Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cael ei gadeirio gan David Melding AC, yn cynnal ymchwiliad i Fil Cymru Drafft Llywodraeth y DU. Mae'r Prif Weinidog wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig cyn iddo fynychu cyfarfod y Pwyllgor ddydd Llun 16 Tachwedd. Mae copi wedi'i atodi er gwybodaeth i'r Aelodau.