Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae dechrau blwyddyn newydd fel arfer yn amser i ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a meddwl am ein gobeithion am yr hyn sydd i ddod dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Eleni, yn fwy nag erioed, mae llawer i’w ystyried a llawer i obeithio amdano.
Mae'r sefyllfa o ran Covid-19 yn parhau i fod yn ddifrifol gyda chyfraddau achosion yn uwch ledled Cymru a'r DU nag yr hoffem iddynt fod. Mae ein GIG o dan bwysau sylweddol o hyd, gyda phryderon am gyfraddau achosion yn y gymuned, derbyniadau i'r ysbyty a chapasiti o fewn gofal critigol a dwys. Mae'n bwysig inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r GIG.
Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig bod ein darparwyr cynlluniau gofal plant (gan gynnwys Dechrau'n Deg) a gwaith chwarae yn eglur ynghylch a all eu lleoliadau agor ai peidio, a pha fesurau y gallant eu cymryd i leihau'r risgiau i'w staff a'r plant y maent yn gofalu amdanynt.
Ledled Cymru, gall pob lleoliad gofal plant a gwaith chwarae aros ar agor, gan ddarparu gofal, cymorth, addysg gynnar a chyfleoedd chwarae cyfoethog i bob plentyn. Mae hyn yn cynnwys pob un o'n lleoliadau nas cynhelir megis gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd, ynghyd â lleoliadau gwaith chwarae a darpariaeth Dechrau'n Deg.
Lle mae ein lleoliadau nas cynhelir yn defnyddio adeiladau defnydd cymysg fel canolfannau cymunedol, addoldai neu ganolfannau hamdden, gallant barhau i weithredu lle mae'n amlwg bod angen gofal plant yn eu hardal leol. Gall lleoliadau nas cynhelir ar safleoedd ysgolion weithredu hefyd. Fodd bynnag, efallai y bydd cyfyngiadau lleol ar fynediad i rai o'r safleoedd hyn, a bydd angen i leoliadau weithio gyda'r rhai sy'n gyfrifol am yr adeiladau i'w hystyried. Gan fod lleoliadau gofal plant yn parhau i fod ar agor, gall y lleoliadau hynny sy'n cynnig darpariaeth feithrin y cyfnod sylfaen barhau i wneud hynny.
Bydd lleoliadau a gynhelir, neu feithrinfeydd ysgol, sy'n darparu addysg gynnar yn unig yn gyffredinol, yn gweithredu ar yr un sail ag ysgolion a dim ond ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed y byddant ar agor.
Rwy’n gwybod bod llawer o leoliadau yn pryderu ynghylch taliadau’n dod i ben pan na all plant fynychu, ac effaith hyn arnynt hwy a’u gallu i aros ar agor. Gellir parhau i ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant o dan Dechrau'n Deg, sy'n cael ei ariannu drwy Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru. Bydd cyllid y Cynnig Gofal Plant yn parhau i gael ei dalu ar sail oriau a archebwyd o dan rai amgylchiadau pan fo Covid-19 yn amharu ar wasanaethau gofal plant neu pan nad oes modd i blant fynychu. Dylai lleoliadau drafod eu hamgylchiadau â’u hawdurdod lleol. Efallai y bydd modd i awdurdodau lleol hefyd ddarparu rhywfaint o gyllid i helpu gyda chostau ychwanegol neu wneud iawn am incwm a gollwyd o ganlyniad i Covid-19.
Mae hefyd yn bwysig egluro i rieni y gall gofal plant anffurfiol fel yr hyn a ddarperir gan aelodau ehangach o'r teulu barhau lle nad oes unrhyw ddewisiadau eraill ar gael.
Mae mynediad at ofal plant a chyfleoedd chwarae o ansawdd uchel, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, yn cefnogi datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae hyn yn hanfodol i gefnogi datblygiad tymor hwy plant, eu parodrwydd ar gyfer yr ysgol a’u cyfleoedd bywyd. Rydym am sicrhau bod cynifer o blant â phosibl yn gallu parhau i fanteisio ar y ddarpariaeth a'r gefnogaeth honno. Rydym hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd cael gafael ar y cymorth hwn i rieni a theuluoedd.
Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bob amser mai dim ond pan fydd staff yn gallu gweithio yn y lleoliadau hynny y gall darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae redeg. Mae ein darparwyr gofal plant a gwaith chwarae wedi parhau i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i'n plant a'n pobl ifanc drwy gydol yr hyn sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn gyfnod hynod heriol. Rwy’n ddiolchgar tu hwnt am bopeth y maent wedi'i wneud, a'r cyfan y maent yn dal i'w wneud, i gefnogi plant a'u teuluoedd.
