Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn cyhoeddi Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ym mis Tachwedd, rydym wedi bod yn gweithio er mwyn cyflawni’r ymrwymiad trosfwaol i wella deilliannau i blant drwy ddull gweithredu newydd ar gyfer hybu a chefnogi anghenion iaith, lleferydd, a chyfathrebu plant.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi gwybod ichi am y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â chyflwyno’r ymrwymiadau sydd yn ein cynllun, Siarad gyda fi.
Mae gan lawer o blant, yn enwedig plant o gefndiroedd difreintiedig, anghenion iaith, lleferydd, a chyfathrebu, sy’n debyg o fod angen cefnogaeth ac ymyrraeth. Mae’r pandemig wedi cael effaith ar wasanaethau ac rydym yn parhau i weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chanolfannau arbenigol i’w helpu i fodloni anghenion plant yn ystod yr amser tyngedfennol hwn.
Y llynedd fe wnaethom roi cyllid adfer yn dilyn COVID-19 er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu. Fe wnaeth hyn helpu gweithwyr proffesiynol iaith, lleferydd, a chyfathrebu i gaffael adnoddau ychwanegol, yr oedd dirfawr angen amdanynt. Calonogol oedd clywed am effaith y cyllid ar forâl staff a’r teuluoedd a gafodd gefnogaeth.
Rwy’n falch o gyhoeddi bod £250,000 ychwanegol ar gael yn 2021-22 i fyrddau iechyd a chanolfannau arbenigol, er mwyn iddynt barhau i fynd i’r afael ag anghenion iaith, lleferydd, a chyfathrebu.
Unwaith eto, bydd gweithwyr proffesiynol yn gallu bod yn hyblyg wrth ddefnyddio’r cyllid ychwanegol, er mwyn ymateb i’r angen a’r galw yn lleol. Byddwn yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar, a bydd yn cynnwys:
- datblygu’r gweithlu yn unol â galw am reolwyr therapi iaith a lleferydd – un o’r prif amcanion yn y cynllun cyflawni, Siarad gyda fi.
- Prynu adnoddau digidol a ffisegol
- Caffael cyfarpar TG ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr gan gynnwys ymyriadau o bell i deuluoedd a lleoliadau
- Prynu It Takes Two to Talk – llyfr gwaith i rieni i bob prif lyfrgell yng Nghymru. Mae hwn yn rhoi cyngor ar sail tystiolaeth i rieni, i’w helpu i gefnogi datblygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu’r plentyn.
Rydym wedi lansio llwybr hyfforddi iaith, lleferydd a chyfathrebu Cymru gyfan ar gyfer ymarferwyr gofal plant yn ddiweddar, ac wedi cydweithio â’r elusen cyfathrebu plant, sef
Ican, er mwyn addasu’r siartiau ‘oedrannau a chyfnodau’ ar gyfer Cymru. Rydym hefyd yn gweithio i addasu a chyfieithu eu cwrs iaith, lleferydd a chyfathrebu ar gyfer ymarferwyr.
Mae'r adnoddau a ddatblygwyd ar gyfer rhieni yn cynnwys awgrymiadau da ar reoli ymddygiad eich plentyn, sy’n egluro'r cysylltiadau rhwng anghenion ac ymddygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu, ac yn rhoi syniadau ymarferol er mwyn helpu. Mae’r adnoddau ar gael yma: https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
Rydym wedi rhoi contract i ddechrau adolygiad o sgrinio iaith gynnar ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed 11 mis oed, er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu offeryn sgrinio iaith gynnar i Gymru gyfan. Disgwylir i’r adroddiad terfynol gan gynnwys argymhellion fod yn barod ddechrau mis Tachwedd.
I gloi, rydym wedi rhoi contract i’r ymgyrch cenedlaethol Siarad gyda fi – bydd yr ymgyrch iechyd cyhoeddus ac addysg yn codi ymwybyddiaeth ac yn dylanwadu ar newid ymddygiad rhieni. Bydd hyn yn amlygu’r angen i deuluoedd helpu i ddatblygu sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu eu plant yn y blynyddoedd cynnar, gan roi cyngor iddynt ar sut i ddarparu amgylchedd ieithyddol gyfoethog yn y cartref. Bydd y contract yn rhedeg tan fis Mehefin 2023.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.