Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi ein dadansoddiad o'r 1,680 o ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod adborth ar gyfer canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru. Roedd hyn yn cynnwys sylwadau ymarferwyr, athrawon, uwch-arweinwyr a llywodraethwyr o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd ynghyd â lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir a rhieni. Gofynnwyd hefyd am farn plant a phobl ifanc yn benodol, a hynny drwy 24 grŵp ffocws ar draws Cymru.
Mae'r adborth sylweddol a gafwyd, a'i fanylder, yn dystiolaeth o ansawdd y mewnbwn yr ydym wedi'i gael, ac rydym wedi ystyried yr ymatebion yn ofalus ac yn fanwl. Mae'r adroddiadau yn:
- crynhoi'r adborth a gafwyd, gan nodi'r prif dueddiadau a chanfyddiadau;
- dadansoddi'r adborth a gafwyd gan blant a phobl ifanc.
Mae'n amlwg o'r adborth bod cefnogaeth eang i ethos a dull gweithredu'r cwricwlwm newydd, i'r syniad o roi mwy o awdurdod i athrawon o fewn y cwricwlwm, ac i'r pwyslais ar asesu i lywio'r addysgu a'r dysgu. Tynnwyd sylw hefyd at nifer o ffyrdd o wella'r canllawiau. Roedd dwy thema eang:
- Dylid symleiddio'r canllawiau, gan gynnwys yr iaith a'r cysyniadau a ddefnyddiwyd i gyfleu agweddau ar y cwricwlwm, a'r strwythur a'r dull cyflwyno.
- Byddai'r canllawiau'n elwa o fwy o ddyfnder a manylder mewn rhai mannau er mwyn helpu ymarferwyr ac athrawon i ddeall sut i roi'r cwricwlwm ar waith.
Mae natur fanwl llawer o'r ymatebion, yn enwedig y rhai gan ymarferwyr, grwpiau diddordeb arbennig a sefydliadau'r sector cyhoeddus, yn rhoi adborth defnyddiol a her i'r broses fireinio. Bydd y canllawiau'n elwa'n sylweddol o'r adborth a'r cyfle i ystyried y cwricwlwm yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag ystyried pob elfen unigol ar wahân.
Ers dechrau mis Medi, mae'r ymarferwyr Gwella Ansawdd wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai gyda chynrychiolwyr o'r consortia rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru, i fireinio'r canllawiau yn sgil yr adborth. Canolbwyntiwyd ar:
- Symleiddio'r canllawiau a sicrhau bod y strwythur a'r derminoleg yn glir ac yn cyfleu'r ymddygiadau bwriedig;
- Llunio canllawiau er mwyn i ysgolion allu cynllunio cwricwlwm;
- Alinio'r cwricwlwm a'r dulliau asesu yn fwy eglur;
- Sicrhau bod y dysgu a'r cynnydd hanfodol wedi'u mynegi'n glir ac yn gywir;
- Ymdrin â materion penodol ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad.
Caiff ymarferwyr eu cefnogi gan amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys:
• Dau gyfarfod o'r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu, ar gyfer arbenigedd o ran cynllunio'r cwricwlwm er mwyn cefnogi a llywio egwyddorion mireinio;
• Golygyddion dwyieithog er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb y canllawiau yn eu cyfanrwydd;
• Arbenigwyr ar feysydd penodol a sefydliadau rhanddeiliaid i gefnogi'r broses o fireinio elfennau mwy manwl y canllawiau.
Ym mis Ionawr, byddwn yn cyhoeddi fframwaith Cwricwlwm i Gymru at ddibenion cynllunio cychwynnol, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws yr haen ganol i ddatblygu disgwyliadau cyffredin ar gyfer ysgolion o ran ymateb i'r fframwaith a pharatoi ar gyfer 2022.
Bydd gwaith yn parhau y tu hwnt i fis Ionawr i ddatblygu deunyddiau ychwanegol, er enghraifft fframwaith ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a ariennir a chanllawiau penodol ar gyfer Unedau Cyfeirio Disgyblion a darparwyr Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS).
Fel rhan o'n hymgysylltu parhaus gyda'r OECD i gefnogi'r gwaith diwygio, comisiynais asesiad mwy diweddar o'r daith tuag at wireddu'r cwricwlwm a'r diwygiadau cysylltiedig. Bydd yr OECD yn cyhoeddi adroddiad ar eu canfyddiadau yn y gwanwyn a fydd yn helpu i lywio camau nesaf ein proses ddiwygio.