Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ddatblygiadau diweddar gan gynnwys gorchuddion wyneb, gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru, cyfraddau marwolaethau ledled gwledydd y DU a gwasanaethau sgrinio.

Gorchuddion wyneb

Ddydd Gwener 6 Mehefin, fe wnaeth GIG Lloegr gyhoeddiad yn diweddaru ei ganllawiau ar orchuddion wyneb ar gyfer staff mewn ysbytai. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd ddiweddaru ei ganllawiau yn cynghori y dylid ystyried gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau lle y mae hi'n anodd cadw pellter cymdeithasol. Ni chawsom weld manylion y naill gyhoeddiad na'r llall.

I fod yn gwbl glir, nid yw gwisgo gorchudd wyneb yn cymryd lle’r angen i gadw pellter cymdeithasol a golchi eich dwylo yn rheolaidd. Ynghyd â chyngor y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu, dyma’r ffyrdd gorau o atal y feirws rhag lledaenu o hyd.

Mae angen rhagor o dystiolaeth wyddonol ynghylch y buddion i’r cyhoedd o wisgo gorchuddion wyneb. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau sydd wedi'u nodi yn awgrymu y gellid lleihau trosglwyddiad o un person i berson arall drwy wisgo gorchuddion wyneb tair haen sydd wedi’u gwneud gartref neu sydd wedi’u prynu, os ydynt yn cael eu gwneud, eu gwisgo, eu trin a’u taflu ymaith yn iawn.

Yn dilyn cyngor gan ein Prif Swyddog Meddygol, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylid defnyddio gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle y gall fod yn anoddach cadw at reolau pellter cymdeithasol. Mae’n golygu, er enghraifft, ein bod ni wedi argymell defnyddio gorchuddion wyneb tair haen ar drafnidiaeth gyhoeddus.

O bell ffordd, cadw pellter cymdeithasol a dilyn arferion hylendid da yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o’ch diogelu eich hun rhag COVID-19. Mae darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru wedi cyflwyno camau i sicrhau bod modd cadw pellter o 2 fetr rhwng teithwyr y rhan fwyaf o’r amser, ond rydym yn sylweddoli nad yw hi’n bosibl cynnal hyn bob amser. Mae gwisgo gorchuddion wyneb yn un o ystod o gamau y mae gweithredwyr bysiau yn eu rhoi ar waith er mwyn i bobl allu teithio'n ddiogel.

Nid yw gwisgo gorchuddion wyneb yn ateb syml ar gyfer COVID-19. Ni fydd hi’n orfodol i bobl wisgo gorchuddion wyneb, ond byddwn yn eu hannog i wneud hynny er eu lles eu hunain ac er lles pobl eraill. Nid ydym yn argymell defnyddio gorchuddion wyneb yn yr awyr agored.

Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol ond i bobl nad ydynt yn dangos symptomau o’r coronafeirws. Rhaid i unrhyw un sydd â thymheredd uchel, peswch cyson newydd neu newid yn ei allu i arogli neu flasu hunanynysu am saith diwrnod o leiaf a chael prawf cyn gynted â phosibl. Oni bai fod y prawf yn dangos canlyniad negyddol, rhaid i bobl beidio â mynd allan yn ystod y cyfnod hwn, hyd yn oed os ydynt yn gwisgo gorchudd wyneb.

 

Mae hon yn sefyllfa gyfnewidiol ac mae’r cyngor gwyddonol yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Yn yr un modd â phob dewis a wnawn wrth i'r dystiolaeth newid, disgwyliaf y bydd y cyngor i weinidogion yn newid wrth inni symud drwy'r gwahanol gamau. Fel yr wyf wedi'i nodi'n rheolaidd, mae hynny’n golygu y gall penderfyniadau gweinidogion newid ar unrhyw agwedd ar ein hymateb yng Nghymru i COVID-19.

Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru

Mewn perthynas â Phrofi, Olrhain a Diogelu, rydym wedi gweld dechrau cadarnhaol a llwyddiannus iawn i’n gwaith o olrhain cysylltiadau drwy’r boblogaeth gyfan. 

Bellach mae gennym tua 700 o aelodau o staff yn gweithio mewn timau olrhain cysylltiadau ledled Cymru ac mae cynlluniau wedi’u cyhoeddi i gynyddu’r nifer hwn yn gyflym pe byddai angen gwneud hynny. Yn ogystal â hyn, mae system ddigidol genedlaethol newydd wedi’i chyflwyno ar draws pob rhanbarth a bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y gwaith hwn hyd yn oed yn fwy effeithiol a dibynadwy yn y dyfodol.

Hyd at ddiwedd y dydd ar 14 Mehefin, roedd tua 1,309 o achosion positif wedi eu hatgyfeirio i'r timau ar gyfer olrhain cysylltiadau ac, yn sgil hyn, mae 1,752 o gysylltiadau dilynol wedi’u canfod. Rydym wedi llwyddo i gysylltu â bron i 90% o'r rheini a rhoi cyngor iddynt. Ar ben hynny, mae'r data sydd ar gael yn dangos mai llai na 10 o unigolion sydd wedi cael prawf positif sydd wedi gwrthod rhannu manylion eu cysylltiadau. 

