Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi bod ein Grant Caledi i Denantiaid, gwerth £10m yn dechrau gwahodd ceisiadau heddiw.

Bydd y cynllun yn cefnogi tenantiaid y sector rhentu preifat yng Nghymru sydd ag ôl-ddyledion rhent difrifol o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig. Mae’n rhan o’n hymrwymiad parhaus i atal digartrefedd yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn cael ei gynnal gan awdurdodau lleol. Bydd tenantiaid nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy’n gysylltiedig â thai, ac sydd ag ôl-ddyledion rhent o wyth wythnos neu fwy o ganlyniad i’r pandemig, rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021, yn gymwys i wneud cais am grant.

Ceir rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais am grant yma:

Grant Caledi i Denantiaid ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat: y coronafeirws | LLYW.CYMRU

Wrth i’r Grant Caledi i Denantiaid gychwyn, mae’r cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth yn dod i ben.

Hoffwn ddiolch i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, undebau credyd a’r awdurdodau lleol am eu hymrwymiad i weithio’n gyflym er mwyn sicrhau bod modd i denantiaid sector preifat barhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i osgoi cael eu troi allan i wynebu digartrefedd.