ wedi dangos yn glir bod mynd i'r afael â chasineb a rhagfarn yn flaenoriaeth i bobl Cymru. Ochr yn ochr â'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021-2026, rydym yn ymgorffori camau gweithredu i ddileu casineb a rhagfarn yn ein gwaith i hyrwyddo a gwella cydraddoldeb yn ystod tymor y Senedd hwn. Fel yr amlinellais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru ar 28 Medi 2021, rydym hefyd wedi ymrwymo i gryfhau'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod yn y stryd a'r gweithle, yn ogystal â'r cartref, er mwyn i Gymru fod y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Er gwaethaf y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar, ni allwn anwybyddu'r diffygion yng nghyfraith bresennol y DU ar droseddau casineb. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi annog Llywodraeth y DU i wella deddfwriaeth troseddau casineb drwy:
- sicrhau cydraddoldeb â grwpiau eraill mewn darpariaethau troseddau casineb ar gyfer cymunedau LHDTC+ a phobl anabl;
- cyflwyno casineb at fenywod fel categori o droseddau casineb;
- cyflymu erlyniadau; a
- gwella cyfraddau boddhad dioddefwyr â phrosesau cyfiawnder troseddol.
Disgwylir i Gomisiwn y Gyfraith gyhoeddi ei ganfyddiadau'n fuan yn dilyn adolygiad dwy flynedd o gyfraith troseddau casineb y DU. Rydym yn annog Comisiwn y Gyfraith a Llywodraeth y DU i gyhoeddi'r adolygiad ac ymateb y Llywodraeth ar fyrder, a chyflwyno deddfwriaeth yn ystod y sesiwn Seneddol hon.
Roedd yn siomedig iawn gweld Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn diystyru ar unwaith ychwanegu casineb at fenywod fel trosedd casineb, yn enwedig cyn i Gomisiwn y Gyfraith gwblhau ei ymchwil allweddol. Mae'n hanfodol edrych yn llawn ar yr achos dros wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb a bod argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu os yw'n amlwg y byddai gwneud hynny'n cynnig gwell amddiffyniad a thegwch.
Nid oes lle i gasineb yng Nghymru. Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi profi trosedd casineb – neu unrhyw un sy'n ei weld - i roi gwybod amdano, naill ai drwy'r heddlu neu'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth. Ewch i Mae casineb yn brifo Cymru | LLYW.CYMRU i gael rhagor o wybodaeth. Gadewch i ni herio troseddau casineb gyda'n gilydd.