Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae iaith wastad wedi bod yn bwysig yn y maes iechyd a gofal gan fod cyfathrebu yn allweddol er mwyn ymateb i anghenion unigol cleifion / defnyddwyr gwasanaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod derbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn elfen allweddol o ofal, yn arbennig wrth drafod pryderon sensitif ac emosiynol. Mae Mwy na geiriau, fframwaith strategol Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar ddarparu gofal sy’n bodloni anghenion unigolion.
Ar ddiwedd 2018 fe gomisiynwyd Ymchwil Arad ac Ymchwil OB3 i gynnal gwerthusiad o Mwy na geiriau. Nod y gwerthusiad oedd asesu sut ac i ba raddau roedd y fframwaith olynol wedi cyflawni ei nod o hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd hefyd am adnabod yr hyn oedd yn rhwystro ac yn hwyluso gweithredu saith amcan allweddol y fframwaith olynol. Cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso heddiw.
Mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn dangos fod gallu defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i brofiad siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol ac mewn sawl achos i’w deilliannau iechyd a lles. Ond dangosodd y canfyddiadau hefyd fod defnyddwyr gwasanaeth yn aml yn ei chael hi’n anodd i gael gafael ar y gwasanaethau y maent eu hangen a maent yn amharod i ofyn amdanynt pan nad ydynt yn cael eu cynnig.
Dangosodd yr adroddiad fod cynnydd wedi’i wneud mewn perthynas â phob un o’r saith amcan, er nad oes modd dweud fod yr un ohonynt wedi’i gyflawni yn llwyr hyd yma. Gwnaed cynnydd sylweddol mwn rhai meysydd, e.e. o fewn arferion addysg uwch, ond llai o gynnydd mewn meysydd eraill e.e. capasiti iaith Gymraeg systemau a phrosesau i gofnodi a rhannu dewis iaith.
Dangosodd y canfyddiadau hefyd feysydd o arfer da mewn perthynas â gweithredu’r Cynnig Rhagweithiol mewn rhai lleoliadau. Er hynny, ymddengys fod llawer o’r arferion hyn, er bod Mwy na geiriau wedi dylanwadu arnynt, wedi cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i fentrau lleol neu ymdrechion ychydig o unigolion o fewn lleoliadau penodol yn hytrach na chynllun neu bolisi ar draws y sector neu leoliadau.
Yn gyffredinol, mae Mwy na geiriau a’r ffocws ar y Cynnig Rhagweithiol (darparu’r dewis o wasanaeth Cymraeg i gleifion heb iddynt orfod gofyn amdano) wedi annog cynnydd cadarnhaol da o ran codi ymwybyddiaeth am yr angen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i ddefnyddwyr sy’n siarad Cymraeg. Y brif her o hyd yw cefnogi’r sector i gyflwyno arferion a systemau sy’n galluogi ac yn sicrhau fod y Cynnig Rhagweithiol yn cael ei ddarparu ar draws pob lleoliad.
Dengys canfyddiadau’r gwerthusiad fod yna angen o hyd am Mwy na geiriau. Er hynny, awgryma’r adroddiad gwerthuso y bydd angen o bosibl i swyddogaeth Mwy na geiriau newid o fod yn fframwaith strategol sy’n sail i’r sector gynllunio darpariaeth, i fod yn alluogydd, yn cefnogi’r sector i gyflwyno’r blaenoriaethau y cytunir arnynt a chefnogi nodau Cymraeg 2050.
Bwrdd Partneriaeth y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n goruchwylio’r gwaith o weithredu Mwy na geiriau a mae’n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff proffesiynol allweddol. Rwyf wedi cytuno i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen bychan i ddatblygu cynllun gwaith 5 mlynedd ar gyfer Mwy na geiriau yn seiliedig ar argymhellion y gwerthusiad a thystiolaeth arall. Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cwrdd yn rheolaidd o fis Medi ymlaen gan roi cyngor a chyfarwyddyd i mi ar y camau nesaf erbyn 5 Tachwedd.
Caiff y datganiad hwn ei ryddhau yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r aelodau. Pe bai’r aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.