Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Yn ychwanegol at fy Natganiad Ysgrifenedig ym mis Medi 2021 (Datganiad Ysgrifenedig: Ehangu mynediad i’r celfyddydau yng Nghymru (6 Medi 2021) | LLYW.CYMRU) rwy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gyhoeddiad y Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad gan Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Datblygwyd y cynllun gweithredu mewn ymateb i dri adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd gan y ddau sefydliad yn 2020, er mwyn nodi sut y gallent ehangu ymgysylltiad â phobl a chymunedau y maen nhw’n methu’n gyson â chymryd rhan yn eu gwaith. Ystyriodd Re:cognition, Richie Turner Associates ac Undeb Gwrth-hiliol Celfyddydau Cymru ardal lled wledig dlawd; pobl fyddar ac anabl ac amrywiaeth diwylliannol ac ethnig, yn y drefn honno. Cafwyd eu cyhoeddi ym mis Awst 2021 (https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/ymchwil-ehangu-ymgysylltiad). Cyflwynodd pob un broblemau heriol, nid yn unig i Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ond i bob un ohonom yng Nghymru.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn seiliedig ar werthoedd penodol Cymru sef cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Yn ein barn ni, dylai’r celfyddydau a’n treftadaeth ddiwylliannol ehangach fod ar gael i bawb eu mwynhau ac i ddysgu ohonynt ac rydym yn ymrwymedig i ehangu’r mynediad hwnnw. Felly, rwyf wedi bod yn glir iawn bod yn rhaid i’r ymateb gan ein cyrff noddedig i’r heriau hyn fod yn gadarn ac effeithiol gan adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodais ar eu cyfer yn eu llythyrau cylch gwaith – gan gynnwys dathlu amrywiaeth, gwella mynediad a chyfranogiad i bawb, mynd i’r afael â phob achos o anghydraddoldeb a chyfrannu’n uniongyrchol at sicrhau Cymru wrth-hiliol.
Mae fy swyddogion wedi gweithio’n agos gydag Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ac rwyf wedi cwrdd ag arweinwyr y ddau sefydliad er mwyn sicrhau eu bod yn deall yn llawn y flaenoriaeth a roddir ar fynd i’r afael â’r materion hyn, gan Lywodraeth Cymru yn gyffredinol a gennyf fi.
Rwy’n croesawu’r camau y maen nhw bellach wedi’u cymryd mewn ymateb i’r argymhellion yn y tri adroddiad ac i nodi cynlluniau realistig i ddatblygu’r gwaith hanfodol hwn. Rwyf nawr yn disgwyl i’r camau gweithredu angenrheidiol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu gael eu cymryd ac yn edrych ymlaen at hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ddau sefydliad i gymryd y camau gweithredu hyn, er mwyn helpu i wella mynediad at y celfyddydau a threftadaeth ledled Cymru.