Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol yn rhan allweddol o Genhadaeth ein Cenedl. I gyflawni hynny, mae cyrff llywodraethu'n chwarae rôl hanfodol fel llinell gyntaf atebolrwydd i'w hysgolion a'u cymunedau; gan roi'r her a'r cymorth sydd eu hangen ar benaethiaid i arwain eu hysgolion yn effeithiol.

Ym mis Tachwedd 2016, cafodd ymgynghoriad ei lansio ar gynigion a oedd i fod i adolygu a symleiddio fframwaith rheoleiddio llywodraethu a staffio ysgolion. Roedd yr ymgynghoriad wedi cynnig penodi llywodraethwyr yn ôl eu sgiliau, gan roi'r hyblygrwydd i gyrff llywodraethu wneud penderfyniadau eu hunain am eu cyfansoddiad a'u haelodaeth i ddiwallu anghenion penodol eu hysgolion. Cafwyd cyfradd ymateb uchel iawn i'r ymgynghoriad, gyda dros 400 o ymatebion i ddogfen gymhleth a oedd yn gofyn mwy na 80 o gwestiynau. Mae'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi cadarnhau lefel uchel o gefnogaeth i rai o'r cynigion allweddol. Er enghraifft, bu consensws cadarn o blaid cyrff llywodraethu sy'n seiliedig ar sgiliau. Ond roedd pryderon ynghylch y ffaith nad oedd hynny wedi'u diffinio'n ddigonol.

Derbyniwyd cefnogaeth i newid rheoliadau sy'n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu, ond nid oes unrhyw gonsensws clir o ran sut y gellid newid eu cyfansoddiad. Gofynnais i'm swyddogion gynnal trafodaethau â rhanddeiliaid i archwilio'r canfyddiadau hynny a'u datrys, ond mae'n amlwg nad ydynt wedi cytuno ar ffordd ymlaen. O ystyried y cyfyngiadau sydd eisoes wedi'u rhoi ar y rhaglen ddeddfwriaethol, a'r amser y gall proses o'r fath ei gymryd, nid wyf o'r farn mai deddfwriaeth ychwanegol yw'r ateb. Yn lle hynny, rwy am ddefnyddio amser ac adnoddau'r Llywodraeth i gymryd camau ar unwaith.

Yn gyntaf, rwy wedi gofyn i'm swyddogion gefnogi awdurdodau lleol ar y cyd â'u consortia rhanbarthol i sicrhau bod pob corff llywodraethu yn meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar waith diwygio'r cwricwlwm. Byddwn yn ategu gofynion statudol awdurdodau lleol i gefnogi llywodraethwyr i ymgymryd â'u rolau drwy ddarparu gwybodaeth ar y newidiadau sy'n dod. Rwy hefyd wedi gofyn i'm swyddogion gynhyrchu bwletin tymhorol ar gyfer cyrff llywodraethu ar y cynnydd diweddaraf wrth gyflwyno Cenhadaeth ein Cenedl.

Yn ail, rwy wedi gofyn i'm swyddogion sicrhau bod y Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol yn cynnwys adnoddau sydd wedi'u hanelu at lywodraethwyr ysgolion. Byddwn yn cynhyrchu adnoddau digidol yn nes ymlaen eleni at y diben penodol hwnnw, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar yr adnoddau hynny maes o law.

Yn drydydd, rwy'n falch i roi sylw i'r gwaith y mae'r sector Addysg Uwch yng Nghymru yn ei wneud i gefnogi llywodraethu ysgolion. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn rhoi cymorth ariannol i'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Ac mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam  yn gweithio ar y cyd i gefnogi llywodraethwyr drwy rannu syniadau, arferion gorau a chyfleoedd i gydweithio. Mae hynny, yn rhannol, yn ymateb i'r her a roddais i'r sector Addysg Uwch mewn perthynas â meithrin cysylltiadau dinesig a chydweithio'n agosach ag ysgolion. Maent yn awyddus i gydweithio â'r Consortia Addysg, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) a Phartneriaethau perthnasol fel Sgiliau Rhanbarthol ac Ymgyraedd yn Ehangach.

Bydd y Brifysgol Agored yng Nghymru'n cydweithio â phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i greu rhaglen dysgu sy'n berthnasol i anghenion llywodraethwyr yng Nghymru. Bydd honno ar gael ar-lein ar blatfform OpenLearn a phlatfform OpenLearn Cymru dwyieithog. Gall llywodraethwyr ysgolion ddefnyddio'r rhaglen honno ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le, sy'n ychwanegu adnodd hyblyg at y cymorth hyfforddi gorfodol sydd ar gael a gynigir gan awdurdodau lleol.

Bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn datblygu cynllun i recriwtio llywodraethwyr i ysgolion sy'n anelu at gynyddu nifer y staff mewn prifysgolion sy'n gwirfoddoli i wasanaethu fel llywodraethwyr ysgolion.

Yn y cyfamser, bydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn treialu cwrs byr, sef modiwl 'Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Systemau', ar nifer o lywodraethwyr ac arweinwyr allweddol mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru erbyn haf 2019.  Mae'r rhaglen yn un unigryw o ran ei chynllun – cafodd ei chreu ar y cyd gan sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i sicrhau ei bod yn ymdrin â'r cyfleoedd a'r heriau y mae dull system gyfan yn eu hamlygu wrth fynd i'r afael â materion cymhleth.

Yn olaf, rwy o'r farn bod digonedd o dalent yng Nghymru a fyddai'n fodlon rhoi o'u hamser a chynnig eu cefnogaeth i gyrff llywodraethu. Mae sefydliadau fel Cydffederaswin Diwydiant Prydain, Sefydliadau Addysg Uwch a Parentkind wedi cynnig eu help i ddenu talent o'r fath. Rwy wedi gofyn i'm swyddogion gydweithio â'r sefydliadau hynny i gefnogi ymgyrchoedd i recriwtio llywodraethwyr lleol a rhanbarthol.

Ceir copi o grynodeb o'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://llyw.cymru/diwygio-chydgrynhoir-fframwaith-rheoleiddio-llywodraethu-ysgolion-yng-nghymru