Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi Canllawiau Ymweld ag Ysbytai GIG Cymru diwygiedig a ddaw i rym ar 5 Gorffennaf 2021. Mae’r rhain yn disodli’r canllawiau a gyhoeddwyd ar 25 Mawrth, 20 Ebrill, 20 Gorffennaf a 30 Tachwedd.

Rwy’n disgwyl y bydd pob cais i ymweld â lleoliadau gofal iechyd yn cael eu trin â thrugaredd ac empathi, gan sicrhau lles gorau’r claf a dilyn prosesau asesu risg lleol. 

Mae’r risg o drosglwyddiad nosocomiaidd (trosglwyddiad mewn lleoliad gofal iechyd) yn parhau’n uchel, yn enwedig o ganlyniad i’r amrywiolyn Delta sy’n fwy trosglwyddadwy. Nid yw’r canllawiau diwygiedig yn disgwyl i ddarparwyr iechyd lacio’r holl gyfyngiadau ar ymweld ar hyn o bryd ond mae’n cydnabod bod angen cydbwysedd. Mae’n atgyfnerthu egwyddor gwneud penderfyniadau yn lleol yn seiliedig ar yr amodau yn lleol. 

Mae’r canllawiau’n nodi’n glir nad yw’n bosibl rhagweld pob cais i ymweld ac mae’n cynnig darpariaeth ar gyfer amgylchiadau eithriadol sy’n caniatáu ystyried ceisiadau ar gyfer ymweliadau nad ydynt yn cyd-fynd â’r categorïau yn y canllawiau gan edrych ar amgylchiadau unigolion, ond gan ddilyn y prosesau asesu risg lleol.

Mae’r Datganiad Atodol cysylltiedig yn caniatáu i ddarparwyr wyro oddi wrth y canllawiau mewn ymateb i lefelau trosglwyddiad coronafeirws uwch neu is. Er mwyn sicrhau parhad, gofynnwyd i gyrff unigol y GIG wneud penderfyniadau o’r fath ar ôl cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae atodiad newydd wedi’i lunio gyda’r bwriad o gynorthwyo darparwyr iechyd i wneud penderfyniadau wrth ystyried y defnydd o brofion COVID-19 penodol i gefnogi ymweliadau ag ysbytai. Datblygwyd yr atodiad gan Grŵp Trosglwyddiad Nosocomiaidd Llywodraeth Cymru ac mae’n nodi y gall darparwyr iechyd ystyried profion COVID-19 ar gyfer ymwelwyr ag ysbytai fel rhan o ddull seiliedig ar asesiad risg. 

Gall profion helpu i adnabod pobl nad oes ganddynt symptomau COVID-19, ond a all fod yn lledaenu’r feirws. Mae’n rhaid i’r rheini sy’n cael prawf positif hunanynysu yn syth ac osgoi pasio’r feirws i eraill.

Mae’r egwyddorion yn nodi’n glir y penderfynir ar y defnydd o brofion ar gyfer ymwelwyr ysbyty ar lefel leol. Gweithredu ‘hierarchaeth o reolaethau’ gan gynnwys protocolau a gweithdrefnau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol, glanhau amgylcheddol ac atal a rheoli heintiau, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol yw’r prif ffyrdd o atal COVID-19 rhag cyrraedd lleoliadau gofal iechyd a lledaenu ynddynt.

Mae’r canllawiau’n cydnabod amgylchiadau arbennig rhieni mewn lleoliadau newyddenedigol a phaediatreg, a phartneriaid menywod yn y gwasanaethau mamolaeth. Mae’r egwyddor o asesiad risg lleol yn berthnasol o hyd ac rydym yn cydnabod y gallai profion llif unffordd rheolaidd fod yn ddefnyddiol i alluogi i bartner a/neu riant fod yn bresennol i roi cefnogaeth yn ystod beichiogrwydd / genedigaeth / yn ôl-enedigol ac i roi cymorth i blant. Gall fod cyfleoedd hefyd i ddefnyddio dyfeisiau Pwynt Gofal i brofi rhieni a phartneriaid.

Gall rhieni plant sydd yn yr ysbyty a menywod beichiog a’u partner cefnogi mewn gwasanaethau mamolaeth yn awr gael pecynnau o brofion LFD drwy gasglu’r pecynnau profi o’u man casglu cymunedol agosaf neu drwy archebu pecynnau profi yn uniongyrchol i’w cartref.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y gallai cyfyngiadau ar ymweld gael effaith niweidiol ar gleifion a’u hanwyliaid a staff. Iechyd, diogelwch a llesiant cleifion, cymunedau a staff y darparwr gofal iechyd yw’r brif flaenoriaeth. Wrth gwrs, bydd ymweliadau rhithiol yn parhau i gael eu hannog a’u cefnogi mewn lleoliadau gofal iechyd os yw’n bosibl.

Mae’r Canllawiau a’r Datganiad Atodol yn cael eu hadolygu’n barhaus a gellir eu darllen yma: Ymweld ag ysbytai yn ystod y coronafeirws: canllawiau | LLYW.CYMRU