Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y Rheoliadau”) wedi cael eu diwygio mewn nifer o feysydd heddiw.

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 15 Ionawr, mae’r Rheoliadau yn awr yn gosod gofynion ar fusnesau a mangreoedd i gynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Fel y nodais hefyd yr wythnos ddiwethaf, maent wedi cael eu diwygio i gryfhau’r gofynion ar fusnesau manwerthu er mwyn rhagnodi mesurau rhesymol penodol y mae’n rhaid iddynt eu cymryd.

At hynny, mae’r Rheoliadau wedi cael eu diwygio i’w gwneud yn ofynnol i berchennog ysgol neu sefydliad addysg bellach atal dysgwyr rhag mynd i fangre ysgol neu sefydliad addysg bellach o 20 Ionawr ymlaen.

Bydd y cyfyngiad yn berthnasol i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion annibynnol a sefydliadau addysg bellach. Fodd bynnag, bydd y Rheoliadau hefyd yn darparu fel:

•    y gall disgyblion/myfyrwyr fynd i’r ysgol neu’r sefydliad addysg bellach i sefyll arholiad neu ymgymryd ag asesiad arall

•    y gall disgyblion/myfyrwyr fynd i’r fangre pan fo’r ysgol neu’r sefydliad addysg bellach yn ystyried ei fod yn briodol iddynt wneud hynny oherwydd bod y dysgwr yn agored i niwed

•    y gall disgyblion sy’n blentyn i weithiwr hanfodol fynd i fangre’r ysgol. Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol a pherchennog ysgol annibynnol ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag adnabod plant gweithwyr hanfodol. Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol: https://llyw.cymru/adnabod-plant-gweithwyr-hanfodol-canllawiau  

•    y gall disgyblion fynd i fangre ysgol arbennig, uned cyfeirio disgyblion, uned mewn ysgol pan fo’r uned yn cael ei chydnabod gan awdurdod lleol fel un sydd wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig a lle mae’r disgyblion yn cael eu haddysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned

•         y gall disgybl sy’n ddisgybl preswyl breswylio mewn llety ym mangre’r ysgol.

Bydd gosod y gofyniad ar bob ysgol a sefydliad addysg bellach i gau eu mangreoedd i’r mwyafrif o ddysgwyr ar sail statudol yn sicrhau cysondeb ac eglurder ledled Cymru.

Yn olaf, o ganlyniad i’r diwygiadau a ddisgrifir uchod, gwnaed nifer o ddiwygiadau canlyniadol i’r Rheoliadau.