Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Yn ogystal â’r camau rydym eisoes wedi’u nodi yn y Gyllideb ddrafft, i gyflawni ein huchelgais o sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach, mae’r Llywodraeth hon wedi cymryd camau pellach i helpu’r bobl y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio fwyaf arnynt. Mae’r camau hyn yn cynnwys dyrannu pecyn o fesurau gwerth mwy na £160 miliwn yn 2022-23 i helpu’r bobl sydd â’r angen mwyaf. Caiff y pecyn ei adlewyrchu yn ein dyraniadau yn y Gyllideb derfynol ac mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Mae’r Gyllideb derfynol hefyd yn cynnwys dyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol a nifer o newidiadau gweinyddol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r rhaglen Buddsoddi i Arbed.
Mae dogfennau’r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru:
- Cynnig y Gyllideb Flynyddol;
- Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (tablau BEL); a
- Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol.
Mae’r ddogfen ganlynol, sy’n rhan o’r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i gyhoeddi Datganiad y Gwanwyn ar 23 Mawrth. Rwyf yn bwriadu gwneud datganiad mor gynnar â phosibl yn dilyn hyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon a manylion unrhyw symiau canlyniadol i Gymru.
Cynhelir dadl a phleidlais ar y Gyllideb derfynol yn y Senedd ar 8 Mawrth.