Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y Gyllideb ddrafft rwy’n ei chyhoeddi heddiw, fe welwch fanylion ein cynlluniau ar gyfer trethi datganoledig a rhannol ddatganoledig Cymru a sut y byddant yn cefnogi’n blaenoriaethau gwariant ac yn creu system drethu decach a mwy blaengar yng Nghymru.

Mae’r datganiad hwn yn disgrifio’r cynlluniau hyn, gan gynnwys rhai newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno o 22 Rhagfyr.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn ystod y Senedd hon.  Felly, fel y disgrifir yn y gyllideb ddrafft, 10 ceiniog o hyd fydd y tair gyfradd – y cyfraddau sylfaenol, uwch a’r ychwanegol – ar gyfer 2021-22.  Mae hynny’n golygu y bydd trethdalwyr Cymru’n dal i dalu yr un cyfraddau â phobl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Fel rhan o’n hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth am ein trethi Cymreig, a chysylltiadau’r dreth hon â gwariant cyhoeddus, mae ein gwefan nawr yn gallu cyfrif faint o dreth Gymreig sydd gan dalwr treth incwm o Gymru i’w thalu a gweld sut mae’r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dyma ddolen i gyfrifiannell Cyfraddau Treth Incwm Cymru:

https://llyw.cymru/cyfrifo-gwariant-treth-incwm-cymru

Treth Trafodiadau Tir

O 22 Rhagfyr 2020, rwy’n codi pob un o fandiau cyfraddau treth preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir 1 pwynt canran.  Bydd hyn yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd. Telir y cyfraddau uwch fel arfer pan brynir cartrefi na ydynt yn brif annedd y prynwr, ond, er enghraifft, i ddarparu ail gartref, i’w ddefnyddio fel rhan o fusnes gosod llety gwyliau neu ar gyfer eu gosod am dymor hwy.

Bydd prynwyr eiddo preswyl sy’n gorfod talu’r cyfraddau preswyl uwch nawr yn talu 4% (i fyny o 3%) ychwanegol ar gost yr eiddo, hynny ar ben y prif gyfraddau preswyl.

Rwyf hefyd yn codi trothwy cychwyn talu’r Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo amhreswyl a brynir 50%.  Ni fydd busnesau bellach, gan fwyaf, yn talu treth ar brynu eiddo sy’n costio hyd at £225,000.  Bydd hyn yn help bychan ond pwysig i fusnesau.

Bydd y newidiadau’n golygu y bydd llai o fusnesau’n gorfod talu treth wrth brynu eiddo masnachol neu wrth lofnodi prydles newydd. Bydd busnesau sy’n prynu eiddo ac sy’n dal i orfod talu treth yn gweld eu treth yn gostwng gan sicrhau arbedion mwy wrth brynu eiddo rhatach.  Mae’r newidiadau’n golygu mai Cymru fydd â’r trothwy uchaf o ran cychwyn talu trethi ar eiddo amhreswyl yn y DU.  Wrth inni gamu o gysgod y pandemig, mae’r newidiadau hyn yn tanlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau sy’n gweithredu yn ein heconomi sylfaen.  Bydd yn rhoi rhywfaint o help hefyd i’r busnesau hynny sy’n dechrau neu’n ehangu, a gallai helpu hefyd y rheini sy’n gorfod gwerthu eiddo masnachol o ganlyniad i effeithiau’r pandemig.

Rwyf hefyd yn newid y ‘rhent berthnasol’ sy’n ymwneud â thrafodiadau prynu prydles amhreswyl, er mwyn adlewyrchu’r cynnydd i’r trothwy. Bydd swm y rhent berthnasol yn cynyddu o £9,000 i £13,000. Daw’r newid hwn i rym yn gynnar yn Chwefror 2021, eto yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

Amcangyfrifir y bydd effaith net y newidiadau hyn yn darparu £4 miliwn ychwanegol eleni, ac yna tua £13 miliwn bob blwyddyn. Fel yr wyf wedi amlinellu yn ddogfen naratif y Gyllideb Ddrafft 2021/22, bydd y refeniw ychwanegol codir gan y cyfraddau preswyl uwch newydd yn cefnogi blaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru, yn helpu mwy o bobl cael tai cynnes, o ansawdd da.  Bydd y newidiadau yn ailfantoli baich y Dreth Trafodiadau Tir, gan leihau’r gost i fusnesau i’w helpu i adfer yr economi ar ôl pandemig COVID-19 a chynyddu costau treth y rheini sy’n atebol am y cyfraddau preswyl uwch.

