Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Daeth y Rheoliadau Sefydlu i greu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol ar gyfer Gogledd, Canolbarth, De-ddwyrain a De Cymru i rym ar 1 Ebrill, ac maent yn caniatáu i Gyd-bwyllgorau ddechrau cyfarfod pe baent yn dymuno gwneud hynny. Mae hyn hefyd yn rhoi amser i’r Cyd-bwyllgorau roi'r trefniadau cyfansoddiadol a llywodraethu angenrheidiol ar waith a phennu’r gyllideb ar gyfer 2022/23 cyn dechrau'r swyddogaethau allweddol yn ystod 2022.
Heddiw, fel rhan o'r gwaith graddol o sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol, y bydd y Cyd-bwyllgorau yn gweithredu oddi tano, bwriadaf lansio ymgynghoriad ar y set nesaf o reoliadau cyffredinol – Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
Mae'r ymgynghoriad technegol wyth wythnos ar y rheoliadau cyffredinol drafft (sydd i fod i gau ar 6 Medi) yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd ym mis Hydref 2020 a oedd yn ceisio barn ar y dull cyffredinol o ddatblygu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Cafwyd cefnogaeth ysgubol, yn enwedig gan awdurdodau lleol, i’r Cyd-bwyllgorau fod yn ddarostyngedig i'r un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau yn y ffordd y maent yn gweithredu; cael yr un fframwaith llywodraethu a gweinyddol yn fras; a chael disgresiwn priodol ar fanylion trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gam nesaf y dull o ddatblygu fframwaith deddfwriaethol ehangach Cyd-bwyllgorau Corfforedig a chymhwyso elfennau penodol o'r fframwaith hwnnw.
Bydd y rheoliadau yn darparu ar gyfer y canlynol:
- rolau rhai 'swyddogion gweithredol' i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgorau
- rhai darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff Cyd-bwyllgorau
- cyflawni swyddogaethau Cyd-bwyllgorau gan bersonau eraill (is-bwyllgorau, staff etc)
- rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion Cyd-bwyllgorau
- nifer bach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol a oedd yn angenrheidiol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth (gan gynnwys y rheoliadau a sefydlodd Cyd-bwyllgorau Corfforedig) o ganlyniad i roi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau.
Bydd y rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a byddant yn cael eu hystyried gan y Senedd ddiwedd yr hydref.
Bydd trydydd cam, yr ymgynghorir arno yn hydref 2021, yn rhoi deddfwriaeth bellach ar waith ar gyfer gweithredu'r Cyd-bwyllgorau a'u swyddogaethau gan gynnwys craffu a llywodraethu a darpariaeth bellach ar staffio.
Yna, bydd pedwerydd cam yn sefydlu unrhyw ddarpariaethau sy'n weddill y gallai fod eu hangen ar Gyd-bwyllgor Corfforedig, ond sy'n annhebygol o fod eu hangen pan fyddant yn dechrau cyflawni eu swyddogaethau. Byddwn yn ymgynghori ar y cam hwn yng Ngwanwyn 2022.
Heddiw rwyf hefyd yn lansio ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar gyfer Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a fydd yn rhedeg am 12 wythnos tan 4 Hydref.
Mae'r canllawiau statudol drafft yn nodi'r egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i weithrediad Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae'r canllawiau hefyd yn tynnu sylw at faterion y bydd aelodau am eu hystyried wrth sefydlu'r trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol ar gyfer eu Cyd-bwyllgor Corfforedig.
Mae swyddogion wedi bod yn trafod gydag amrywiaeth o swyddogion llywodraeth leol i gyd-gynhyrchu'r canllawiau drafft. Mae hyn wedi cynnwys Cymdeithas Trysoryddion Cymru, fforwm Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol, Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol a CLlLC. Mae swyddogion hefyd wedi ymgysylltu â TUC Cymru ac undebau llafur allweddol eraill i drafod agweddau ar y canllawiau sy'n gysylltiedig â'r gweithlu.
Neges glir gan lywodraeth leol yn ystod y cyfnod hwn o gyd-gynhyrchu fu'r awydd am hyblygrwydd i benderfynu ar ei dull ei hun o sefydlu ei Chyd-bwyllgorau Corfforedig, a’u cynllunio i gyd-fynd ag amgylchiadau rhanbarthol ac ystyried strwythurau rhanbarthol sy'n bodoli eisoes. Felly, mae'r canllawiau drafft wedi'u datblygu mewn ffordd sy'n ceisio darparu'r hyblygrwydd hwn.
Mae'r ddogfen ymgynghori a'r dogfennau ategol i'w gweld drwy’r ddolen ganlynol: