Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw i blant o bob cefndir gael y cychwyn gorau i’w bywydau a gwireddu eu potensial yn llwyr.
Er mwyn llwyddo i gyrraedd yr uchelgais hwn rydym yn buddsoddi ym maes datblygiad Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu oherwydd mae’n rhagfynegydd pwysig o’r cynnydd a wneir mewn llythrennedd yn ddiweddarach. Mae tystiolaeth yn dangos y gall sgiliau gwan o ran Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu gael effaith niweidiol ar amrywiaeth eang o ddeilliannau i blant fel ymddygiad, iechyd meddwl, ‘parodrwydd ar gyfer yr ysgol’, a chyflogadwyedd.
Mae’n bosibl i unrhyw blentyn, ni waeth lle y maen nhw’n byw na beth yw eu sefyllfa deuluol, fod angen cymorth ychwanegol i fynd i’r afael ag oedi neu anawsterau ynghylch Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu. Ein nod yw sicrhau bod gan blant ledled Cymru fynediad, os oes ei angen, at gymorth arbenigol o ansawdd yn y blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, a bod y cymorth hwnnw’n benodol i’r broblem ac ar gael i bawb ym mhobman.
Mae’r ddogfen rydw i’n ei chyhoeddi heddiw er mwyn ymgynghori arni, Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 2020-21, yn ceisio gwella’r ffordd y mae plant yng Nghymru’n cael eu cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.
Fe’i datblygwyd ar y cyd â Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Rhwydwaith Rhagoriaeth Glinigol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Dechrau’n Deg a’n cynorthwyodd i nodi’r camau y mae angen i ni eu cymryd dros y blynyddoedd i ddod.
Bydd y cynllun cyflawni trawslywodraethol hwn, sy’n cynnwys Addysg, Iechyd a ‘Polisi Cymdeithasol’ yn arwain ar ddull mwy cydgysylltiedig o ymgysylltu â theuluoedd, ac mae’n adeiladu ar bolisïau presennol a’r hyn sy’n gweithio.
Bydd y broses ymgynghori yn para 12 wythnos, gan ddod i ben ar 23 Ebrill 2020. Rydw i’n annog pawb, o weithwyr proffesiynol ym maes Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu i rieni a gofalwyr, i ymateb ac i’n helpu ni i saernïo cynllun a fydd yn codi proffil Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ac yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol ein plant.