Mark Drakeford AC, y Prif Weinidogr
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Brexit Heb Gytundeb, sy'n amlinellu'r peryglon strategol ar'r effeithiau posib sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE heb gytundeb. Mae'r cynllun hefyd yn darparu golwg gyffredinol ar y mesurau a'r camau gweithredu a fyddai'n helpu i liniaru'r effeithiau hyn gymaint â mae posib gwneud hynny.
Mae perygl gwirioneddol o hyd y byddwn yn ymadael â'r UE heb gytundeb. Pasiwyd Deddf gan Senedd y DU yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Weinidog y DU ofyn am estyniad i Erthygl 50 tan ddiwedd mis Ionawr 2020 os na fydd cytundeb ymadael wedi'i gytuno erbyn 19 Hydref. Ond er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i bob un o'r 27 Aelod-wladwriaeth gytuno i'r estyniad – ac nes i ni gael cadarnhad bod estyniad wedi'i geisio a'i gytuno gan holl aelodau'r UE, nid oes modd i ni ddiystyru'r perygl o ymadael heb gytundeb ddiwedd mis Hydref. Hyd yn oed o gael estyniad, mae'n bosibl mai'r unig beth y byddai hynny yn ei wneud fyddai gohirio'r perygl o ymadael heb gytundeb am fis neu ddau.
Am y rheswm hwnnw, rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i baratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb a chanlyniadau hynny.
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei rhagdybiaethau Operation Yellowhammer, ar ôl i Senedd y DU eu gorfodi i wneud hynny. Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cynllun gweithredu hwn yn wirfoddol i helpu pobl a busnesau i ddeall goblygiadau posib ymadael heb gytundeb a’r gwaith sy'n mynd rhagddo i geisio lliniaru'r peryglon hynny.
Nid oes modd i unrhyw lefel o weithredu gan Lywodraeth Cymru - nac yn wir gan Lywodraeth y DU - wneud yn iawn am y niwed y byddai Brexit heb gytundeb yn ei wneud i Gymru.
Rydym wedi dweud o'r cychwyn y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru. Ni ddylid ei ystyried fel canlyniad derbyniol ac mae rhaid ei osgoi. Byddai'r effeithiau economaidd yn affwysol, ond byddai canlyniadau ymadael heb gytundeb yn mynd llawer ymhellach na hynny gan dreiddio drwy'n cymdeithas a'n cymunedau am flynyddoedd i ddod. Rwy'n arbennig o bryderus y byddai'r rhai mwyaf agored i niwed yn ysgwyddo'r baich trymaf.
Mae'r cynllun gweithredu yn rhoi crynodeb lefel uchel o'r camau yr ydym wedi eu cymryd, ac yn eu cymryd, i liniaru'r catalog o effeithiau ymadael heb gytundeb. Dyma waith ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen ers dechrau datganoli.
Mae'r camau gweithredu yn canolbwyntio ar gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, dinasyddion Cymru a'n heconomi. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r cynllun hwn i ganolbwyntio ein gweithgarwch dros y misoedd nesaf, gan wneud popeth o fewn ein gallu i atal ymadael heb gytundeb ar yr un pryd. Bydd rhagor o ddatganiadau i'r Cynulliad dros yr wythnosau nesaf i roi rhagor o fanylion am y camau gweithredu hyn, ac fe fyddwn yn parhau i weithio'n agos ac yn ddwys gyda'n partneriaid yng Nghymru i wneud ein gorau ar ran pobl, cymunedau a busnesau Cymru.
Cynllun gweithredu ymadael heb gytundeb
Ceir rhagor o'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch paratoadau ar gyfer Brexit drwy wefan Paratoi Cymru ac mae gwybodaeth i fusnesau ar gael drwy Borth Brexit Busnes Cymru.