Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Rhaid wrth newid brys, o ran ein defnydd o blastig a hefyd o ran y gyfraith ynghylch gwerthu plastig, rhag i ni adael gwaddol o wenwyn i’r cenedlaethau a ddaw. Mae llawer o bobl yng Nghymru eisoes yn cymryd camau i leihau ein dibyniaeth ar blastig untro gan newid arferion a gwneud cynnyrch a gwasanaethau’n fwy cynaliadwy. Fel Llywodraeth, rydym yn ymrwymo i gefnogi’r ymdrechion hyn. Mae hynny’n cynnwys defnyddio’r pwerau sydd gennym i wahardd defnyddio mwy o blastig untro ac annog mwy o gymunedau a busnesau i wneud newidiadau positif i leihau gwastraff plastig.
Mae cynnyrch plastig yn anodd ei ailgylchu, mae’n aml yn cael ei daflu mewn ffordd amhriodol ac mae’n para flynyddoedd lawer, gyda llawer ohono’n crynhoi yn ein strydoedd, yn ein cefn gwlad ac ar ein traethau. Hyd yn oed pan mae eitemau plastig yn dechrau diraddio, maen nhw’n niweidio’n bywyd gwyllt a cheir tystiolaeth gynyddol o blastig mewn pysgod, sglefrod môr, adar y môr a mamaliaid y môr. Mae rhai o’r rhain yn rhan o gadwyn fwyd pobl. Mae ymchwil yn dangos bod plastig yn yr amgylchedd yn tynnu ac yn amsugno llygryddion eraill, fel metelau trwm, gan ei wneud hyd yn oed yn fwy peryglus i’r anifeiliaid, y microbau a’r planhigion sy’n dod i gysylltiad ag ef. Rhaid wrth ymateb radical a phenderfynol i fynd i’r afael ag effeithiau hirhoedlog, eang, ansicr a chynyddol llygredd plastig.
Mae ein hymgynghoriad Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro, y mae’n bleser gen i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion iddo heddiw, yn dangos bod yna gefnogaeth gref i’n cynigion deddfwriaethol. Mae llawer o bobl yn pwyso arnon ni i fynd ymhellach. Mae’r galw arnon ni i weithredu yn amlwg yn y nifer cynyddol o ‘Gymunedau Di-Blastig’ sydd wedi’u sefydlu ledled y wlad.
Mae llawer o bobl ifanc, gan gynnwys y rheini yn Senedd Ieuenctid Cymru, yn hyrwyddo gweithgarwch i daclo llygredd plastig. Rwyf wedi cael llawer i drafodaeth gyda phlant ysgol sy’n dweud bod hwn yn fater y mae’n rhaid i ni ei unioni’n gyflym.
Ar 5 Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog gam gyntaf ein gwaith, fydd yn cael ei wneud trwy’r Bil Cynnyrch Plastig Untro a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod ail flwyddyn tymor y Senedd hon. Rwy’n ei weld fel y cam cyntaf mewn rhaglen o fesurau ar gyfer taclo llygredd plastig a gwireddu’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i wahardd cynnyrch plastig untro sy’n cael eu taflu fel sbwriel. Mae aelodau o bob rhan o’r Senedd wedi bod yn galw arnom i weithredu ar frys i leihau’n defnydd o blastig untro nad yw’n hanfodol ac nad yw’n feddygol. Rwy’n disgwyl ymlaen felly at weithio gyda’r holl bleidiau i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer plastig mor uchelgeisiol ag y gallent fod, gan adeiladu ar ein pryderon cyffredin a phryderon y cymunedau rydym yn eu cynrychioli.
Y cynigion yn ein hymgynghoriad yw gwahardd cytleri, platiau, troellwyr diodydd, gwellt yfed, ffyn cotwm, ffyn balŵns, cwpanau polystyrene a chynnyrch wedi’u gwneud o blastig ocso-bioddiraddiadwy. Yn dilyn yr adborth i’r ymgynghoriad, rwy’n awyddus i fynd ymhellach ac rwyf am ddefnyddio’r ddeddfwriaeth i sbarduno’n huchelgais ehangach ar gyfer gwastraff a ddisgrifir yn ein Strategaeth Economi Gylchol, Mwy nag Ailgylchu ac yn ein Cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys camau i sicrhau mai Cymru fydd y wlad gyntaf i roi’r gorau i anfon plastig i domenni tirlenwi ac i leihau ein dibyniaeth ar gynnyrch sy’n deillio o danwydd ffosil sy’n cyfrannu at yr argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae aruthredd yr argyfyngau hyn yn golygu bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i iechyd ein hamgylchedd. Gwnaeth Cymru a mannau eraill brofi gwres mawr yn ddiweddar, lefelau uwch na’r rheini a ragwelir gan fodelau hinsawdd confensiynol. Mae hyn yn tanlinellu’r ffaith nad oes gennym amser i’w golli a bod gennym lai o gyfle i weithredu nag oeddem yn ei gredu. Er mwyn lleihau bygythiad tymereddau byd-eang uwch ac i ddiogelu ein pridd, ein dŵr a’n bywyd gwyllt rhag niwed, rhaid lleihau’r swm o blastig untro rydym yn ei ddefnyddio cyn gynted ag y medrwn.
Er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig, rhaid i ni newid ein harferion, a dysgu defnyddio cynnyrch a gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae newid o’r fath yn bosib, fel y mae llawer o fusnesau arloesol a chymunedau brwd ledled Cymru yn ei ddangos i ni bob dydd. Rydyn ni’n deall y bydd rhai pobl a busnesau yn ei chael hi’n anos dygymod â’r newidiadau hyn nag eraill ac y bydd angen amser a chefnogaeth arnynt. Ond mae angen dybryd i ni brysuro’r newid rhag creu difrod amgylcheddol a fydd yn costio’n ddrud i genedlaethau heddiw ac yfory. Yn yr un modd, daw cyfleoedd i greu budd economaidd lleol ac i gymunedau ddod ynghyd yn eu hawydd am amgylchedd lleol glân.
Mae’r ymgynghoriad hwn ar blastig untro’n adlewyrchu’r graddau y mae pobl Cymru yn mynnu newid a’u hymrwymiad i wireddu’r manteision hyn ac i drechu’r heriau. Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod y diwygiadau a wnawn yn y maes hwn yn ymateb i’r arweiniad a ddangosir gan bobl Cymru, i sicrhau newid go iawn yn ein defnydd o blastig, a hynny dros Gymru wyrddach, decach a mwy ffyniannus.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.