Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y cyfnodau heriol hyn, rwyf am dalu teyrnged i bawb sy’n gweithio’n ddi-flino i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn cael ei gynnal a’i gadw ar gyfer teithiau hanfodol. 

Mae’r gwaith parhaus yn cynnal a chadw a gweithredu’r rhwydwaith ffyrdd strategol yn hollbwysig i sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel i bobl deithio arnynt ar gyfer teithiau hanfodol, i’r gwasanaethau brys a cherbydau cludiant i gludo nwyddau a chyflenwadau.  Rydym hefyd yn gwybod, i nifer o bobl sy’n gweithio ym maes adeiladu, bod eu swydd yn galw iddynt deithio.   

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cydymffurfir â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol o ddau fetr.  Mae hyn yn cynnwys gweithleoedd yn yr awyr agored megis safleoedd adeiladu a gwaith ar y ffyrdd.  Mae’r Canllawiau sy’n cyd-fynd â’r rheoliadau’n egluro beth mae camau rhesymol yn ei olygu yn ymarferol – nid atal pobl rhag gweithio yw’r nod, os nad ydynt yn gallu gweithio gartref, yn hytrach newid y ffordd mae pobl yn gweithio. 

Mae gweithwyr proffesiynol, diwydiannau a chyrff masnachu eraill, gan gynnwys Cyngor Arwain ar Adeiladu ar gyfer y diwydiant adeiladu, wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol ynghylch cydymffurfio â’r rheoliadau newydd ac arfer gorau.    

Mae copi o ganllawiau Llywodraeth Cymru i’w gweld yma: https://llyw.cymru/cymryd-pob-cam-rhesymol-i-gynnal-pellter-corfforol-yn-y-gweithle.

Os yw contractwyr ac awdurdodau yn hyderus bod eu safleoedd yn cydymffurfio â’r rheoliadau a’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol, cânt ddechrau gweithio unwaith eto. 

Mae TUC Cymru wedi lansio llinell chwythu’r chwiban ar gyfer unrhyw weithiwr sydd am nodi pryderon iechyd a diogelwch.  Nid oes yn rhaid iddynt fod yn aelod o undeb i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.  Mae gwybodaeth i’w gael am y llinell gymorth ar https://www.tuc.org.uk/news/covid-19-health-and-safety-concerns-work

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi ein diwydiant adeiladu ffyrdd yng Nghymru a’i gyflenwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn, i sicrhau bod ganddynt ddyfodol ar ôl y pandemig.  Rwyf hefyd yn gobeithio bod y cyhoedd yn cefnogi ein gweithlu wrth iddynt wneud eu gwaith hanfodol o gynnal ein rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru. 

Rwyf yn cysylltu’n rheolaidd gydag arweinwyr y diwydiant ynghylch y sefyllfa sy’n datblygu o fewn y sector, ac rwyf wedi ymrwymo’n llawn i barhau i drafod yn ystod y misoedd nesaf.   

Diolch eto i bawb sy’n cynnal y sector adeiladu ffyrdd yng Nghymru.  Rydych yn gwneud cyfraniad hollbwysig sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr i gydnerthedd ein gwlad, a hoffwn i ddiolch ichi am yr ymdrechion enfawr yr ydych chi yn ei wneud i gefnogi economi Cymru.