Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad i geisio barn ynghylch codi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer aelodau tribiwnlysoedd Cymru. Y dewisiadau a gyflwynwyd oedd codi’r oedran i 72 neu i 75. Yr oedran ymddeol ar gyfer y rhan fwyaf o aelodau tribiwnlysoedd Cymru ar hyn o bryd yw 70 ac nid yw hyn wedi'i adolygu ers 27 mlynedd.
Derbyniwyd 7 ymateb llawn i'r ymgynghoriad ac roedd 6 o'r rheini o blaid codi’r oedran gorfodol, gydag un yn nodi mai 75 ddylai’r oedran fod. Dim ond un ymatebydd oedd yn anghytuno â'r cynigion.
Ym mhob cyd-destun sy’n ymwneud â recriwtio i swyddi barnwrol rydym yn credu, fel yr awgrymir gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad, fod achos o blaid codi’r oedran ymddeol gorfodol i 75 oed. Rydym yn bwriadu ei godi ar gyfer aelodau tribiwnlysoedd Cymru fel y'u rhestrir yn adran 59 o Ddeddf Cymru 2017, ac ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Diben y polisi hwn yw sicrhau bod digon o arbenigedd barnwrol ar gael o hyd i fodloni'r galwadau ar ein tribiwnlysoedd. Byddwn yn parhau i weithio i wella amrywiaeth mewn swyddi barnwrol ac i gynnal hyder y cyhoedd yn uniondeb ac annibyniaeth ein system dribiwnlysoedd.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cynnal ymarfer ymgynghori tebyg ac mae'n cynnig codi'r oedran ymddeol gorfodol i 75 ar gyfer barnwyr ac aelodau tribiwnlysoedd mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Er bod tribiwnlysoedd yng Nghymru yn fater datganoledig, mae manteision o gael oedran ymddeol cyson ar gyfer barnwyr yng Nghymru ac yn Lloegr a bydd hyn yn ei gwneud yn haws trawsleoli rhwng ein dwy wlad. Mae'r adroddiad ar yr ymatebion i ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gael drwy'r ddolen isod.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithredu’r newidiadau drwy gyflwyno Bil yn Senedd y DU a byddwn yn manteisio ar y cyfle hwnnw i gynnwys darpariaeth ar gyfer Cymru.