Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae tanau yng Nghymru ar drai ers talwm, ac erbyn hyn maent ar eu hisaf.  Mae sicrhau bod y duedd honno'n parhau'n gofyn am ddealltwriaeth lawn o'r newid yn risgiau tân, a chamau gweithredu gan ein Gwasanaethau Tân ac Achub i fynd i'r afael â'r risgiau hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos tanau yn y cartref, sy'n cyfrif am y mwyafrif o danau ac anafiadau o dân.

Y llynedd canfuwyd tuedd sy'n peri pryder mewn tanau trydanol yn y cartref.  Yn wahanol i ffynonellau hysbys eraill o dân, mae'r rhain ar gynnydd.  Gwnaethom ymrwymiad felly i ymchwilio i'r cynnydd hwn, ac rwyf bellach yn gallu cyhoeddi canfyddiadau'r gwaith hwnnw.  Mae ar gael yn:-

https://llyw.cymru/topics/people-and-communities/communities/safety/fire/?lang=cy  
 
Er bod y mwyafrif o danau mewn anheddau'n deillio o offer domestig, fe'u hachosir yn bennaf gan ymddygiadau anniogel megis rhywbeth yn tarfu ar berson sy'n coginio neu osod gwrthrychu'n rhy agos at y gwres.  Lleiafrif bach yn unig a achosir gan offer trydanol anniogel eu hunain. Mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru felly'n canolbwyntio llawer o'u gweithgarwch atal ar godi ymwybyddiaeth o risgiau tân a newid ymddygiad pobl.  Mae hyn wedi cyfrannu'n sylweddol at y gostyngiad mewn tanau damweiniol mewn cartrefi dros y 15 mlynedd ddiwethaf.

Er hynny, yn achos tanau lle nodir y ffynhonnell fel  “dosbarthiad trydanol” gwelwyd tuedd i'r gwrthwyneb.  Mae hyn yn cynnwys tanau sy'n dechrau yn y cyflenwad trydan mewn cartrefi: Mesuryddion trydan, blychau ffiwsiau ac unedau defnyddwyr, gwifro ar gyfer goleuadau a socedi, a'r gwifrau ar gyfer offer.   Rydym wedi canolbwyntio ar y rhain yn ystod ein hymchwil, sydd wedi edrych yn fanwl ar natur y cynnydd yr ydym wedi'i weld a'r rhesymau drosto.  Ymarfer manwl oedd hwn sydd wedi cynnwys craffu ar adroddiadau am gannoedd o danau unigol, yn ogystal â data o Gymru a mannau eraill.  

Dylwn bwysleisio i'r ymchwil hon ddechrau cyn Twr Grenfell ac nad oes cysylltiad rhwng y ddau beth.  Digwyddodd y trasiedi hwnnw oherwydd pa mor gyflym y lledaenodd y tân, ddim paham y dechreuodd.  Ac er ei bod yn ymddangos mai eitem o offer yn y cartref oedd ffynhonnell y tân, nid oes dim byd yn awgrymu bod y tân i'w briodoli i'r gosodiad trydanol yn y twr.

Pan godwyd y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn y llynedd roedd pobl yn dyfalu bod y cynnydd yn ymwneud â'r cynnydd yn y defnydd o ddyfeisiau symudol megis, ffonau llechi, ac e-sigaréts.  Er hynny, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw hyn yn wir.  Bu modd inni hefyd ddiystyru cysylltiadau ag offer trydanol eraill, ac nid yw'n ymddangos bod cysylltiad rhwng y cynnydd yn y tanau hyn a phoblogaeth sy'n heneiddio.  

Er ein bod wedi llwyddo i ddiystyru'r ffactorau hyn, nid ydym wedi llwyddo i nodi rheswm pendant dros y cynnydd hwn.  Mae'r duedd hon yn ymwneud â thanau yn ardal ddaearyddol De Cymru ac nid yw'n cael ei dyblygu'n gyson mewn mannau eraill yn y DU, neu yn yr UDA neu Iwerddon.   Mae rhyw un rhan o dair o'r tanau dosbarthiad trydanol yn Ne Cymru'n ymwneud â blychau ffiwsiau neu unedau defnyddwyr, ac mae'n rhesymol tybio y gallai achosion y tanau hyn a thanau eraill mewn systemau dosbarthiad trydanol gynnwys defnyddio hen wifrau, gwifrau wedi'u difrodi neu ddiffygiol, defnyddio ffiwsiau â graddfa amhriodol, a gorlwytho socedi. Efallai y bydd cysylltiadau ag oedran y tai, deiliadaeth y tai a/neu amddifadedd ac nid oes modd dilysu hynny trwy ddefnyddio'r data sydd ar gael ar hyn o bryd.  Rhywbeth yr wyf yn disgwyl i'r Gwasanaethau Tân ac Achub ymchwilio iddo yw hwn.        

Beth bynnag fo'r union achosion, ymddengys fod tanau dosbarthiad trydanol yn deillio o osodiadau sy'n hen, yn ddiffygiol, neu sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n wael yn hytrach nag o'r mathau o faterion ymddygiadol y mae Gwasanaethau Tân ac Achub wedi canolbwyntio eu gwaith diogelwch yn y cartref arnynt.  Felly mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod y Gwasanaethau'n adolygu'r rhaglenni hyn yn unol â hynny.  Nid trydanwyr yw diffoddwyr tân ac ni ellir disgwyl iddynt drwsio namau - ond fe allant ac fe ddylent godi ymwybyddiaeth, nodi hen osodiadau neu osodiadau diffygiol, ac argymell camau unioni.

Mae'r cynnydd mewn tanau dosbarthiad trydanol yn sylweddol ac yn digwydd yn rheolaidd ac mae'n dal yn destun pryder. Er hynny, mae nifer y tanau hyn yn dal yn gymharol isel, ac nid yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod risg uwch o anaf o danau dosbarthiad trydanol nag o unrhyw dân damweiniol arall mewn annedd.  Nid yw grwpiau agored i niwed megis pobl hŷn mewn risg sylweddol fwy ychwaith.  Mae'r adroddiad hwn yn bwysig wrth feithrin dealltwriaeth o risgiau tân yn y cartref, ond ni ddylai fod yn destun pryder.   Rwyf yn ffyddiog y bydd ein gwasanaethau Tân ac achub yn gweithredu arno, a byddaf yn sicrhau bod fy swyddogion yn monitro eu cynnydd.