Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod 40 o ysgolion uwchradd, sef tua phumed ran o ysgolion uwchradd Cymru, wedi eu nodi’n Ysgolion Llwybrau Llwyddiant, ac y byddant felly’n chwarae rôl ganolog yn y gwaith o weithredu Her Ysgolion Cymru - sef rhaglen wella flaengar Llywodraeth Cymru, sy’n werth miliynau o bunnoedd, ar gyfer cyflymu’r broses o wella ysgolion yng Nghymru.

Mae i bob un o’r 40, a ddewiswyd oherwydd eu hamgylchiadau a’u lefel ddatblygu bresennol, y potensial i sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn gyflym. Nod Her Ysgolion Cymru yw eu helpu i ddatgloi’r potensial hwnnw drwy eu grymuso i fynd ati’n  egnïol i ymateb i’w heriau.

Mae’r rhaglen Her Ysgolion Cymru yn seiliedig ar ein cred ddiysgog bod POB plentyn yn gallu llwyddo, a bydd yn darparu tua £20m ochr yn ochr ag arbenigedd cydnabyddedig er mwyn cynnig pecyn cymorth sydd wedi ei deilwra i fodloni anghenion pob ysgol unigol ac anghenion penodol ei dysgwyr. Bydd y rhaglen hefyd yn darparu’r cymorth priodol ar gyfer y clystyrau o  ysgolion cynradd sy’n berthnasol i’r ysgol sy’n cymryd rhan, er mwyn dechrau mynd i’r afael â’r heriau mor gynnar â phosibl yng ngyrfa’r dysgwyr, gyda’r nod o wella’r broses bontio rhwng y cyfnodau allweddol hyn yn eu haddysg.

Gan adeiladu ar egwyddorion y Model Cenedlaethol, bydd y rhaglen yn canolbwyntio’n ddiwyro ar wella ansawdd addysgu a dysgu. Er mwyn gwneud hynny, rwy’n awyddus i fanteisio’n llawn ar brofiad rhai o’r ymarferwyr gorau a’r ysgolion sy’n perfformio orau yng Nghymru, er mwyn creu partneriaethau a rhannu arbenigedd. Mae’r wybodaeth a’r arbenigedd y mae eu hangen i wella yn bodoli o fewn y system eisoes ac mae’n bwysig ein bod yn creu’r cyfle i fanteisio arnynt. Mae’n hanfodol cydweithio’n effeithiol os ydym am sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ar gael lle y mae ei hangen i sicrhau canlyniadau sy’n gynaliadwy.  Drwy wneud hynny, bydd holl blant a phobl ifanc Cymru yn cael y cyfle i elwa ar yr arferion gorau.

Bydd llawer o ysgolion yng Nghymru yn gallu manteisio ar y dull gweithredu cydweithredol hwn, a rhagwelir y bydd eu hymdrechion yn sbarduno gwelliannau ledled y system. Yn yr ystyr pwysig hwn, bydd Her Ysgolion Cymru a’r ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn gweddnewid cyflwr addysg yng Nghymru. Byddant yn chwarae rôl allweddol yn yr ymgyrch i wella safonau addysg ar gyfer ein holl ddysgwyr, gan godi lefelau llythrennedd a rhifedd, a thrwy hynny yn torri’r cysylltiad rhwng diffyg cyrhaeddiad addysgol a thlodi.

Dyma restr lawn o’r ysgolion: (Atodiad1)

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd holl ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn cael rhagor o wybodaeth am sut y bydd y rhaglen yn gweithredu, a sut y gallwn weithio’n effeithiol gyda’n gilydd i wella deilliannau addysgol ar gyfer pob myfyriwr yng Nghymru.