Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni symud y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig, rydym yn parhau i ystyried ein ffordd o reoli mesurau iechyd ar y ffin.

Nid yw’r pandemig drosodd ond rydym ar ddechrau cyfnod gwahanol wrth inni ddysgu i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws yn y tymor hwy. Mae risg o hyd y gall amrywiolion newydd sy’n peri pryder ddod i’r amlwg ac mae angen inni fod yn barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw. Fel y mae’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) wedi’i nodi, nid oes unrhyw reswm pam y dylai amrywiolion yn y dyfodol fod yn debyg neu’n llai difrifol nag Omicron.

Rwy’n hynod o siomedig bod Llywodraeth y DU yn bwriadu dileu’r holl fesurau sy’n weddill ar y ffin, gan gynnwys cael gwared â’r ffurflen lleoli teithwyr a gofynion profi.

Rydym yn gwybod, os caiff y ffurflen hon ei thynnu’n ôl, y bydd yn cymryd tair wythnos i’w rhoi ar waith eto. Bydd hyn yn gwneud profion wrth gefn ac ynysu gartref yn anymarferol pe bai angen inni fonitro teithwyr o dramor, gan na fyddwn yn gwybod bellach pa deithwyr sy’n cyrraedd o ardaloedd sy’n peri pryder na’u manylion cyswllt.

Rydym yn credu bod rhaid i’r DU gynnal ar y cyd gasgliad ymarferol o fesurau iechyd ar y ffin gan gynnwys profion cyn ymadael, gwaharddiadau hedfan, ynysu gartref a gwestai ynysu. Bydd mesurau o’r fath yn ein helpu i reoli bygythiadau yn sgil y coronafeirws yn y dyfodol a sicrhau y gall pob un o wledydd y DU ymateb yn gyflym i unrhyw fygythiad newydd ac unrhyw fygythiad sy’n dod i’r amlwg – megis amrywiolyn newydd sy’n peri pryder yn cyrraedd y DU.

Mae system wyliadwriaeth sy’n gysylltiedig â theithio rhyngwladol yn hanfodol i’n helpu i nodi unrhyw amrywiolyn newydd yn gyflym ac mor gynnar â phosibl. Mae penderfyniadau blaenorol i ddiwygio’r mesurau iechyd ar y ffin, a arweiniwyd gan Lywodraeth y DU, wedi cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i ymateb yn effeithiol. Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio ag ariannu rhaglenni gwyliadwriaeth ar y ffin yn cyfyngu’n sylweddol ar ein gallu i nodi amrywiolion newydd o’r coronafeirws.

Wrth i wledydd o amgylch y byd gwtogi eu mesurau profi a dilyniannu yn y dyfodol, bydd y gallu hwn i nodi amrywiolion newydd yn lleihau ymhellach fyth.

Rydym yn parhau i ddadlau dros ddull mwy rhagofalus drwy gadw mesurau diogelu iechyd y cyhoedd o’r fath oherwydd y risg barhaus o fewnforio amrywiolion newydd drwy deithio rhyngwladol.

Serch hynny, oherwydd yr anawsterau ymarferol sylweddol a fyddai’n cael eu hachosi gan drefniadau gwahanol i’r rhai yn Lloegr yn y maes hwn – mae nifer sylweddol o deithwyr o Gymru yn defnyddio meysydd awyr a phorthladdoedd Lloegr – rydym, yn anfoddog, yn parhau i gadw cysondeb â’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU ac y cytunodd y llywodraethau datganoledig eraill arnynt.

Gan fod rheoliadau a gofynion teithio wedi’u dileu, mae mwy o gyfle i bobl fynd yn ôl at wneud penderfyniadau yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain. Ar y sail honno, ac oherwydd llwyddiant ein rhaglen frechu, ni fyddwn mwyach yn cynghori pobl mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylent deithio dramor.

Serch hynny, rydym yn annog pobl i fod yn ofalus o hyd. Dylai pawb sy’n ystyried teithio dramor ystyried eu hamgylchiadau personol a theuluol eu hunain. Dylent ystyried sut y gallant gadw eu hunain yn ddiogel pan fyddant yn teithio, yn enwedig y rheini sy’n agored i niwed.  

Os ydych chi’n bwriadu teithio dramor:

  • Ewch i wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i weld y gofynion penodol ar gyfer cael mynediad i’r wlad rydych yn teithio iddi – mae’r gofynion hyn yn cynnwys brechlynnau Covid-19 a gofynion profi.
  • Edrychwch beth yw’r gofynion penodol ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed yn y wlad rydych yn teithio iddi.
  • Edrychwch beth yw’r sefyllfa o ran y coronafeirws yn y wlad rydych yn teithio iddi, cyn ichi deithio.
  • Cadwch yn ddiogel pan fyddwch i ffwrdd drwy ddilyn yr un mesurau sy’n eich helpu i gadw’n ddiogel pan rydych chi gartref.
  • Edrychwch ar y gofynion mynediad ar gyfer dychwelyd adref i’r DU, a’u dilyn – mae’r wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
  • Ar ôl i chi ddychwelyd adref, dylech ystyried cymryd camau ychwanegol i’ch cadw chi, eich ffrindiau a’ch teulu’n ddiogel, gan gynnwys gwneud prawf llif unffordd cyn ymweld â phobl sy’n agored i niwed; gadewch fwlch o amser rhwng ymweliadau a digwyddiadau cymdeithasol, ac os oes gennych unrhyw symptomau coronafeirws, dylech hunanynysu a gwneud prawf.