Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n lansio'r Gwasanaeth Ynni newydd Llywodraeth Cymru, sy'n dod â'r gwasanaethau cymorth yr ydym wedi'u darparu yn y gorffennol fel Twf Gwyrdd Cymru a'r Gwasanaeth Ynni Lleol at ei gilydd.

Mae'r gwasanaeth bellach yn darparu un pwynt cyswllt i sefydliadau'r sector cyhoeddus ac eraill sy'n ceisio datblygu cynlluniau defnyddio ynni'n effeithlon neu gynlluniau ynni adnewyddadwy. Gan ychwanegu at brofiad a’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth technegol, ariannol a masnachol i gyrff cyhoeddus a chymunedau. Bydd Rhaglen Cyllido Cymru a Chronfa Benthyca Ynni Cymru gyda'i gilydd yn darparu benthyciadau, gan gynnwys benthyciadau llog isel neu ddi-log, i gefnogi gosodiadau.

Ers lansio Twf Gwyrdd Cymru yn 2015 ac esblygiad Ynni'r Fro yn y Gwasanaeth Ynni Lleol, rydym wedi buddsoddi dros £55 miliwn o fenthyciadau di-log ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a hefyd wedi cefnogi gwerth £27 miliwn arall o brosiectau ynni ac effeithlonrwydd ynni, ble y cafwyd y cyllid drwy ddulliau eraill. Mae'r dull hwn o weithio yn helpu i leihau costau cynnal cyrff cyhoeddus ledled Cymru a bydd yn rhyddhau arbedion o £138 miliwn dros gyfnod oes yr asedau yr ydym yn buddsoddi ynddynt, ac yn lleihau allyriadau carbon o dros 800,000 tunnell.

Dros y dair blynedd diwethaf mae'r Gwasanaeth Ynni Lleol wedi buddsoddi £10 miliwn hefyd drwy fenthyciadau i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol newydd.

Mae’r newid i economi ynni carbon isel yn cynnig cyfle enfawr i Gymru greu system sy’n sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i Gymru.  Er mwyn gwneud hyn tra’n bodloni ein targedau a’n cyllidebau carbon sydd wedi’u rhwymo mewn cyfraith, mae’n rhaid inni ddatblygu polisïau newydd a chryfhau’r polisïau a’r rhaglenni sydd eisoes yn sbarduno’r broses ddatgarboneiddio.

Rwyf wedi cryfhau Polisi Cynllunio Cymru, ein dogfen polisi cynllunio cenedlaethol ar ddefnydd tir, i gyd-fynd â'n huchelgais o ran ynni ac i sefydlu hierarchiaeth ynni. Rydym am i awdurdodau cynllunio lleol weld adnoddau adnewyddadwy fel asedau gwerthfawr sy'n cefnogi llewyrch. Rwyf hefyd wedi cyflwyno gofyniad newydd i awdurdodau lleol sefydlu targedau lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn eu cynlluniau lleol. Bydd y gwasanaeth yn cefnogi mwy o gynllunio ynni rhanbarthol tra'n rhoi’r cyfle i sicrhau'r manteision o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, drwy fwy o berchnogaeth leol yng Nghymru.

Mae llawer o fanteision cynhyrchu ynni yn gadael Cymru ar hyn o bryd drwy dalu biliau ynni. Yn y dyfodol, asedau cynhyrchu ynni sy'n agos at ganolfannau galw sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, gyda masnachu a chydbwysedd mewn amser real, fydd y norm.  Mae'n rhaid inni sicrhau bod cymunedau a'n sector cyhoeddus yn ganolog i'r newid hwn ac yn buddsoddi ynddo os ydym i gadw mwy o’r manteision yng Nghymru.  

Yn 2017 rhoddais amlinelliad o'm huchelgais ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae gan y sector cyhoeddus swyddogaeth arwain allweddol, drwy ei swyddogaethau amrywiol yn creu lleoedd, prynu a darparu gwasanaethau, tra’n gweithio gyda’r cymunedau y  maent yn eu gwasanaethu.

Dyma pam yr wyf wedi dewis integreiddio ein sector cyhoeddus a'n gwasanaethau o fewn y gymuned yn well i sicrhau dull sy'n fwy seiliedig ar le, tra'n cadw'r parhad sydd mor bwysig i ddefnyddwyr presennol y gwasanaeth.

Rwy'n disgwyl i'r sector cyhoeddus ddefnyddio'r gwasanaeth i sicrhau cyfleoedd i fuddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae'n rhaid i'r sector cyhoeddus ddefnyddio yr adnoddau sydd ar gael iddynt, megis tir, adeiladau a chyllid, ar gyfer trydan adnewyddadwy a chynhyrchu gwres a gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu a darparu prosiectau ynni.

Fy nod yw i'r Gwasanaeth Ynni newydd ddarparu'r sbardun i ddatblygu fy ngweledigaeth am system ynni newydd. Byddwn yn canolbwyntio ar alluogi y sector cyhoeddus a chymunedau lleol i gydweithio i gyflymu datblygiad y prosiectau lleihau carbon tra'n cadw y manteision o fewn cymunedau lleol, gan sicrhau manteision i economi Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth newydd a sut i wneud cais am gymorth i'w gweld ar y ddolen ganlynol: llyw.cymru/y-gwasanaeth-ynni-ar-gyfer-grwpiaur-sector-cyhoeddus-grwpiau-cymunedol