Yn ddealladwy, mae llawer o'n lleoliadau a'r staff sy'n gweithio ynddynt wedi mynegi pryderon ynghylch sut y gallant barhau i aros ar agor yng ngoleuni cyfraddau presennol Covid-19 ledled Cymru. Yn benodol, codwyd pryderon am y risgiau o ran yr amrywiolyn newydd o Covid-19.
Cyhoeddodd ein Grŵp Cynghori Technegol grynodeb o'r dystiolaeth ynglŷn â hyn a'r sefyllfa o ran addysg ar 8 Ionawr[1]. Er bod hyn wedi'i anelu'n bennaf at leoliadau addysg, mae llawer o'r canfyddiadau'n berthnasol i ofal plant.
Nid yw'n glir eto a yw'r lledaeniad cyflymach a welwyd gyda'r amrywiolyn hwn yn gyson ar draws grwpiau oedran, neu a oes mwy o gynnydd mewn trosglwyddo o'i gymharu ag amrywiolion eraill mewn rhai grwpiau oedran. Fodd bynnag, mae'r data'n dangos bod achosion yn parhau'n is mewn plant a phobl ifanc nag oedolion, a bod nifer yr achosion ymhlith plant llai na 5 oed a'r rhai rhwng 5 ac 11 oed yn gymharol isel. Yn gyffredinol, dim ond niferoedd cymharol isel o achosion positif ymhlith staff a phlant sydd wedi'u hadrodd i Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'n bwysig hefyd ein bod yn deall nad oes tystiolaeth bod yr amrywiolyn newydd yn cynyddu'r tebygolrwydd o ganlyniadau iechyd gwaeth i blant neu oedolion unigol, er bod angen parhau i fod yn gwbl ymwybodol o'r dymuniad i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei amddiffyn rhag niwed y gellir ei osgoi.
Fodd bynnag, mae'r amrywiolyn newydd yn parhau i fod yn destun pryder mawr, ac er mwyn cadw R ar neu islaw 1 bydd angen i bob un ohonom wneud mwy i sicrhau ein bod yn dilyn y cyngor a'r arweiniad ar y camau y dylem fod yn eu cymryd ar y cyd ac yn unigol. Ein hymyriadau anfferyllol presennol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o leihau'r risg o drosglwyddo, gan gynnwys y rhai sydd eisoes ar waith mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae. Mae'r rhain yn cynnwys glynu'n ofalus at fesurau ynysu a phrofi prydlon os bydd symptomau, cydweithredu â’r swyddogion profi ac olrhain, golchi dwylo, hylendid arwynebedd, awyru ystafelloedd, ymbellhau oddi wrth staff eraill a defnydd priodol o orchuddion wyneb gan rieni a gofalwyr. Dylai lleoliadau geisio gwneud cymaint o ddefnydd â phosibl o'u gofod awyr agored lle bynnag y bo cyfle.
Dylai lleoliadau hefyd fod yn sicrhau bod plant yn aros yn eu grwpiau cyswllt, gyda chysondeb o ran y plant a'r staff. Lle y bo'n bosibl, mae grwpiau cyswllt llai yn well gan eu bod yn lleihau lefelau cymysgu cymdeithasol ymhellach; mae eu maint yn golygu bod lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae wedi bod yn dda iawn am reoli maint y grwpiau cyswllt hyd yma.
Rydym wedi darparu canllawiau ar y Mesurau Diogelu[2] y gall lleoliadau gofal plant eu rhoi ar waith i'w cynorthwyo i liniaru risgiau ac mae arolwg o leoliadau cofrestredig nas cynhelir a gynhaliwyd y llynedd yn awgrymu eu bod yn gallu ac yn barod i weithredu'r mathau hyn o fesurau.
Gan edrych y tu hwnt i fesurau cyffredinol, mae asesiadau risg yn y gweithle ar gael i aelodau unigol o staff a byddem yn annog pawb i gynnal rhain. Dylai'r aelodau staff hynny sydd wedi cael eu cynghori i aros gartref neu warchod eu hunain wneud hynny. Dylai plant sydd wedi cael eu cynghori i warchod eu hunain aros gartref hefyd.
Mae lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae eisoes wedi gwneud addasiadau sylweddol i'r ffordd y maent yn gweithredu i sicrhau y gallant barhau â'u gwaith pwysig o ofalu am ein plant a'n pobl ifanc. Gan weithio gyda'n gilydd a dilyn y rheolau, gallwn barhau i ddiogelu Cymru.
[1] https://llyw.cymru/y-grwp-cyngor-technegol-amrywiolyn-syn-peri-pryder-ac-addysg-yng-nghymru
[2] https://llyw.cymru/mesurau-diogelu-mewn-lleoliadau-gofal-plant-cadw-gofal-plant-yn-ddiogel