Rydym hefyd wedi canfod nifer o glystyrau yn y gweithle. Mae ein timau rhanbarthol wedi llwyddo i olrhain staff a chyflogwyr, gan gysylltu â nhw a gweithio gyda nhw i weld a yw'r feirws wedi'i drosglwyddo yn y gweithle ai peidio. Maent hefyd wedi ymyrryd fel sy'n briodol, gyda chyngor iechyd y cyhoedd.

Mae'r canlyniadau cynnar yn cefnogi’r dull gweithredu yr ydym wedi'i fabwysiadu yng Nghymru o weithio mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd i ddatblygu ein capasiti olrhain cysylltiadau. Mae'r holl arwyddion yn dangos bod y cyhoedd yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'n gwaith o olrhain cysylltiadau ac rydym yn canolbwyntio ar sicrhau y byddant yn parhau i wneud hynny.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod gennym gapasiti i gynnal 12,374 o brofion labordy bob dydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Daeth Canolfan Profi Torfol yn weithredol yng Nglannau Dyfrdwy ar 11 Mehefin ac mae cynlluniau i agor Canolfan Profi Torfol arall yn y Fenni wrthi’n cael eu cwblhau. Mae swyddogion mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU a'r Byrddau Iechyd Lleol ynghylch newid capasiti labordai Caerfyrddin, Caerdydd, Casnewydd a Llandudno yn gapasiti sy’n rhan o’r rhwydwaith Lighthouse Labs.

Gallai hyn greu rhagor o hyblygrwydd yn system Cymru i lunio blaenoriaethau profi rheolaidd, yn ogystal â galluogi'r Byrddau Iechyd Lleol i ddatblygu rhagor o gyfleoedd mynediad ar gyfer profi. Mae swyddogion mewn trafodaethau ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Byrddau Iechyd Lleol ynghylch yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer defnyddio Unedau Profi Symudol ledled Cymru ac maent yn ystyried y capasiti ychwanegol a gynigir gan Lywodraeth y DU.

Ar 8 Mehefin, cytunodd ein Grŵp Gorchwyl, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob sefydliad partner, ar y lefel isaf o gymorth y dylai pob awdurdod lleol ei ddarparu i helpu pobl i hunanynysu ar ôl iddynt gael eu holrhain. Mae’r cymorth a nodwyd yn debyg ar y cyfan i’r cymorth sydd eisoes yn cael ei ddarparu i bobl a warchodir/pobl agored i niwed na warchodir. Trafododd y Grŵp Gorchwyl y cymorth ychwanegol y gall fod ei angen, gan gynnwys y ffordd orau o gefnogi’r unigolion yn ariannol. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r ffaith ein bod yn deall canlyniadau ariannol peidio â mynd i’r gwaith, yr anhawster y gall hyn ei achosi i unigolion a sut y gallai’r Llywodraeth fod o gymorth a phryd y byddai hynny’n briodol

Cyfraddau marwolaethau gwledydd y DU

Mae gennym nawr dystiolaeth glir o raddfa effaith ofnadwy’r pandemig ar y gyfradd marwolaethau yma yng Nghymru.

Ar 16 Mehefin, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fod 2,317 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru, hyd at a chan gynnwys 5 Mehefin, lle’r oedd COVID-19 yn ffactor a gyfrannodd at y farwolaeth. Mae pob un farwolaeth yn golled drist i deulu a ffrindiau’r unigolyn sydd wedi ein gadael.

Serch hynny, mae yna arwyddion clir, o ddata gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a data a gyhoeddir gan SYG, ein bod nawr ymhell y tu hwnt i’r brig cyntaf. Mae SYG wedi cyhoeddi gostyngiad yn nifer y marwolaethau wythnosol am 6 wythnos yn olynol.

Mae ystadegau SYG yn cyfeirio at farwolaethau ychwanegol, sy’n cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio cyfartaledd dros 5 mlynedd fel nifer arferol neu ddisgwyliedig o farwolaethau ar wahanol adegau yn y flwyddyn. Mae unrhyw beth uwchben y cyfartaledd hwnnw’n cael ei alw’n ffigur marwolaethau ychwanegol. Mae’n ffordd oeraidd ond pwysig o ddeall y niwed y mae COVID-19 wedi’i achosi. Ar sail wythnosol, roedd y ffigur hwn yn dal i fod 90 (neu 15%) yn fwy na’r nifer arferol o farwolaethau ar gyfer yr wythnos sy’n gorffen 5 Mehefin. Mewn cyferbyniad â hynny, roedd yna 508 (neu 77%) o farwolaethau ychwanegol yn ystod y brig ganol mis Ebrill.