Mae Atodiad 1 yn dangos y newidiadau i’r cyfraddau a’r bandiau a ddaw i rym ar 22 Rhagfyr yn fanylach.  Caiff y Rheoliadau a’u Memorandwm Esboniadol sy’n disgrifio manylion y newidiadau hyn eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

Rwy’n cadarnhau heddiw hefyd, na fydd Llywodraeth Cymru yn estyn y gostyngiad dros dro i’r Dreth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf a delir, yn fras, ar eiddo preswyl a ddefnyddir fel prif annedd, heibio’r dyddiad gorffen gwreiddiol o 31 Mawrth 2021.

Mae hyn yn golygu na chaiff trafodiadau a fydd yn cael eu cwblhau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021 yn cael elwa ar y trothwy uwch.  Roeddem yn glir mai mesur dros dro fyddai hyn i gefnogi’r farchnad dai ar adeg digynsail. Bydd dychwelyd i’r cyfraddau a’r bandiau a fodolai cyn 27 Gorffennaf yn golygu unwaith eto mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU fydd â throthwy dechrau sy’n uwch na phris cyfartalog cartref.  Bydd hyn yn golygu na fydd y rhan fwyaf o brynwyr cartrefi yn gorfod talu Treth Trafodiadau Tir gan gynnal agwedd flaengar y Llywodraeth hon at drethi.

I weld y prif gyfraddau preswyl tan 31 Mawrth 2021 a’r rheini o 1 Ebrill 2021, ewch i https://llyw.cymru/y-cyfraddau-ar-bandiau-trethi-ar-gyfer-y-dreth-trafodiadau-tir

Treth Gwarediadau Tirlenwi

O 1 Ebrill 2021, byddaf yn codi cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â chwyddiant.  Bydd hyn yn gyson â chyfraddau treth tirlenwi 2021-22 y DU, i gefnogi amcan y polisi o leihau’r gwastraff y ceir gwared arno mewn  safleoedd tirlenwi, ac i’n helpu i gyflawni’r nod o fod yn wlad ddi-wastraff.

Bu’n bwysig cynnal sefydlogrwydd y cyfraddau hyn o gofio’r ansicrwydd economaidd yn sgil y pandemig ac ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Trwy bennu cyfraddau sy’n gyson â threth tirlenwi’r DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn parhau i elwa ar refeniw’r dreth tra’n lleihau’r risg o weld gwastraff yn cael ei symud ar draws ffiniau.

Mae’r cyfraddau newydd o 1 Ebrill 2021 i’w gweld yn Atodiad 2.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Atodiad 1

Treth Trafodiadau Tir

Newidiadau mewn grym o 22 Rhagfyr 2020

Tabl 1: Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau a Bandiau o 22 Rhagfyr 2020 ymlaen

Cyfraddau uwch trafodiadau eiddo preswyl

 

Band treth

 

 

 

Y gydnabyddiaeth berthnasol

 

 

Y gyfradd dreth ganrannol

 

Y band treth cyntaf

 

Nid mwy na £180,000

 

    4%

Yr ail fand treth

Mwy na £180,000 ond nid mwy na £250,000

 

    7.5%

Y trydydd band treth

Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000

    9%

Y pedwerydd band treth

Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000

    11.5%

Y pumed band treth

Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000

    14%

 

 

Y chweched band treth

Mwy na £1,500,000

     16%

 

 

 

Tabl 2: Trafodiadau Eiddo Amhreswyl – Cyfraddau a Bandiau o 22 Rhagfyr 2020 ymlaen

Trafodiadau eiddo amhreswyl

 

Band treth

 

 

 

Y gydnabyddiaeth berthnasol

 

 

Y gyfradd dreth ganrannol

 

Y band cyfradd sero

 

Nid mwy na £225,000

 

    0%

Y band treth cyntaf

Mwy na £225,000 ond nid mwy na £250,000

 

    1%

Yr ail fand treth

Mwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,000

    5%

Y trydydd band treth

Mwy na £1,000,000

   6%

 

 

 

Tabl 3: Cydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent – Cyfraddau a Bandiau o 22 Rhagfyr 2020 ymlaen

Cydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent

 

Band treth

 

 

 

Y gydnabyddiaeth berthnasol

 

 

Y gyfradd dreth ganrannol

 

Band cyfradd sero lesoedd amhreswyl

 

Nid mwy na £225,000

 

    0%

Y band treth cyntaf

Mwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,000

 

    1%

Yr ail fand treth

Mwy na £2,000,000

    2%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2

Tabl 4: Treth Gwarediadau Tirlenwi o 1 Ebrill 2021.

Cyfradd 

2021-22

Cyfradd safonol

£96.70 y dunnell

Cyfradd Is

£3.10 y dunnell

Cyfradd gwarediadau heb awdurdod

£145.05 y dunnell