Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf gadarnhau fod pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn rhag COVID-19; cyflawnwyd hyn chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl. Mae dros 3.6 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u rhoi yng Nghymru.

Mae Cymru yn arwain y byd o ran canran y boblogaeth sydd wedi'u brechu; Mae 87% o’n poblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf, ac mae 54% wedi cael yr ail ddos i’w diogelu’n llawn rhag COVID-19. 

Rydym yn dal i weithio tuag at gyflawni carreg filltir 3 fel y nodwyd yn ein Strategaeth. Yn ogystal â chynnig y brechlyn COVID-19 i’r holl oedolion cymwys, rydym yn troi ein sylw at sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl wedi manteisio ar y brechlyn, gan roi’r brechlyn i o leiaf 75% o bobl. Os yw unrhyw un yn credu eu bod wedi colli allan, neu heb gael cynnig y brechlyn am ba bynnag reswm, mae gwybodaeth am bwy i gysylltu â nhw yma.

Mae’n hanfodol bwysig bod lefelau uchel yn manteisio ar y brechlyn er mwyn diogelu Cymru. Mae hyn yr un mor bwysig ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau. Mae sicrhau nad yw neb yn cael ei adael ar ôl yn egwyddor allweddol o’n rhaglen frechu. Hoffwn atgoffa pawb fod y rhaglen frechu yn agored ac ar gael i’r holl oedolion cymwys yng Nghymru, ac rwy’n eich annog i dderbyn y cynnig o frechlyn. Mae hyn yn cynnwys y cynnig o ail ddos sy’n hanfodol i ddiogelu pobl yn y tymor hirach ac mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi dangos bod dau ddos o’r brechlyn yn cynnig diogelwch cryf yn erbyn yr amrywiolyn Delta yr ydym yn parhau i’w fonitro’n agos yng Nghymru.

Yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, byddwn yn lleihau’r bwlch rhwng dosau cyntaf ac ail ddosau o’r brechlyn ar gyfer y bobl sydd mewn mwy o berygl o ddal COVID-19, yn enwedig y bobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae pryderon ynghylch yr amrywiolyn Delta ac yn dibynnu ar y cyflenwad o’r brechlyn. Bydd byrddau iechyd lleol yn goruchwylio’r gwaith hwn ar gyfer eu hardal ddaearyddol. Ein nod yw cynnig y ddau ddos o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn mis Medi.

Heddiw byddaf yn cyhoeddi ein diweddariad wythnosol i’r rhaglen frechu. Fel bob amser, rwy’n hynod ddiolchgar i’n cydweithwyr yn y GIG a’r holl wirfoddolwyr ar draws Cymru am wneud ein cynnydd yn y rhaglen frechu yn bosibl.