Gan fod brig cyntaf y pandemig wedi pasio, mae’n briodol nawr ystyried beth mae’r ffigurau ar gyfer Cymru yn ei ddweud wrthym am hynt y pandemig hwn a sut mae hyn yn cymharu â gweddill y DU. Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn ein helpu i ddeall beth sydd wedi digwydd yng Nghymru. Bydd y ddealltwriaeth honno o gymorth wrth wneud y penderfyniadau y bydd rhaid imi a’m cyd-Weinidogion eu gwneud rhag ofn y bydd yna ail frig.

Gan ddefnyddio’r ffigurau a gyhoeddwyd gan SYG, rydym wedi canfod y canlynol:

  • Bod gan Gymru gyfradd gymharol is o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 fesul pen o’r boblogaeth na Lloegr a’r Alban.
  • Bod cyfradd is o farwolaethau o bob achos wedi bod yng Nghymru o’i chymharu â Lloegr a’r Alban.
  • Bod canran is o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â COVID-19 o’i chymharu â’r cyfartaledd ledled y DU.
  • Bod ein cyfradd marwolaethau ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn, sef cymharu ein cyfradd marwolaethau â chyfartaledd dros 5 mlynedd, yn is na Lloegr a’r Alban.
  • O’i roi mewn geiriau eraill: pe bai gan Gymru’r un gyfradd marwolaethau ychwanegol â Lloegr yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a dechrau mis Mehefin, byddai tua 1,600 yn fwy o farwolaethau wedi bod yng Nghymru; pe bai gan Loegr yr un gyfradd marwolaethau ychwanegol â Chymru, byddai bron i 24,000 yn llai o farwolaethau wedi bod yn Lloegr.

Mae hyn yn wir hefyd wrth gymharu Cymru â rhanbarthau Lloegr. Yn ôl data SYG a gyhoeddwyd ddydd Gwener ac ar sail cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran, dim ond De-orllewin Lloegr ac, o ychydig, De-ddwyrain Lloegr, oedd â chyfraddau marwolaethau COVID-19 is na Chymru yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mai. Eto, heblaw am Dde-orllewin Lloegr, Cymru oedd â’r ganran isaf o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19.

O ystyried ein proffil demograffig ac economaidd-gymdeithasol a’n proffil iechyd, nid dyma y byddem wedi’i ddisgwyl ar ddechrau’r pandemig.

Nid yw hyn yn achos dathlu. Y gwirionedd yw bod 2,187 o farwolaethau ychwanegol wedi’u cofrestru yng Nghymru rhwng 29 Chwefror a 5 Mehefin wrth i’r feirws hwn ledaenu i bob cwr o’n gwlad. Ond mae’n bwysig rhoi ein ffigurau yn eu cyd-destun a cheisio deall pam y mae cyfraddau marwolaethau ychwanegol is na rhannu eraill o dir mawr Prydain wedi bod mewn dwy ardal – Cymru a De-ddwyrain Lloegr – sydd â phoblogaethau hŷn yn draddodiadol.

Bydd hyn yn cynnwys deall llawer o ffactorau – megis oedran, amddifadedd, dwysedd poblogaeth ac ethnigrwydd. Rydym yn gwybod bod cyfraddau marwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn uwch yn ein cymunedau lleiaf cefnog – mae’r gyfradd marwolaethau yn ein cymunedau lleiaf cefnog bron ddwywaith yn fwy nag yn yr ardaloedd mwyaf cefnog yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa waith dadansoddi pellach y gellir ei wneud i helpu i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth a’n dealltwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, edrych ar y cysylltiad rhwng ffactorau risg megis galwedigaeth, tai a chydafiachedd fel clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint.

Byddaf yn cyhoeddi adroddiad interim cyn toriad yr haf. Rwy’n disgwyl cyhoeddi adroddiad terfynol yn ystod yr haf i sicrhau ein bod wedi ystyried y materion hyn cyn unrhyw frig arall yn sgil y pandemig hwn dros yr hydref a’r gaeaf.

Gwasanaethau sgrinio

Yn olaf, hoffwn grybwyll sgrinio am ganser. Rwy’n deall pryderon pobl ynghylch ailddechrau rhaglenni sgrinio hanfodol am ganser. Bydd y rhaglenni sgrinio am ganser a gafodd eu hatal dros dro yn ailddechrau yn yr haf, a hynny’n raddol gan ddechrau gyda’r rhaglen sgrinio serfigol. O ddiwedd mis Mehefin ymlaen, bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn gwahodd unigolion a ddylai fod wedi cael ail brawf cynnar.

O fis Gorffennaf ymlaen, mae Bron Brawf Cymru yn bwriadu dechrau anfon gwahoddiadau sgrinio i fenywod sydd â mwy o risg a bydd Sgrinio Coluddion Cymru yn dechrau anfon pecynnau profi. Fel yr arfer, bydd y rhaglenni sgrinio yn cysylltu â’r rhai sydd i fod i gael eu sgrinio. Wrth gwrs, dim ond os yw’n ddiogel y bydd y rhaglenni yn ailddechrau.

Byddaf wrth gwrs yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau a’r cyhoedd ynglŷn â’r camau yr ydym yn eu cymryd er mwyn Diogelu Cymru.